Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Canlyn yn yr Oes FodernSampl

Dating In The Modern Age

DYDD 4 O 7


Pwy i'w Ganlyn / ei Chanlyn


Un o'r peryglon wrth ganlyn yw'r peryg i fabwysiadu feddylfryd defnyddiwr yn hytrach na feddylfryd cymar Wrth holi bobl sut fath o berson yr hoffen nhw ganlyn, mae nhw'n dechrau rhestru nodweddion. "Tal ond ddim rhy dal. Sensitif on cryf. Hyderus, ond yn ofalgar hefyd. Golygus, ond yn ddigri. Yn meddu ar swydd dda."


Y broblem sy'n codi wrth restru nodweddion ydy ei fod yn gosod disgwyliadau na all neb fyth eu cyrraedd. Rwyt yn ceisio llunio'r hyn rwyt ti ei eisiau ar sail beth wyt ti'n feddwl sydd orau i ti. Pan yn canlyn,. chwilio am berson i garu, nid ryw fath o gynnyrch i'w fwyta ddylet ti. Felly. ddylai dy broses o ddewis ddim bod wedi'i wreiddio mewn nodweddion darfodedig fel golygon, cyfaredd, neu gyfoeth, oherwydd mae'r nodweddion hyn yn darfod dros amser (Diarhebion, pennod 31, adnod 30). Os yw dy briodas wedi'i sylfaenu ar nodweddion ymylol, does dim gobaith i chi am ddyfodol parhaus.


Wrth ganlyn, nid cynhyrchu robot wyt ti o ddarnau dynoli ateb dy anghenion. Yn hytrach, rwyt yn dylanwadu ar y person arall i'w hadeiladu er gogoniant i Dduw. Dylai'r person rwyt yn dewis ei briodi/ei phriodi gael pwynt angori o gariad a moesoldeb tu allan i'r hyn rwyt yn ei gynnig fel fod dy briodas yn gallu aros yn gryf hyd yn oed pan rwyt ar dy wanaf. Rwyt ti angen rywun ble nad yw ei ffyddlondeb i ti wedi'i angori ar seiliau sigledig.


Nawr te, wyt ti'n mynd i ddarganfod hyn am berson ar y dêt cyntaf? Wrth gwrs ddim! Gall unrhyw un dwyllo'i ffordd drwy awr o gyfweliad. Beth rwyt angen gweld yw rywun sydd yn ymdrechu i wneud pethau hyfryd am resymau hyfryd. Rwyt angen rywun sy'n ymlid yr
Arglwydd o ddifri gyda lefel o angerdd sy'n gymharol i ti. Rydych chi eisiau sefyll wrth yr allor gyda'ch gilydd heb boeni os ydy'r ddau ohonoch chi'n ddidwyll.


Rwyt eisiau treulio dy fywyd gyda rywun sydd, nid yn unig yn ffyddlon i Dduw ond sydd hefyd yn gymwys i ti. Mae dy argyhoeddiadau personol a'r hyn rwyt yn gredu am Dduw o bwys yn dy berthnasedd. Mae yna faterion diwinyddol allweddol na elli di ei gwadu: bodolaeth y Drindod, bodolaeth pechod, marwolaeth Crist drosot, a iachawdwriaeth grasol drwy ffydd. Tu hwnt i rhain fe all bod materion allweddol eraill y gallech chi anghytuno arnyn nhw ond gweithio drwyddyn nhw gyda'ch gilydd. Eto, dw i'n eich rhybuddio, er nad oes angen cytuno ar bob mater, dylech fod yn unol ar y materion sydd fwyaf pwysig i ti.


Mae bod yn gytûn yn gymdeithasol yn bwysig. Fyddwch chi ddim yn treulio'r rhan helaeth o briodas ddim yn troi o gwmpas rhyw ond yn hytrach treulio amser gyda'ch gilydd. Ddylet ti ddiddori'n dy gymar. Ddylech chi fod â nod gymwys o ran cyfeiriad bywoliaeth. Mae peth cyfaddawdu. fodd bynnag, yn angenrheidiol. Er hynny ddim gormod neu bydd y ddau ohonoch yn rwystredig o fethu cyflawni eich cenhadaeth mewn bywyd.


Mae'r Beibl yn cydnabod gwerth atyniad corfforol (rhaid dim ond darllen Caniad Solomon). Mae e'n ffactor wrth adeiladu perthynas - ond nid yw'n pennu os dylech fod gyda'ch gilydd. Mae hyn, wrth gwrs, am fod pawb yn heneiddio a harddwch allanol yn dylu. Felly, bydd yn ddoeth! Mae gymaint hawdd myfyrio ar y pethau hyn cyn y briodas. Bydd ystyried y pwyntiau hyn i gyd yn help ddirnad os yw Duw wedi ordeinio perthynas ai peidio.


Ymateb


Pan wyt ti'n ystyried pwy i'w ganlyn/ei chanlyn am beth wyt ti'n chwilio?


Beth sy'n selio'r fargen wrth benderfynu pwy i'w ganlyn/ei chanlyn? Beth wyt ti'n fodlon ei ildio a'i aberthu mewn perthynas?


Sut wyt ti'n penderfynu os yw'r person rwyt yn ei ganlyn/ei chanlyn yn ymdrechu i gyrraedd yr un nod? Beth yw'r peryg mwyaf o beidio gwneud hyn yn flaenoriaeth?


Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

Dating In The Modern Age

Canlyn... ydy'r gair yn codi pryder neu ddisgwyliad yn y galon? Gyda chymaint o ffyrdd technegol i gysylltu mae mynd ati i ganlyn fel ei fod wedi mynd yn gymaint mwy ffwndrus a rhwystredig nag erioed o'r blaen. Yn y cynl...

More

Hoffem ddiolch i Ben Stuart am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.thatrelationshipbook.com

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd