Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Canlyn yn yr Oes FodernSampl

Dating In The Modern Age

DYDD 1 O 7


Beth sydd bwysicaf gyntaf?


Wyt ti eisiau bod y math o berson sydd yn garedig a chariadus tuag at bobl eraill? Wyt ti eisiau bod y math o berson sy'n dangos y math o gariad mae Duw'n ei ddangos tuag atat ti? Wyt ti eisiau bod yn ffynhonnell bywyd i dy deulu, ffrindiau a'r person rwyt y nei ganlyn - a'r person y byddi ryw ddydd yn ei briodi? Yna, rwyt angen ffynhonnell bywyd. Dyma fel oedd hi i fod erioed. Mae cariad sydd wedi'i gofleidio yn troi'n gariad wedi'i estyn. Mae'n ganlyniad naturiol caru ar ôl cael ein caru gyntaf (1 Ioan, pennod 4, adnod 19). Pan mae gennyt ffynhonnell bywyd, rwyt yn gallu bod yn ffynhonnell bywyd.


Yn Ioan, pennod 4 esboniodd Iesu sut mae gan bob un ohonom hiraeth dwfn yn ein calon i gael ein caru. Roedd Iesu'n siarad efo dynes wrth ffynnon, ac ar un pwynt dwedodd wrthi, "Y gwir ydy dy fod wedi cael pump o wŷr, a ti ddim yn briod i'r dyn sy'n byw gyda ti bellach" (adnod 18 beibl.net). Dwedodd hefyd, "Taset ti ond yn gwybod beth sydd gan Dduw i'w roi i ti, a phwy ydw i sy'n gofyn i ti am ddiod! Ti fyddai'n gofyn wedyn, a byddwn i'n rhoi dŵr bywiol i ti.” (adnod 10). Roedd Iesu'n dweud, "Rwyt wedi bod yn chwilio am foddhad i'th enaid ddofn ym mreichiau dynion - a fedri ddim ei ffeindio yno. Rwyt wedi camgymryd dy angen." Roedd Iesu'n dweud bod yr hiraeth yn ei henaid dim ond i'w gael yn Nuw, ffynhonnell bywyd, ac nid mewn unrhyw berthynas ddynol.


Pan wyt ti'n defnyddio perthynas drwy ganlyn i ddilysu dy hun, dim ond arwain at sugno bywyd allan o'r person arall y mae hynny. Dyma sut mae perthnasoedd gwenwynig yn cael eu ffurfio. Dyna pam mae cymaint yn mynd o'i le. Pan wyt yn dod ag anghenion mawr, ar gyfer Duw, i berthynas ddynol, does dim posib iddyn nhw gwrdd â'r anghenion hynny. Fedri di, ychwaith, ddim eu caru'n ddiamodol ar y diwrnodau mae nhw'n stryglo, oherwydd nhw sy'n cynrychioli dy ffynhonnell. Ond pan mai Duw yw dy ffynhonnell, mae e'n troi i mewn i'r peth mwyaf naturiol yn y byd iu adael i'w gariad e lifo drwyddo ti i mewn i'r person rwyt yn ei ganlyn. Pan wyt yn gwybod dy fod wedi'th garu go iawn, mae hi'n hawdd i garu eraill. Pan mae gen ti adnodd diflino o gariad, rwyt wedyn y ngallu bod yn ffynhonnell cariad i eraill.


Os wyt ti yng Nghrist rwyt yn gwybod dy fod wedi dy garu gan y bod mwyaf hyfryd a phwerus sy'n bodoli. Mae e'n gwybod dy enw. Mae e'n dy weld. Rhoddodd y cwbl i ti fod yn eiddo iddo e. Fydd e byth yn rhoi fyny arnat ti. Felly, cyn i ti ddechrau canlyn - a chyn i ti ddewis i briodi dy gymar - rwyt angen cwrdd gyda'r un a'th greodd a ffurfio perthynas gydag we. Yn y sefydlogrwydd io gerdded gyda Christ byddi di'n gallu bendithio'r person rwyt yn ei ganlyn.


Ymateb


Pam ei bod hi'n bwysig cael Duw yn ffynhonnell yn dy fywyd fel y dy fod yn gallu bod yn ffynhonnell ym mywyd un arall? Beth sy'n digwydd pan wyt yn cael hyn yn anghywir?


Sut,mae dy berthynas gyda Duw yn effeithio ar y ffordd rwyt yn gweld dy hun?


Beth wyt ti angen ei wneud heddiw i dyfu'n dy berthynas gyda Duw? Pa gamau ymarferol wnei di eu rhoi'n eu lle i wneud i hyn ddigwydd?


Ysgrythur

Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Dating In The Modern Age

Canlyn... ydy'r gair yn codi pryder neu ddisgwyliad yn y galon? Gyda chymaint o ffyrdd technegol i gysylltu mae mynd ati i ganlyn fel ei fod wedi mynd yn gymaint mwy ffwndrus a rhwystredig nag erioed o'r blaen. Yn y cynl...

More

Hoffem ddiolch i Ben Stuart am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.thatrelationshipbook.com

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd