Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Blas ar y Beibl 2Sampl

Blas ar y Beibl 2

DYDD 1 O 28

Darlleniad: 1 Thesaloniaid 5:16-18 Bod gyda lesu bob dydd Wnest ti lwyddo i orffen Blas ar y Beibl 1? Mae’n gallu bod yn ddisgyblaeth anodd weithiau. Gad i ni weld sut y gallwn ni fel disgyblion i lesu Grist ddefnyddio’r myfyrdodau Beiblaidd dyddiol yma i ddod i’w nabod o’n well ac i fyw’n ffyddlon iddo bob dydd. Tria ddilyn y patrwm yma: 1. Cyn gynted ag sydd modd ar ôl codi o’r gwely yn y bore, tro at Dduw mewn gweddi. Gofyn iddo dy helpu i ddeall ei Air yn iawn ar gyfer y diwrnod hwnnw. 2. Darllen yr adran o’r Beibl sydd wedi ei nodi yn ofalus ac yn feddylgar. 3. Wedi darllen yr adnodau o’r Beibl, dilyn y myfyrdod sydd wedi ei baratoi ar gyfer y diwrnod hwnnw — bydd yn tynnu rhyw wers werthfawr o’r rhan o’r Beibl wnest ti ei ddarllen. 4. Defnyddia’r weddi ar waelod y dudalen i siarad hefo Duw, a rhanna dy deimladau â’r Arglwydd ei Hun. 5. Aros am funud cyn codi a meddwl am y cwbl wyt ti wedi ei ddarllen. A oes penderfyniad y mae’n rhaid i ti ei wneud? Os oes, gwna hynny yn dawel o flaen Duw a dos allan i weithredu’r penderfyniad. Beth am weddio gweddi fer yn gofoyn i Dduw dy helpu: Arglwydd lesu, helpa fi i ddefnyddio’r myfyrdodau Beibladd hyn bob dydd i ddod i dy nabod Di yn well. Dw i eisiau bod yn gwbl agored o dy flaen di Di, Arglwydd, er mwyn i mi dyfu ar hyd y flwyddyn yn ddisgybl gwell i ti. Er mwyn Iesu Grist. Amen. BDGI - addasiad Alun Tudur
Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Blas ar y Beibl 2

Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru. Mae Blas ar y Beibl 2 yn addasiad gan Alun Tudur o Bob Dydd Gyda Iesu. Defny...

More

Hoffem ddiolch i Arfon Jones, gig a beibl.net, am ddarparu’r cynllun hwn.

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd