Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Un Gair Fydd yn Newid dy FywydSampl

One Word That Will Change Your Life

DYDD 4 O 4

Byw dy Air


Gosod
Pan fydd dy Un Gair yn cael ei ddatgelu i ti, falle y bydd yn dod ar ffurf nodwedd cymeriad, disgyblaeth, person, ffocws ysbrydol, priodoledd n eu werthfawrogiad. Mae’r esiamplau canlynol o eiriau tebygol ddim i fod, o reidrwydd, yn restr penodol i ddewis ohono, ond yn hytrach man dechrau o syniadau, cariad, llawenydd amynedd, gorffwys, gweddi, iechyd, hyfforddi, hyblyg, defosiwn, agosatrwydd, disgyblaeth, ymrwymiad, beiddgarwch, positif, glân, ysbrydoli, gloywi, purdeb, uniondeb a chryfder.


Bydd Byw dy Air yn cadw dy ffocws a’th rwystro rhag cael tynnu dy sylw. Dŷn ni’n gweld effaith Nehemeia yn cael ei ffocysu pan oedd yn adeiladu’r wal. Yn Nehemeia, pennod 6, adnod 3 wnaeth e ddim stopio gweithio am ei fod yn ymroddedig i’r gwaith roedd i fod i’w wneud. – adeiladu’r wal! Ac roedd e’n gwneud gwaith gwych. Cofia, pan rwyt ti’n byw dy air, rwyt ti’n gwneud gwaith gwych.


Camu tua llan i’th hafan.


Mae’r broses yn gyffrous, ond bydd yn profi i fod yn heriol. Byddi’n wynebu rhwystrau na fyddi’n eu rhagweld. Byddi’n cael dy ymestyn - dŷn ni’n addo. Ond, yn aml, dŷn ni’n dysgu fwyaf pan fyddwn yn camu tu allan i’n hafan, felly, dyfalbarha.


Mae’n hanfodol i gofio a ffocysu ar dy air, gydol y flwyddyn. Os nad yw dy air art flaen dy feddwl, byddi’n ei anghofio.


Cadwa dy Un Gair ar y blaen.


Drwy flynyddoedd o dreialu a baglu gwnaethom ni ddarganfod ffyrdd syml a phwerus o gadw dy Un Gair ar flaen dy feddwl drwy gydol y flwyddyn.


I ddechrau, gosoda dy air mewn llefydd amlwg fel sy fod yn ei weld yn rheolaidd. Mae’r hyn sy’n tynnu dy sylw’n cael dy ffocws: mae’r hyn sy’n cael dy ffocws yn cael ei wneud. Mae creu pethau i’th annog yn bwysig. Gwna nodyn ohono a’i bostio mewn llefydd amlwg, fel dy gwpwrdd bach yn yr ysgol, yn dy gar, neu ar dy ddesg.


Yn ail, rhanna dy air gyda’th Dîm Herio – y cylch mewnol hwnnw o ffrindiau, cydweithwyr, a theulu sydd bwysicaf i ti, a phwy rwyt yn eu trystio fwyaf. Dŷn ni’n ei alw yn Dîm Herio am ei fod yn cynnwys y bobol sy’n dy ymestyn â’th helpu i dyfu. Rho ganiatâd iddyn nhw ofyn iti am dy air.


Pan fyddi’n cymryd y camau syml hyn – gwneud dy air yn amlwg iawn wrth ei bostio eraill – rwyt yn sicrhau dy dyfiant. Byddi’n profi’r da a’r drwg, ond maen nhw i gyd yn rhan o’r broses. Wrth iti fyw dy air, gad i Dduw ddefnyddio symlrwydd dy thema Un Gair i chwyldroi dy fywyd bob dydd.


Dos
1.Beth yw’r un peth elli di wneud i gofio dy Un Gair?
2. Rhestra dri pherson yn dy gylch mewnol i rannu dy air â nhw.
3. Sut mae byw dy Un Gair fel teulu, busnes, tîm?


Ymarferion
Nehemeia, pennod 6, Actau, pennod 4, adn. 16-20, Colosiaid, pennod 3, adn. 17, 23


Dros Amser
"Arglwydd, dw i’n gweddïo y byddi’n fy helpu i fyw fy ngair yn llawn eleni. Yn union fel Nehemeia, cadwa fy ffocws ar ei fyw, a rhwystra i bethau dynnu fy sylw. Ac os down nhw, rho’r hyder imi gadw fy ffocws ar yr hyn rwyt wedi fy ngalw i wneud. Yn enw Iesu, Amen.


Am wneud dy boster Un Gair? Dos i: GetOneWord.com


Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

One Word That Will Change Your Life

Mae UN GAIR yn dy helpu i symleiddio dy fywyd trwy ganolbwyntio ar UN GAIR yn unig am y flwyddyn gyfan. Mae symlrwydd darganfod gair sydd gan Dduw ar dy gyfer yn ei wneud yn gatalydd ar gyfer newid bywyd. Mae annibendod ...

More

Hoffem ddiolch i Jon Gordon, Dan Britton, aa Jimmy Page am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.getoneword.com

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd