Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Chwe diwrnod o Enwau Niferus DuwSampl

Six Days Of The Names Of God

DYDD 3 O 6

DAY 3: JEHOVAH JIREH – BYDD YR ARGLWYDD YN DARPARU


Rwyt ti’n ansicr sut y byddi di’n talu dy filiau y mis hwn. Mae statws dy berthynas yn ansicr. Rwyt wedi clywed bod toriadau i ddod yn y gwaith, ac mae dy swydd yn ansicr. Pan mae hanfodion bywyd yn y fantol - iechyd, arian, lle i fyw, bwyd, teulu, cyflogaeth - mae’n naturiol i deimlo dychryn, fel bod yna unlle i droi. Dyna pryd mae angen i ti doi a glaw ar Jehovah Jireh. Ystyr yr enw bendigedig hwn yw “bydd yr Arglwydd yn darparu” ac mae ei enw’n llawn pŵer a nerth.


Pan mae ofn arnom am y dyfodol, mae’n hanfodol ein bod yn troi at Dduw a galw ei enw. Mae popeth da a rhodd berffaith yn dod oddi wrtho e, a does dim terfyn ar ei roddion a’r bendithion mae e’n eu darparu. Yn aml, rhoi ein ffydd ynddo e yw’r unig ffordd i dawelu ein hofnau a chynnal ffordd o feddwl positif.


Mae’n gallu bod yn wers galed, ond mae treialon ar y ddaear yn cryfhau ein cyhyrau ysbrydol ac yn ein hagosáu at Dduw drwy ein brwydrau. Mae wedi dangos i ni, yn uniongyrchol, ei fod yn darparu aer i ni ei anadlu, a golau i’n llygaid weld. Mae'n rhoi'r union beth sydd ei angen arnom i gynhyrchu'r twf mwyaf ynom a'r effaith fwyaf pellgyrhaeddol i'w deyrnas. Ac y mae e bob amser yn ei roi mewn ysbryd cariad.


Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Six Days Of The Names Of God

O blith enwau niferus Duw, mae e wedi datgelu i ni agweddau o'i gymeriad a'i natur. Y tu hwnt i Dad, Mab, ac Ysbryd Glân, mae'r Beibl yn dangos dros 80 o wahanol enwau Duw. Cofnodir yma chwe enw a'u hystyron i helpu'r un...

More

Hoffem ddiolch i The Urban Alternative a Tony Evans am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://tonyevans.org/

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd