Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Cyfarwyddyd DwyfolSampl

Divine Direction

DYDD 7 O 7

Trystio

Dw i'n byw yn Oaklahoma ble mae'r tywydd yn gallu newid yn ddramatig ac ar amrantiad. Un flwyddyn ym mis Mawrth, roedd hi'n ddiwrnod braf o Wanwyn a thymheredd o 83 gradd. Y diwrnod canlynol wnaeth hi fwrw 3 modfedd o eira. Er mor ddramatig y newid, dydy e ddim i'w gymharu â thymor y tornado. Mae stormydd yn gallu codi ar amrantiad o unlle.


Yn union fel mae nhw'n ein bywydau.


Siaradais yn ddiweddar, yng ngêm bêl droed fy mab, gyda dynes oedd wedi bod yn brwydro anhwylderau iechyd. Esboniodd fel y bu'n agos i Dduw rai blynyddoedd yn ôl ac yn weithgar yn ein heglwys. Ond, pan ddechreuodd brofi treialon yn ei bywyd, dechreuodd gwestiynu pam fod Duw yn caniatáu hynny. Daliodd y dagrau'n eu hôl a dweud, "Sut fedraf i addoli Duw dw i'n methu ei drystio?"


A allwn ni drystio bod Duw'n dda, pan nad yw bywyd yn dda?


Mae cwestiwn y ddynes yn allweddol i un o benderfyniadau bywyd. A wnawn ni drystio Duw pan nad yw bywyd felly? Mae ein hymateb i boen a heriau'n siapio cymaint ar ein dyfodol.


Yn ei hanfod, mae ffydd yn gofyn am drystio mewn rywbeth - neu rywun - nid oes modd rhagweld hynny bob amser ac nid yw'n ddealladwy ychwaith yn ôl safonau dynol. Os dŷn ni'n onest, mae'r mwyafrif ohonom eisiau prawf anadferadwy o bresenoldeb caredig Duw yn ein bywydau.


Dydy hyn ddim yn newydd. wyt ti'n cofio am amheuaeth Thomas? Ar ôl i Iesu farw ar y groes ac atgyfodi. dwedodd Thomas na fyddai'n credu oni bai ei fod yn gweld prawf o hyn. Yn lle gwylltio a'i fwrw o'r neilltu am ei ddiffyg ffydd, dangosodd Iesu yn raslon ei arddyrnau.


Wyt ti'n cofio pan oedd y disgyblion yn y storm? "Yn sydyn cododd storm ofnadwy. Roedd y tonnau mor wyllt nes bod dŵr yn dod i mewn i'r cwch ac roedd mewn peryg o suddo."Marc, pennod4, adnod 37 beibl.net. Ynghanol y storm doedd y disgyblion ddim ar ben eu hunain. Mae Marc yn ein hatgoffa'n yr adnod nesaf fod Iesu'n cysgu'n drwm drwy'r cwbl ar glustog yn starn y cwch.


Pan fydd Iesu'n dy gwch, er bydd y storm yn dal i'th ysgwyd, wnei di ddim suddo.


Mae pobl fel ti a fi, y ddynes yn y gêm bêl-droed, Thomas, a’r disgyblion yn tueddu i feddwl na fyddem yn mynd trwy storm pe bai Duw gyda ni mewn gwirionedd. Ond nid fel yn mae pethau. Pan fydd Iesu'n dy gwch, er bydd y storm yn dal i'th ysgwyd, wnei di ddim suddo. Mae e gyda ti, mewn cawod o law ysgafn yn y gwanwyn ac yn y tornado gwaethaf posib.


Mae e, nid yn unig gyda ti, mae ar dy ochr di. Os ydy Duw ar ein hochr ni, sdim ots pwy sy'n ein herbyn ni! Trystia Duw gyda beth bynnag rwyt wedi bod yn ei ddal nôl. Trystia e gyda dy gymar newydd. Trystia e gyda'th blant. Trystia e gyda'th yrfa. Trystia e gyda'th iechyd. Trystia e gyda'th arian.


Trystia e'n ddiamod.


Heb os nac oni bai


Gweddïa: Dad Nefol, fe wna i dy drystio gyda beth bynnag dw i'n ei ddechrau neu ei orffen. Fe wna i dy drystio gyda ble bynnag yr af i ac aros. Dw i'n dy drystio ddigon i wasanaethu a chysylltu â phobl. A dw i'n trystio dy fod yn bresennol ynghanol stormydd fy mywyd. Diolch am fod gyda mi, yn arwain fy nghamau ac yn rhoi i mi gyfarwyddyd dwyfol. Amen.


Dysga fwy am fy llyfr, Divine Direction


Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

Divine Direction

Bob dydd byddwn yn gwneud dewisiadau sy'n siapio stori ein bywyd. Sut olwg fyddai ar dy fywyd pe byddet ti'n dod yn arbenigwr ar wneud y dewisiadau hynny? Yn y Cynllun Beibl Cyfarwyddyd Dwyfol, mae'r hoff awdur y New Yor...

More

Hoffem ddiolch i'r Parch Craig Groeschel a Life.Church.tv am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://craiggroeschel.com/

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd