Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Mae Duw yn _________Sampl

God Is _______

DYDD 5 O 6

Mae Duw’n Ffyddlon


Dyma'r ARGLWYDD yn pasio heibio o'i flaen a chyhoeddi, “Yr ARGLWYDD! Yr ARGLWYDD! Mae'n Dduw caredig athrugarog; mae mor amyneddgar, a'i haelioni a'i ffyddlondeb yn anhygoel! Mae'n dangos cariad di-droi'n-ôl am fil o genedlaethau, ac yn maddau beiau, gwrthryfel a phechod. Ond dydy e ddim yn gadael i'r euog fynd heb ei gosbi. Bydd yn ymateb i bechodau'r tadau sy'n gadael eu hôl ar eu plant a'u plant hwythau - am dair neu bedair cenhedlaeth.”Exodus, pennod 34:adnodau 6-7 beibl.net

Dŷn ni wedi archwilio rhai o briodoleddau Duw, a gallwn ffeindio llawer mwy drwy’r Ysgrythur gyfan. Ond yn Exodus, pennod 34, mae Duw’n datgelu pum peth penodol am ei hun i Moses: Mae e’n drugarog, caredig, yn amyneddgar, cariadus a ffyddlon.


Yn y darn hwn hefyd mae Duw’n dweud wrth Moses nad yw’n gadael i'r euog fynd heb ei gosbi. Sut allwn ni gysoni’r tensiwn hwnnw o gyfiawnder Duw a’i gariad Ef?



I ddechrau, dŷn ni’n tueddu i edrych Ar bethau mewn du a gwyn. Ond mae Duw’n mynd tu hwnt i’r bocsys dŷn ni’n tueddu i’w roi e ynddyn nhw. Mae e, nid yn unig yn llawn cariad – mae e hefyd yn gyfiawn, sy’n dangos pam nad yw e’n methu gadael i’r euog fynd heb gael eu cosbi. Eto, mae e’n drugarog, hefyd, sy’n golygu, tra bo’n cosbi rhai cenedlaethau, mae e’n dangos cariad i filoedd ohonyn nhw.


Mae cariad a chyfiawnder Duw i’w weld drwy’r Ysgrythur gyfan. Maen nhw’n rhan enfawr o’i ffyddlondeb.


Dechreuodd cynlluniau mawreddog Duw i adfer ein perthynas ag e gydag addewid wnaeth i Abraham a Sara yn Genesis. Mae’n dweud y bydd yn bendithio’r byd gyda’u disgynyddion - addewid a gyflawnwyd yn y pen draw yn Iesu.


Ond dŷn ni fodau dynol byth a hefyd yn diystyru ein hochr ni o’r addewid. Tra mae Moses yn Siarad gyda Duw mae gweddill y bobl yn mynd yn ddiamynedd ac yn penderfynu addoli delw o lo aur yn lle. Eto, oherwydd ei ffyddlondeb i’w addewidion dydy e ddim yn eu dinistrio.


Yn lle hynny, mae’r rheiny sy’n dal ati i fod yn anufudd a throi oddi wrtho, yn cael eu cosbi, tra bod rheiny sy’n edifarhau, yn cael cyfle arall.


A thrwy lawer o fethiannau eraill gan fodau dynol, mae ffyddlondeb Duw yn parhau, sy’n amlwg trwy Iesu yn cyflawni addewid Duw.


Felly, bob tro y byddwn yn gwneud llanast o bethau a methu taro’r nod, gallwn redeg nôl at Dduw, gan fod yn ddiolchgar nad yw ein methiannau’n diystyru ffyddlondeb Duw i faddau a chadw ei addewidion.


Gweddïa: Dduw, diolch am dy ffyddlondeb drwy Iesu a drwy fy mywyd cyfan. Hyd yn oed pan dw i’n anffyddlon neu’n methu, dwyt ti byth yn rhoi'r gorau iddi arna i, a dw i’n dy foli di am hynny. Rho lygaid imi weld dy ffyddlondeb ar waith, a thyfa fy ffydd yn y broses. Yn enw Iesu, Amen.


Sialens: Myfyria ar gyfnodau penodol yn dy fywyd ble rwyt wedi gweld ffyddlondeb Duw. Ystyria wneud rhestr i droi ato’n gyson.


Diwrnod 4Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

God Is _______

Pwy yw Duw? Ma egan bob un ohonom ateb gwahanol, ond sut dŷn ni'n gwybod beth sy'n wir? Dydy e ddim o bwys beth yw eich profiad o Dduw, Cristnogion, neu'r eglwys, mae'n amser darganfod Duw am pwy yw e go iawn - real, pre...

More

Hoffem ddiolch i Life Church am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.life.church/

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd