Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Sgyrsiau gyda DuwSampl

Conversations With God

DYDD 9 O 14

Weithiau, y cam nesaf mewn gweddi yw ildio. Mae'r allor hwn o'r enaid yn amser penodol ble dŷn ni'n rhyddhau neu ildio ein ewyllys i Dduw a gadael y canlyniad dan ei reolaeth e. Yn y munudau hyn dŷn ni'n gosod y rhannau anwylaf o bwy ydyn ni a'r rhai dŷn ni'n eu caru ger ei fron ac yn camu'n ôl - heb wybod beth fydd yn digwydd nesaf. Gall yr eiliad unig, ataliedig hon deimlo'n hynod o beryglus.


Gweddi berthynol yw gadael fynd mewn perthynas gariadus ag Iesu. Am ei fod yn gwybod y gall ildio ein hewyllys ar gyfer ein hunain a'r rhai dŷn ni'n eu caru fod yn boenus - mae e'n gwybod am hyn o brofiad personol - mae Iesu'n ein cynnal yng nghanol y cyfan. Yn y weithred o ildio, mae'r Ysbryd yn pentyrru ei ras a'r canlyniad yw bendith ei bresenoldeb. Mola ei enw! Wrth i ni ildio, dŷn ni'n syrthio i mewn i freichiau Cariad.


Cymer saib gyda mi a galw i gof yr arwyr Beiblaidd, hanesyddol a phresennol sydd wedi dylanwadu ein bywydau fwyaf. Yr hyn sy'n nodedig gyffredin ymysg y rheiny dŷn ni'n eu hedmygu yw eu profiad wrth yr allor. Yn y foment hon bydd eu hewyllys rhagdybiedig yn gwyro i stop yn erbyn pwrpas gwell Duw ar gyfer eu bywydau, ac maen nhw'n dewis ildio - hyd yn oed os yw'n golygu aberth neu ddioddefaint. Yn anochel, poen eu hymadawiad yw eu hawr orau, ac mae'r digwyddiadau sy'n dilyn yn dod â dylanwad parhaol. Yn yr un modd, pan fyddwn yn ildio ein hewyllys ragdybiedig ac yn derbyn ewyllys a galwad Duw, dŷn ni'n ymuno â'r stori epig wych, antur yn y Deyrnas a fydd yn mynd â ni y tu hwnt i'n hunain.


Ond beth sy'n digwydd os gwelwn werth gweddi o ildiad, ond yn rhy ofnus i'w gweddïo - eto? Y weddi orau nesaf yw, "Arglwydd dw i'n fodlon cael fy ngwneud yn barod." Mae'r ildiad canol y ffordd hwn yn rhyddhau ei gryfder i ddechrau gwneud y pryniant llawn hwn yn bosibl. "Mae Duw ar waith yn eich bywydau chi, yn creu'r awydd ynoch chi ac yn eich galluogi chi i wneud beth sy'n ei blesio fe" (Philipiaid 2, pennod, adnod 13) beibl.net. Gallwn drystio Duw ym mhob cam o'r ildio. does dim sy'n rhy anodd iddo e, ac mae popeth sy'n annwyl i ni, yn ddiogel gydag e.


Diwrnod 8Diwrnod 10

Am y Cynllun hwn

Conversations With God

Mae Sgyrsiau gyda Duw yn drochiant llawen i mewn i fywyd agosach o weddi, gan bwysleisio ffyrdd mwy ymarferol o glywed llais Duw. Mae Duw eisiau i ni fwynhau sgwrs ddi-ddiwedd ag e drwy ein bywyd cyfan - sgwrs sy'n gwneu...

More

Hoffem ddiolch i Susan Ekhoff am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth ewch i: https://www.amazon.com/Prayer-That-Must-Power-Conversational/dp/1496185560/ref=sr_1_1?ie=UTF8&qid=1498693709&sr=8-1&keywords=prayer+that+must%2C+the+power+of+conversational+prayer

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd