Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Canlyn yn yr Oes FodernSampl

Dating In The Modern Age

DYDD 3 O 7


Pam canlyn?


Mae canlyn yn anodd am fod yna risg. Gall weithiau deimlo fel mentro'n ddall i dir dieithr. Mae'n syndod bod rywun eisiau hyd yn oed mentro lle mae poen yn anochel. Yr ateb yw, am fod angen dwfn ar bob un ohonom am gyswllt dwfn gyda pherson arall. Dŷn ni eisiau caru a phrofi cariad. Mae'r rhan fwyaf o bobl ar y blaned eisiau priodi. Felly, dŷn ni'n fodlon risgio'r drama o ganlyn ar gyfer perthynas agos tymor hir.


Dw i ddim yn mynd i siarad yma am sut mae cael dêt, oherwydd gall rywun gael dêt. Os wyt yn gosod dy olygon yn ddigon isel gallet briodi heno! Mae dod o rywun i ganlyn yn hawdd. Ond dydy ffeindio y person cywir yn y ffordd cywir ddim yn hawdd. Felly, mae'r cwestiwn yn codi, sut wyt yn gallu llwyddo i wneud hyn. Sut wyt ti'n gallu mynd ar ddêt fydd yn cynyddu agweddau gorau bobl, tra'n lleihau'r boen? I ateb y cwestiwn yna rhaid i ti gamu'n ôl a gofyn rywbeth nwy sylfaenol: Beth yw pwrpas canlyn?


Dydy''r Beibl ddim yn dweud dim am ganlyn, ond mae yna lawer sy'n cael ei ddweud am gloriannu pobl. Dw i'n argymell mai canlyn yw'r broses modern o gloriannu pobl. Mae'n ffordd o ganfod os wyt am dreulio gweddill dy fywyd gyda person arbennig. Y cwestiwn allweddol cyntaf mae'r cloriannu yma'n arwain ato yw pa rinweddau ddylet ti chwilio amdanyn nhw'n y person arall.


Fel person sengl dylet fod yn rhuthro i gyfeiriad yr Arglwydd. Dylet fod yn ffyddlon iddo e gan ddefnyddio dy roddion, alluoedd, amser a dylanwad i fod yn fendith i bawb sydd wedi'i creu ar ei ddelw ei hun. Wrth i ti redeg ar ei ôl bydd bob math o bobl hefyd yn rhedeg, ond i bob cyfeiriad. Ymhen amser, byddi'n edrych i fyny ac yn gweld pobl yn rhedeg ar ei ôl gyda ti. Wrth i ti redeg rwyt yn mynd i ddechrau gofyn cwestiynau iddyn nhw. Rwyt ti'n mynd i'w cloriannu.


Yr hyn rwyt ti'n chwilio amdano fo ydy cymeriad a chemeg. Rwyt ti angen rhywun gyda chymeriad sydd yn ymlid Duw a phethau gydag angerdd. Yna rwyt angen chwilio am rywun mae gen ti gemeg â nhw. Rwyt ti angen rywun rwyt yn mwynhau bod gyda nhw, siarad efo nhw, ac wedi plesio'ch gilydd. Rwyt ti angen cymeriad cadarn, cymeriad llawn hwyl a phleserus.


Dydy canlyn ddim i'w wneud am ymlid person arall er mwyn dod o hyd i bwrpas neu boddhad ynddo e neu ynddi hi. Mae hynny'n llawn gormod i'w ddisgwyl o unrhyw fod dynol. Ac nid felly y cefais di dy greu. Dwyt ti ddim yn hanner person yn disgwyl am hanner person arall er mwyn dy wneud yn "gyfan". Rwyt yn gyfan ac wedi'th garu gan Dduw fel person sengl - nid anghyflawn.


Felly, nid pwrpas canlyn yw ffeindio cyflawnrwydd fel unigolyn ond ffeindio person o gymeriad cryf a chyda pwy mae gen ti gemeg fel dy fod yn gallu rhedeg i mewn i'r dyfodol sydd gan Dduw ar gyfer y ddau ohonoch chi. Pan wyt yn canlyn person arall, y nod yw tyfu gyda'ch gilydd fel y gallwch annog, herio, a siapio eich gilydd. Yn y broses, bydd rhaid i ti addasu, newid, ac aberthu. Fydd e ddim yn hawdd bob amser a fydd e ddim yn edrych dim byd fel y darluniau rhamantus rwyt yn ei weld mewn ffilmiau Hollywood. Ond cei weld y bydd y daith yn werth i'w gwneud.


Dyma bwrpas canlyn. Dyma'r weledigaeth rwyt yn ymlid amdano mewn priodas. Ac mae e'n daith anhygoel!


Ymateb


Sut wyt ti wedi dy frifo mewn perthynas wrth ganlyn? Beth wyt ti wedi'i ddysgu o'r profiadau hynny?


Beth yw dy gymhelliad o fod eisiau canlyn? Ydy dy gymhellion yn rhai iachus? Pam neu pam ddim?


Beth sydd yn gallu dy helpu i gloriannu cymar posibl? Beth yw dy obeithion ar gyfer y dyfodol wrth i ti ystyried canlyn rhywun

Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Dating In The Modern Age

Canlyn... ydy'r gair yn codi pryder neu ddisgwyliad yn y galon? Gyda chymaint o ffyrdd technegol i gysylltu mae mynd ati i ganlyn fel ei fod wedi mynd yn gymaint mwy ffwndrus a rhwystredig nag erioed o'r blaen. Yn y cynl...

More

Hoffem ddiolch i Ben Stuart am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.thatrelationshipbook.com

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd