Gwybodaeth Cynllun
Sgyrsiau gyda DuwSampl
Yn anaml mae llais yr Arglwydd yn uchel. Mae'r Ysbryd Glân yn sibrwd yn aml. Mewn achosion ble mae e'n nodi pryder yn ysgafn. mae'n syniad da i wahanu ein hunain oddi wrth y magl tebygol. Yn yr un modd, pan mae e'n nodi bendith gallwn ddewis i ufuddhau a chamu i mewn i'r cyfle hwnnw drwy ffydd. Dydy'r Arglwydd ddim yn ailadrodd yr eneiniadau hyn, felly mae'n rhaid i ni wrando'n astud am ei lais a gweithredu.
Un prynhawn ganol haf, derbyniais anogaeth newidiodd y cyfeiriad ro'n i'n mynd iddo'n bendant iawn. Roedd nifer o fy mhlant wedi bod yn mynychu ysgol Gristnogol fach yn ein hardal. Galwodd aelod o'r bwrdd rheoli, a oedd yn ffrind personol hefyd, heibio a holi os baswn i'n ystyried ymgeisio am swydd fel hyfforddwr ysgrifennu i'r ysgol ganol, y tymor canlynol.
Dyna beth oedd syniad annisgwyl. Dw i'n cofio'r pwyso a mesur gymerodd le tu ôl i'm llais ffôn cuddiedig. I ddechrau daeth y esgusion negatif: Gradd arlunio oedd gen i. Doeddwn i'n gwybod fawr ddim am sgwennu cwricwlwmau. Doeddwn i heb weithio tu allan i'm cartref ers blynyddoedd. Byddai dysgu dosbarthiadau tu allan i'n cartref yn siŵr o ansefydlogi ein harferion teuluol sefydlog. Byddai'r swydd hon yn golygu lot o waith - twt lol, faswn i ddim hyd yn oed yn gwybod ble i ddechrau. A pham y basen i'n cael fy mhenodi yn lle athrawon llawer mwy cymwysedig ar gyfer y swydd?
Nesaf, daeth y posibiliadau: Beth os byddai hyn yn gyfle i ddigolledu costau addysgu? Byddai hyd yn oed ychydig incwm yn helpu cyllid y teulu. Yn fwy na hynny, ro'n i wrth fy modd yn dysgu ac yn athro da. Am fod dysgu tu allan i'm cartref yn her i'w chroesawu - hwrê! Os oedd Duw wedi fy newid i ar gyfer y swydd yma, oni fyddai ei ddoethineb a phŵer yn dod law yn llaw gyda'r apwyntiad?
Yn y foment ddryslyd honno. siaradodd yr Arglwydd. Roedd hi fel petai e wedi cyffwrdd fy ysgwydd - unwaith ac yn ysgafn. Dyna'r cyfan. Dangosodd y byddai cael cyfweliad ar gyfer y swydd hon yn lwybr o fendith.
Ro'n i wedi fy apwyntio cyn pen y mis. O fewn dau fis datgelodd yr Arglwydd yr weledigaeth ar gyfer y gwaith cwrs. Erbyn y trydydd, ro'n i'n creu'r cwricwlwm, rhyngweithio gyda'r myfyrwyr, ac er mawr syndod - yn mwynhau'r broses yn ddirfawr. Dw i nawr yn gwybod, heb yr her yma, faswn i ddim wedi bod â'r sgiliau, na hyder, i sgwennu'r llyfr ar weddi, ddilynodd maes o law. Cymaint o fendith sydd wedi dod o ufuddhau i'r un cam hwn.
Am y Cynllun hwn
Mae Sgyrsiau gyda Duw yn drochiant llawen i mewn i fywyd agosach o weddi, gan bwysleisio ffyrdd mwy ymarferol o glywed llais Duw. Mae Duw eisiau i ni fwynhau sgwrs ddi-ddiwedd ag e drwy ein bywyd cyfan - sgwrs sy'n gwneu...
More