Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Cyfarwyddyd DwyfolSampl

Divine Direction

DYDD 5 O 7

Gwasanaethu

Dydy gwasanaethu eraill dim yn beth naturiol i mi. Dw i'n berson hunanol. Dw i'n hoffi pethau fel dw i eu heisiau nhw. Dw i ddim yn falch. ond fel yna mae hi.


Nid fi yw'r unig un. Gall bob un ohonom fod yn hunanol. Wrth ein natur, dŷn ni'n bobl hunanol. Meddylia am y peth, does dim rhaid dysgu plentyn i fod yn hunanol. Yn ôl Iesu, dydy bywyd ddim yn cylchdroi o'n cwmpas ni, ond mae popeth yn ein diwylliant yn ceisio dweud wrthon ni (gan gynnwys y lle byrgyrs 'na) i gael pethau ein ffordd ein hunain.


Un o'r ffyrdd hawsaf i anghofio am Dduw yw ymgolli mewn "hunanoldeb." Roedd gan Iesu eiriau penodol ar gyfer unrhyw un oedd eisiau ei ddilyn, "“Os ydy rhywun am fy nilyn i, rhaid iddyn nhw stopio rhoi nhw eu hunain gyntaf. Rhaid iddyn nhw aberthu eu hunain dros eraill a cherdded yr un llwybr â mi." Mathew, pennod 24, adnod 24 beibl.net


Mae Duw eisiau i ni gael pethau ffordd e. A dydy e ddim yn sôn am fwy o gig a dim letys.


Wrth sôn am fwyd. Gwnaeth Iesu ddatganiad ddylai wneud i ni oedi cyn i ni archebu'r byrgyr nesaf. "“Gwneud beth mae Duw'n ddweud ydy fy mwyd i...a gorffen y gwaith mae wedi'i roi i mi."Ioan, pennod 4, adnod 34 beibl.net


Dychmyga gallu dweud. ""“Gwneud beth mae Duw'n ddweud ydy fy mwyd i...a gorffen y gwaith mae wedi'i roi i mi." Mae hynny'n fath gwahanol o faeth. Byw yw e gyda chyfarwyddyd dwyfol.


Pan fydd y bobl o'n cwmpas yn dweud, "Gwna'n sicr o bopeth y gelli di! Mae'r cyfan yn ymwneud â ti." Mae Duw eisiau i ni gyfrannu, nid bwyta. Pan fydd ein diwylliant cyfan yn dweud, Llenwa dy hun, mae Duw'n dweud wrthon ni i lenwi eraill. Wnaeth Duw mo'n creu i fod yn rai sy'n cymryd, fe wnaeth e ein creu i fod yn rai sy'n rhoi. Yn hytrach na chanolbwyntio ar ein dymuniadau, dŷn ni'n cael ein galw i ffocysu ar anghenion eraill. Yn lle neidio i flaen y ciw, dŷn ni'n cael ein galw i aros yn y cefn. Creodd Duw ni i wasanaethu.


Bydd y math yma o fyw yn newid stori dy fywyd.


Meddylia amdano fe. Y storïau rwyt yn hoffi dwyn i gof yw'r rhai pan wnes di helpu dy gymydog, cymryd rhan yn yr eglwys, neu roi rywbeth i ffwrdd. Y rheswm yw, ein bod wedi ein gwneud i wasanaethu'n union fel y gwnaeth Iesu ar y ddaear. Falle na fydd y penderfyniad i wasanaethu'n teimlo'n naturiol i ti. Doedd e ddim bob tro i mi. Ond dw i wedi sylweddoli nad yw gwasanaethu'n rywbeth dŷn ni'n ei wneud. Gwas yw'r hyn dŷn ni'n cael ei galw i fod. Oherwydd pan fyddwn yn gwasanaethu dŷn ni'n dod yn debyg i Grist.


Gweddïa:Dduw, ym mha ffordd wyt ti'n fy ngalw i wasanaethu? Pwy wyt ti'n fy ngalw i wasanaethu? Ble wyt ti'n fy ngalw i wasanaethu?


Diwrnod 4Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

Divine Direction

Bob dydd byddwn yn gwneud dewisiadau sy'n siapio stori ein bywyd. Sut olwg fyddai ar dy fywyd pe byddet ti'n dod yn arbenigwr ar wneud y dewisiadau hynny? Yn y Cynllun Beibl Cyfarwyddyd Dwyfol, mae'r hoff awdur y New Yor...

More

Hoffem ddiolch i'r Parch Craig Groeschel a Life.Church.tv am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://craiggroeschel.com/

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd