Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Cyfarwyddyd DwyfolSampl

Divine Direction

DYDD 4 O 7

Dos

Wyt ti'n synhwyro bod rywbeth newydd yn digwydd yn dy fyeyd? Wyt ti eisiau rywbeth newydd? Hyd yn oed os nad wyt ti'n ei deimlo nawr, mae e wastad yn syniad da i gadw'th galon yn barod am newid achos mae e fel ernes.

Dŷn ni wedi siarad am ddechrau, stopio, ac aros. Weithiau y penderfyniad gorau elli di ei wneud yw mynd.


Yn aml, cawn ein galw i ddal ein tir, pan fydd y pwysau'n cynyddu, ond ar sawl achlysur mae'n rhaid mentro. Wyt ti'n teimlo'n aflonydd ble rwyt ti? Falle fod Duw wedi plannu awydd dwyfol ynot ti i'w wasanaethu mewn ryw ffordd ryfeddol. Falle ei fod e wedi dy ysbrydoli gyda grŵp penodol o bobl, syniad, problem, neu le. Falle ei fod yn sy alw i fynd. Dos ar ôl y syniad hwnnw a gweld i ble mae e'n mynd â ti. Cofleidia'r antur. Y ffordd orau i gamu allan mewn ffydd yw cael dechrau da.

Mae yna stori wych yn yr Hen Destament am Abram a Sarai (wedi'u hail enwi'n ddiweddarach i Abraham a Sara) sy'n darlunio "mynd" yn berffaith. Yn Genesis, pennod 12, siaradodd duw gydag Abram. Ar y pryd roedd Abram, yn byw mewn tref o'r enw Haran ond o ddinas o'r enw Ur y Caldeaid roedd e'n hanu. Yn nhref enedigol Abram roedd y bobl yn addoli duw ffug y lleuad, Nannar.

r hyn sy'n arwyddocaol yw bod yr un gwir Dduw wedi dewis ei ddatgelu ei hun i Abram. Rhoddodd Duw orchymyn syml a phenodol i Abram, i gerdded i ffwrdd o bopeth roedd wedi arfer ag e. "Dw i am i ti adael dy wlad, dy bobl a dy deulu, a mynd i ble dw i'n ei ddangos i ti." Genesis. pennod 12, adnod 1 beibl.net.


I gamu tuag at DY Dynged, efallai y bydd yn rhaid i ti gamu i ffwrdd o'th ddiogelwch.

I fynd i rywle arall mae'n rhaid i ti ble rwyt ti. Mae'n rhaid i ti adael yr hyn ti'n adnabod, beth sy'n gyfforddus, beth sy'n rhagweladwy, a beth sy'n hawdd. I gamu tuag at dy dynged, efallai y bydd yn rhaid i ti gamu i ffwrdd o'th ddiogelwch.


Pwy a ŵyr i ble fydd Duw yn mynd â'th stori os byddi'n gadael iddo. Un diwrnod, flynyddoedd o nawr, byddi di'n edrych yn ôl ar dy fywyd ac yn gweld y stori gyfan. Sut y bydd hi? "Ro'n i'n teimlo fel bod Duw'n fy ngalw, ond roedd arna i ofn, felly wnes i ddim byd." Neu a fydd gen ti sori llawn ffydd i'w hadrodd? Y gwahaniaeth ydy pa un ai y byddi'n mynd pan fydd Duw yn dweud, "Dos".


Gofynna:Beth mae Duw'n fy ngalw i adael? I ble mae Duw eisiau i mi fynd?


Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

Divine Direction

Bob dydd byddwn yn gwneud dewisiadau sy'n siapio stori ein bywyd. Sut olwg fyddai ar dy fywyd pe byddet ti'n dod yn arbenigwr ar wneud y dewisiadau hynny? Yn y Cynllun Beibl Cyfarwyddyd Dwyfol, mae'r hoff awdur y New Yor...

More

Hoffem ddiolch i'r Parch Craig Groeschel a Life.Church.tv am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://craiggroeschel.com/

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd