Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Mae Duw yn _________Sampl

God Is _______

DYDD 2 O 6

Mae Duw’n Drugarog


Felly gadewch i ni glosio at orsedd Duw yn hyderus. Mae Duw mor hael! Bydd yn trugarhau wrthon ni ac yn rhoi popeth sydd ei angen i ni pan mae angen help arnon ni.Hebreaid, pennod 4, adnod 16 beibl.net

Fel soniwyd ddoe, Mae Duw’n ein hymlid drwy’r adeg, hyd yn oed pan nad ydyn ni’n haeddu. Ac mae hynny’n nodweddiadol o’i gymeriad.


Mae pob un ohonom wedi pechu a disgyn yn fyr o safonau Duw, sy’n creu rhwystr rhyngom ni a’n Duw perffaith sanctaidd. Ond yn nhrugaredd Duw, anfonodd e Iesu i gymryd y gosb roedden ni’n ei haeddu - marwolaeth - a chreu ffordd i ni gael bywyd tragwyddol gydag e.


Felly, mae trugaredd Duw’n golygu nad ydyn ni’n derbyn yr hyn dŷn ni’n ei haeddu go iawn. Ond, nid dyna’r diwedd.. Nid jest creu ffordd allan i ni mae trugaredd Duw, ond, mae hefyd am Dduw’n cael ffordd i mewn. Nid dileu ein pechod yn unig wnaeth e, Anfonodd ei Fab. Gwnaeth ffordd i’n cwrdd ble roedden ni, fel roedden ni.


Fe ddaeth Duw fel Emaniwel: Mae Duw gyda ni. Profodd bob emosiwn dynol, ac mae ei fywyd daearol yn brawf o awydd Duw i agosáu atom. Ac yn yr agosatrwydd hwnnw dŷn ni’n ffeindio trugaredd.


Drwy’r Efengylau cyfan dŷn ni’n gweld nifer o enghreifftiau o bobl yn gofyn i “ddangos trugaredd” iddyn nhw. Mae un enghraifft bwerus i’w weld yn Luc, pennod 17 pan dynion gyda’r gwahanglwyf yn mynd ato.


I roi hyn mewn cyd-destun, roedd y gwahanglwyf ar y pryd yn gwneud y bobl hyn yn alltudion na ddylid eu cyffwrdd. Yn ôl Cyfraith Lefiaidd, roedden nhw’n cael eu hystyried yn aflan yn seremonïol aflan,
oedd yn golygu y byddai unrhyw un oedd yn eu cyffwrdd yn aflan hefyd.


Ond am fod Duw yn berson o gig a gwaed yn Iesu roedd e’n bur, sanctaidd, a pherffaith. Wrth i’r gwahangleifion agosáu dyma nhw’n gweiddi allan am drugaredd. Dwedodd Iesu wrthyn nhw i fynd i ddangos eu hunain i’r offeiriaid - sef y drefn yn ôl y gyfraith. Wrth iddyn nhw fynd maen nhw’n cael eu hiachau.


Yn ei hanfod mae Iesu’n cyflawni’r gyfraith o chwith. Yn lle dod yn aflan ei hun drwy eu cyffwrdd, mae e’n trosglwyddo’i sancteiddrwydd ei hun i orchuddio eu haflendid.

,

Mae hynny’n symbol perffaith o’r hyn wnaeth Iesu ar ein rhan ni i gyd drwy ei farwolaeth a’i atgyfodiad. Nid dim ond cael gwared ar ein pechod, poen a’n bywyd toredig - daeth atom ym mherson Iesu. Pan fyddwn ni'n derbyn iachawdwriaeth yng Nghrist, rydyn ni'n profi trugaredd Duw.

,

Ond eto, mae gymaint mwy na hynny. Dŷn ni’n profi trugaredd Duw, nid yn unig drwy ein hiachawdwriaeth, ond hefyd mewn cyfnodau o boen, galar, ac anobaith - yn union fel gwnaeth y gwahangleifion ei brofi. Felly, os wyt ti mewn tymor anodd ar hyn o bryd, gwaedda allan am drugaredd Duw. Mae e gyda thi. Mae e’n agos. Ac mae’n gallu iachau, adnewyddu, a’th adbrynu.


Gweddïa: Dduw, diolch iti am fod mor anhygoel o drugarog i ni. Diolch am Iesu. Diolch am fod yn Dduw sydd eisiau bod yn agos atom ni, hyd yn oed pan dŷn ni ddim yn haeddu hynny. Rho’r gallu imi weld dy drugaredd, hyd yn oed ynghanol poen, a helpa fi i estyn y math yna o gariad trugarog i rai o’m cwmpas hefyd. Yn enw Iesu, Amen.


Sialens: Edrych am gyfleoedd i weld trugaredd Duw yn dy fywyd ac i fod yn drugarog i eraill heddiw.


Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

God Is _______

Pwy yw Duw? Ma egan bob un ohonom ateb gwahanol, ond sut dŷn ni'n gwybod beth sy'n wir? Dydy e ddim o bwys beth yw eich profiad o Dduw, Cristnogion, neu'r eglwys, mae'n amser darganfod Duw am pwy yw e go iawn - real, pre...

More

Hoffem ddiolch i Life Church am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.life.church/

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd