Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Chwe diwrnod o Enwau Niferus DuwSampl

Six Days Of The Names Of God

DYDD 6 O 6

DAY 6: EL SIMCHATH GILI – DUW FY LLAWENYDD SY’N RHAGORI


Meddylia am y llawenydd rwyt yn ei brofi pan wyt yn meistroli rhywbeth am y tro cyntaf. Falle dy fod wedi dysgu iaith dramor ddigon da i gael sgwrs gyda brodorion y wlad honno. Neu rwyt yn cwblhau marathon ar ôl sawl milltir o ymdrech. Falle dy fod wedi bod yn gwneud dy orau am flynyddoedd i ennill gradd coleg, ac o’r diwedd yn llwyddo ac yn camu allan ar y llwyfan i dderbyn dy ddiploma. Rwyt yn teimlo llu o emosiynau, ond llawenydd yw’r un sydd wastad ar y blaen.


Mae popeth da yn dod oddi wrth Dduw ac mae e’n llawenhau ym mhob peth. Fe yw’r unig ffynhonnell go iawn o lawenydd, a phan dŷn ni’n rhoi’n tryst ynddo e, gallwn brofi llawenydd yn ein holl amgylchiadau. Gallwn gae llawenydd ynghanol cyfnod o strygl, os yw ein gobaith yn yr Arglwydd.


Y camgymeriad dŷn ni’n ei wneud yn aml yw chwilio am lawenydd tu allan i Dduw. Pan fyddwn yn rhoi mwy o werth ar ein hunain, ar sail barn rhywun arall ohonom, neu ar y cyflog dŷn ni’n ei ennill neu ein safle cymdeithasol, dŷn ni’n colli allan ar lawenydd. Dŷn ni’n colli llawenydd yn y daith, y llawenydd o ddarganfod, y llawenydd o galon agored i Dduw. A dŷn ni hefyd yn colli’r cyfle anhygoel i rannu llawenydd yr Arglwydd gydag eraill. Ond pan dŷn ni wedi ein llenwi â’r llawenydd sy’n dod oddi wrth Dduw, mae cariad a phleser yn llifo ohonom i’r rhai sydd o’n cwmpas ac yn adnabod gwir gariad.


Os oedd y defosiwn hwn yn fuddiol i ti, dŷn ni eisiau cynnig rhodd i ti o bregeth i’w lawr lwytho ar yr enw Jehovah Jireh. Gwna gais yma am y bregeth gyfan gan Tony Evans.


Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

Six Days Of The Names Of God

O blith enwau niferus Duw, mae e wedi datgelu i ni agweddau o'i gymeriad a'i natur. Y tu hwnt i Dad, Mab, ac Ysbryd Glân, mae'r Beibl yn dangos dros 80 o wahanol enwau Duw. Cofnodir yma chwe enw a'u hystyron i helpu'r un...

More

Hoffem ddiolch i The Urban Alternative a Tony Evans am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://tonyevans.org/

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd