Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Un Gair Fydd yn Newid dy FywydSampl

One Word That Will Change Your Life

DYDD 3 O 4

Proses yr Un Gair


Gosod
Er gwaethaf yr holl fwrlwm, Dŷn ni’n dal i fwynhau’r ffaith y gall y Flwyddyn Newydd fod yn gyfle i lanhau’r llechen a dechrau o’r newydd. Dŷn ni’n rhydd diwethaf, ymroi i ddefosiynau dyddiol, ennill mwy o gemau, ymarfer yn galetach, gweddïo’n fwy ffyddlon, treulio mwy o amser gyda’r teulu, talu dyledion, cynyddu graddau, neu hyd yn oed rannu Iesu Grist gyda mwy o gydweithwyr a ffrindiau. Ond y gwirionedd yw bod y rhestr hir yna o addunedau’n anaml yn dod yn realiti.


Un ateb yw gwaredu’r cyfan a’i grynhoi i un gair allweddol ar gyfer y flwyddyn i ddod, ei wneud yn sylfaenol a syml.



Felly, gad i ni droi at yr ochr ymarferol cysyniad thema Un Gair. Dyma gamau i’th helpu i ddarganfod dy thema Un Gair. Cadwa mewn golwg fod y broses yn cymryd amser, ond mae’n werth e. P'un ai wyt ti’n athletwr, hyfforddwr, rhiant neu arweinydd busnes, gall y broses hon hwyluso datblygiad arloesol i ti ym mhob rhan o'th fywyd.



Mae i’r broses Un Gair, dri cham syml - Cymer Olwg, Edrycha i fyny, ac Edrycha Allan.



Cam 1 - Paratoa'r galon (Edrych i mewn) - Dyma ble wyt ti’n cymryd camau i arafu o fwrlwm bywyd, y sŵn a’r annibendod. Mae ffeindio ymgeledd a distawrwydd yn gallu bod yn dasg anodd, ond mae clywed gan Dduw yn hanfodol. Wrth i ni adael i Dduw archwilio ein calon, bydd e’n rhoi eglurder i ni.





Cam 2 - Darganfydda dy Air (Edrych i fyny) - Mae’r cam hwn yn ein helpu i gysylltu â, a gwrando ar Dduw. Mae cymryd amser i weddïo - y sgwrs syml honno gyda Duw - ydy’r lle i ddechrau. Gofynna’r cwestiwn hwn i Dduw: Beth wyt ti eisiau ei wneud ynddo i a thrwyddo i eleni? Bydd y cwestiwn yma’n sy helpu i ddarganfod y gair ar dy gyfer. Paid dewis gair da: Derbynia Air Duw.





Cam 3 - Byw dy Air (Edrych allan) - Unwaith hy byddi’n darganfod y Gair sydd ar dy gyfer, mae’n amser i weithredu arno. Bydd dy air yn cael effaith ymhob rhan o dy fywyd: corfforol, meddyliol, ysbrydol, emosiynol, a hyd yn oed ariannol. Cadwa dy air yn y canol. Dweda wrth dy bartneriaid sy’n atebol gyda thi beth ydy dy air am y flwyddyn. Gwna nodyn ohono’n dy ddyddiadur. Rho nodyn ar yr oergell. Siarada gyda’r teulu amdano wrth y bwrdd bwyd. Gwna beth bynnag sydd ei angen i’w gadw mewn ffocws ac yn ffres.





Dŷn ni’n gweddïo fod eleni yn torri tir newydd i ti wrth i’r Arglwydd dy gymryd i’r lefel nesaf ac yn defnyddio dy Un Gair i ddod â gogoniant iddo e!





Dos
1. Beth mae Duw’n ei ddweud wrthyt nawr am dy theam Un Gair?
2. Ymrwyma i weddïo o ddifrif dros amser gan ofyn i Dduw siarad â thi.
3. Dos drwy’r tri cham a gad i Dduw ddatgelu'r Gair sydd ar dy gyfer.



Ymarferion
Salm 27, adnod 4, Salm 84, Salm 139





Dros Amser
"Arglwydd, dw i’n gweddïo i dorri tir newydd eleni. Defnyddia’r thema Un Gair hwn i ddod â gogoniant i ti. Heria fi drwy’r broses hon. Datgela i fi wirionedd a datguddiad. Os gweli di’n dda, gwna e’n eglur imi. Siarada Arglwydd. Mae dy was yn gwrando. Yn enw Iesu, Amen.”




Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

One Word That Will Change Your Life

Mae UN GAIR yn dy helpu i symleiddio dy fywyd trwy ganolbwyntio ar UN GAIR yn unig am y flwyddyn gyfan. Mae symlrwydd darganfod gair sydd gan Dduw ar dy gyfer yn ei wneud yn gatalydd ar gyfer newid bywyd. Mae annibendod ...

More

Hoffem ddiolch i Jon Gordon, Dan Britton, aa Jimmy Page am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.getoneword.com

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd