Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Sgyrsiau gyda DuwSampl

Conversations With God

DYDD 7 O 14

Fel mam sy'n dysgu'r plant gartref dw i'n defnyddio rhan o'r haf i osod ambell nod a gosod y cwricwlwm. Doedd haf 1999 yn ddim gwahanol, ond mod i'n canolbwyntio gymaint mwy gan fy mod i'n disgwyl ein seithfed plentyn yn Hydref. Roedd rhaid imi feddwl drwy popeth yn ofalus cyn nad oedd gen i amser i feddwl mwyach.


Ar ôl cryn dipyn o drefnu roedd un penderfyniad pwysfawr i'w wneud. Roedd Samuel oedd bron yn bedair oed yn stryglo gyda'i leferydd. Meddyliais y gallai therapi lleferydd helpu. Ond mewn amserlen ysgol lle gallai rhywbeth mor ddiniwed â chymryd galwad ffôn chwalu'r cyfan, gallai apwyntiadau canol y dydd fod yn ormod i'r teulu i ddygymod ag e. Ar y llaw arall, beth os mai'r flwyddyn hon oedd y cyfle gorau i ddatblygiad lleferydd Samuel, a ro'n i'n rhy ddiog i fynd ag e i ddosbarth syml?


Dw i'n cofio'n benodol iawn y prynhawn Sadwrn es i allan am dro i siarad gyda'r Arglwydd. Dyma ddwedais i wrtho: "“Dyma beth mae’n rhaid i mi ei wybod: A ddylai Samuel gael therapi lleferydd eleni, neu a allwn i aros nes ei fod yn bump oed?” Roedd mor syml â hynny. Dilynodd distawrwydd, ond ni ches i mo'n siomi. Byddai'r Arglwydd yn sicr o ddangos i mi. Roeddwn i'n gwybod oherwydd ei fod bob amser wedi o'r blaen. Felly mi wnes i bwyso ymlaen yn ddisgwylgar.


Dydd Sul oedd y diwrnod nesaf, ac roedd ein teulu yn yr eglwys fel arfer. Pan oedd hi'n amser am y bregeth fe wnaeth ein gweinidog, Jessica Moffat, ruthro lawr y llwybr canol wedi'i gwisgo fel Suzanne Wesley (mam, John Wesley, sefydlydd yr enwad Fethodistaidd). Yn y monolog ddilynodd, mewn acen Saesnig, beth oedd hi fel, i fod yn fam un deg a naw o blant! Disgrifiodd ei dibyniaeth ar Dduw ar sawl achlysur, ac yna daeth at ei phryder dros ei mab Samuel. Eisteddais i fyny'n syth. Aeth "Suzanna" yn ei blaen drwy esbonio fod yn bum mlwydd oed ac erioed wedi siarad yr un gair. Yn sydyn, un diwrnod, dechreuodd siarad mewn brawddegau llawn.


Gan wrando o fy sedd, dair rhes o'r blaen, ar y chwith gallwn glywed llais yr Arglwydd, ""Fydd Samuel ddim angen siarad nes ei fod yn bum mlwydd oed. Arhosa tan flwyddyn nesaf cyn trefnu therapi lleferydd." Sôn am heddwch, sôn am hyder ar gyfer yr hydref. Do, fe wnaeth Samuel gael therapi y flwyddyn ganlynol, ac fe wnaeth ei ynganu wella'n aruthrol.


Mae'r Arglwydd eisiau i ni ofyn cwestiynau penodol iddo a chael ein harwain gan ei ewyllys. Mae manylion o wirioneddol bwysig iddo,


Diwrnod 6Diwrnod 8

Am y Cynllun hwn

Conversations With God

Mae Sgyrsiau gyda Duw yn drochiant llawen i mewn i fywyd agosach o weddi, gan bwysleisio ffyrdd mwy ymarferol o glywed llais Duw. Mae Duw eisiau i ni fwynhau sgwrs ddi-ddiwedd ag e drwy ein bywyd cyfan - sgwrs sy'n gwneu...

More

Hoffem ddiolch i Susan Ekhoff am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth ewch i: https://www.amazon.com/Prayer-That-Must-Power-Conversational/dp/1496185560/ref=sr_1_1?ie=UTF8&qid=1498693709&sr=8-1&keywords=prayer+that+must%2C+the+power+of+conversational+prayer

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd