Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Un Gair Fydd yn Newid dy FywydSampl

One Word That Will Change Your Life

DYDD 1 O 4

Grym Un Gair


Dydygwneud


Addunedau Blwyddyn Newydd ddim yn gweithio!


Mae 50% o rheiny sy’n gwneud addunedau yn methu cyn diwedd Ionawr ac mae 9 allan o 10 yn rhoi’r gorau iddi erbyn mis Mawrth! Felly, yn lle addunedau, dewisa Un Gair ar gyfer y flwyddyn...ond bydd yn ofalus! Fe allasai dy newid.



Os oes ydy’r meddylfryd o “fynd ati” fel ni, rwyt wedi gwneud dy gyfran deg o osod targedau ar ddechrau pob Blwyddyn Newydd. Fodd bynnag, wrth i amser fynd rhagddo, mae rhwystredigaeth yn gafael ynom wrth i ni fethu cyrraedd y nod gyda’n cynlluniau. Fe wnaethon ni geisio gwneud gormod ac o ganlyniad, wnaethon ni ddim yn dda iawn.



Yn 1999, dechreuon ni’r arfer syml o ddewis thema Un Gair am y flwyddyn i ddod. Dyna ti - Un Gair. Nid ymadrodd neu ddatganiad, un gair yn unig. Drwy ffocysu ar Un Gair yn unig dŷn ni wedi profi newid bywyd anhygoel blwyddyn ar ôl blwyddyn. Pan fyddi’n darganfod dy Un Gair di \m y flwyddyn, mae’n rhoi mwy o eglurder, angerdd a phwrpas iti ar gyfer bywyd.



Mae’r arferiad o Un Gair yn dod â symlrwydd a ffocws. Mae’n torri drwy bob ymyrraeth ac yn cadw ein ffocws ar beth sydd o wirioneddol bwys. Mae wedi ein hymestyn ym mhob maes: yn ysbrydol, yn gorfforol, yn feddyliol, yn emosiynol, yn berthynol ac yn ariannol. Mae Duw wedi ein trawsnewid trwy'r ymarfer hwn; Mae Duw yn ymhyfrydu mewn newid bywyd.



Mae yna reswm pam dŷn ni’n dweud, “Dewisa Un Gair ar gyfer y flwyddyn...ond bydd yn ofalus.” Gynted ag y byddi di wedi darganfod dy air, bydd y frwydr yn dechrau. Bydd yn cychwyn proses o ddysgu, datblygu, mireinio, a mowldio. Bydd Duw yn defnyddio dy air fel golau a drych - gan oleuo dy lwybr a datgelu pethau sydd angen eu newid. Mae'n hwyluso taith wych o uchafbwyntiau ac isafbwyntiau i gyd wedi'u cynllunio i'th wneud ti'r person rwyt ti wedi dy greu i fod.



Ein profiad ni yw bod Duw yn datgelu ei gynlluniau ar gyfer y flwyddyn ynglŷn â'th Un Gair yn gyflym. Bydd y gair hwnnw (boed yn ddisgyblaeth, yn ffrwyth yr Ysbryd, yn nodwedd cymeriad, neu'n nodwedd Duw) yn dy frandio am y flwyddyn! Felly darganfydda dy Un Gair am y flwyddyn a rhanna ef gydag eraill! Efallai y bydd yn newid dy fywyd!



Dos
1. Beth mae Duw’n ei ddweud wrthot ti’r flwyddyn flaenorol ‘ma?
2. Pa ran o’th fywyd mae Duw eisiau ei feddiannu a’i ddefnyddio er mwyn ei ogoniant?
3. Sut mae Duw eisiau dy osod ar gyfer y flwyddyn i ddod?


Ymarferion
Salm 27, adnodau 1-14; Luc, pennod 18, adnod 22; Marc, pennod 1021


Dros amser
"Annwyl Arglwydd, dw i’n gofyn i ti wneud y flwyddyn sydd i ddod yn un fydd yn newid bywyd. Datgela dy hun i mi wrth i ti ddangos beth fydd fy thema Un Gair. Llenwa fi gyda’th Ysbryd Glân. Dw i’n sylweddoli mai taith i ddysgu yw hon, nid tasg i'w chyflawni. Cryfha fi wrth i mi fyw fy Un Gair bob dydd. Yn enw Iesu, Amen."



Wyt ti am gael y Cynllun Un Gair?? Lawr lwytha e am ddim yn: GetOneWord.com


Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

One Word That Will Change Your Life

Mae UN GAIR yn dy helpu i symleiddio dy fywyd trwy ganolbwyntio ar UN GAIR yn unig am y flwyddyn gyfan. Mae symlrwydd darganfod gair sydd gan Dduw ar dy gyfer yn ei wneud yn gatalydd ar gyfer newid bywyd. Mae annibendod ...

More

Hoffem ddiolch i Jon Gordon, Dan Britton, aa Jimmy Page am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.getoneword.com

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd