Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Sgyrsiau gyda DuwSampl

Conversations With God

DYDD 3 O 14

Mae'r Arglwydd yn ein bugeilio gyda'i lais a dŷn ni'n ymateb gyda'n un ni. Onid ydy hi'n resymol fod yr Un sy'n enwi ei hun fel y Gair yn cyfathrebu drwy'r adeg? Ac ei fod e, wnaeth ein creu i gymuned ag e, wedi aberthu ei hun fel ein bod yn gallu dychwelyd ato, ac yn gwybod beth dŷn ni am dweud cyn i ni ei ddweud, yn hofficlywed yn siarad ag e?


Diolch byth, nid yw'r sgwrs fwyaf ystyrlon hon byth yn seiliedig ar ein daioni, ein cyflawniadau, nac ansawdd ein cwestiynau. Mae'r fraint o glywed a chael eich clywed yn seiliedig ar aberth Iesu yn unig.


Mae'r sgwrs yn dechrau pan mae'r Arglwydd yn estyn amdanon ni. Cariad yw Duw, ac mae'n rhaid i'w gariad ymestyn at berthynas. Ein cyfrifoldeb ni yw adnabod ei lais ac ymateb iddo. Yna, mae e'n ateb yn ffyddlon. Yn y cyfamser dŷn ni'n mwynhau ei bresenoldeb, ufuddhau a thrystio. Dw i'n meddwl mai'r sgwrs ddiddiwedd yma oedd beth anogodd Paul pan ddwedodd, "Daliwch ati i weddïo." Dŷn ni un ai'n gwrando ar yr Arglwydd neu'n datgan rywbeth wrtho gan ddisgwyl am ei ateb. Dyma yw dyletswydd a llawenydd ein bywydau. Maes o law gwelwn na allwn fyw heb yr Arglwydd y sgwrs. Yn syml, rhaid i ni weddïo.


Yn anhepgor mae gweddi'n adeiladu a chryfhau. Mae ein sgwrs gyda Duw'n cyflwyno doethineb a'r cymynrodd yw heddwch. Pan nad ydyn ni'n gwybod sut i symud ymlaen, gweddi yw'r cam rhesymol nesaf. Mae'n ryddhad. Mae'n haws. Mae'n orffwys.


Siarad a gwrando ar Dduw yw'r ymateb naturiol yn ein hangen am gymundeb gydag e - y funud hon. Fel sgyrsiau didwyll Tevya gyda Duw yn Fiddler on the Roof, dŷn ni'n siarad a gwrando ar drwy gydol ein diwrnod arferol. Mae'r Arglwydd yn galw a disgwyl ar ein ffocws i symud. Dw i wastad wedi meddwl pam ei bod hi'n cymryd gymaint o amser i ni bwyso i mewn i'r berthynas. Pan dŷn ni'n troi, dŷn ni gydag e - Yr Ateb.


Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Conversations With God

Mae Sgyrsiau gyda Duw yn drochiant llawen i mewn i fywyd agosach o weddi, gan bwysleisio ffyrdd mwy ymarferol o glywed llais Duw. Mae Duw eisiau i ni fwynhau sgwrs ddi-ddiwedd ag e drwy ein bywyd cyfan - sgwrs sy'n gwneu...

More

Hoffem ddiolch i Susan Ekhoff am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth ewch i: https://www.amazon.com/Prayer-That-Must-Power-Conversational/dp/1496185560/ref=sr_1_1?ie=UTF8&qid=1498693709&sr=8-1&keywords=prayer+that+must%2C+the+power+of+conversational+prayer

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd