Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Chwe diwrnod o Enwau Niferus DuwSampl

Six Days Of The Names Of God

DYDD 2 O 6

DAY 2: ELOHE CHASEDDI – DUW TRUGAREDD


Dydy bywyd ddim wastad yn sicrhau ail gyfle i ni. Mae yna gyfnodau pan mae penderfyniadau gwael - geiriau cas wrth ffrind, camgymeriadau yn y gwaith, dewisiadau bywyd sydd ddim yn iach - yn costio i ni. Dŷn ni’n colli’r cyfeillgarwch, cael ein diswyddo, mae ein hiechyd yn dioddef, Hyd yn oed os ydyn ni’n newid ein safbwynt yn newid, does dim sicrwydd y bydd popeth yn iawn.


Mae trugaredd Duw, fodd bynnag, yn rhoi ail gyfle i ni dro ar ôl tro. Mae Elohe Chaseddi-Duw Trugaredd- yn tywallt ei faddeuant arnom ac yn ein trochi mewn cariad. Mae e’n eirwir bob amser, wastad yn drugarog, ac wastad yn dyner. Os dŷn ni’n ei garu ac yn gofyn am faddeuant, mae e’n ei roi i ni bob tro.


Am ei fod yn Dduw Trugaredd, gallwn fyw’n ddi-ofn. Mae gennym fynediad diddiwedd i dawelwch meddwl a chysur y mae e’n ei roi i ni mewn helaethrwydd. Mae e’n addo bod gyda ni drwy’r adeg a’n harwain drwy bob sefyllfa gythryblus a phob tymor anodd. Hyd yn oed pan mai ein bai ni yw’r camgymeriadau, mae wastad yn fodlon i gynnig maddeuant i galon edifeiriol.


Yn lle poeni am ddoe. Mae duw eisiau i ni ffocysu ar heddiw. Sut allwn ni ei wasanaethu heddiw? Pa gynlluniau sydd ganddo ar ein cyfer i’w cyflawni heddiw? Sut allwn ni ei rannu ag eraill heddiw? Dyna beth yw hyfrydwch trugaredd - sawl ail gyfle, edrych i’r dyfodol, gyda ffocws ar y dyfodol sydd ganddo ar ein cyfer.


Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

Six Days Of The Names Of God

O blith enwau niferus Duw, mae e wedi datgelu i ni agweddau o'i gymeriad a'i natur. Y tu hwnt i Dad, Mab, ac Ysbryd Glân, mae'r Beibl yn dangos dros 80 o wahanol enwau Duw. Cofnodir yma chwe enw a'u hystyron i helpu'r un...

More

Hoffem ddiolch i The Urban Alternative a Tony Evans am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://tonyevans.org/

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd