Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Mae Duw yn _________Sampl

God Is _______

DYDD 1 O 6

Pwy yw Duw?


Duw yw_______.


Pa air wnest ti feddwl amdano gyntaf? Falle dy fod yn adnabod Duw fel dy Dad cariadus. Falle dy fod wedi profi Duw fel dy Iachawr neu Darparydd. Neu falle dy fod yn meddwl fod Duw yn bell, blin, neu feirniadol.


Dydy’r ffordd wnest ti ateb ddim o bwys, mae dy farn am Dduw yn bwysig iawn yn dy fywyd. I ddweud y gwir dwedodd y gweinidog a'r awdur enwog A.W.Tozer, “Yr hyn sy’n dod i’n meddwl gyntaf am Dduw, yw’r peth pwysicaf amdanom.”


Mae ein syniad o Dduw yn dylanwadu ar sut dŷn ni’n edrych arnom ni ein hunain, eraill, a’r byd o’n cwmpas. Dyna pam mae hi’n hynod o bwysig i ni osod y sylfaen o bwy yw Duw i ni ar sail gwirionedd digyfnewid ei Air - nid stad dros dro ein teimladau.


Falle dy fod wedi profi galar, colled, neu siomedigaeth adawodd ti’n teimlo’n flin neu wedi brifo gan Dduw. Falle dy fod wedi cwrdd Cristnogion eraill wnaeth iti deimlo wedi’th farnu a’th gondemnio, felly rwyt yn meddwl fod Duw'r un fath. Falle dy fod wedi trio gweddïo neu gysylltu â Duw, ond rwyt yn teimlo dim byd, felly rwyt yn meddwl ei fod yn bell, oer, ac yn ddiofal.



Mae’r profiadau ac emosiynau hynny’n ddilys ond dydyn nhw ddim yn gynrychiolaeth gywir o gymeriad Duw.


A dweud y gwir mae gwneud ein golwg o Dduw’n aneglur wedi bod yn un o dactegau’r gelyn ers y dechrau cyntaf. Yng Ngardd berffaith Eden, cerddodd Duw gydag Adda ac Efa, gan roi un gorchymyn: I beidio bwyta o bren gwybodaeth da a drwg. Ond sleifiodd y gelyn i mewn a gofyn i Efa os oedd Duw yn wir< em> wedi dweud na allen nhw a’i hargyhoeddi fod Duw’n cuddio rhywbeth oedd arni ei angen go iawn.


O ganlyniad bwytaodd y wraig y ffrwyth a daeth pechod i’r byd gan dorri ein perthynas â Duw.


Ac eto, drwy hyn i gyd, wnaeth cymeriad Duw ddim newid. Darparodd, yn ei gariad, ddillad i Adda ac Efa, oedd yn rhagolwg ar ei weithred fwyaf o gariad aberthol, sef anfon ei Fab, Iesu i fyw bywyd dibechod a marw yn ein lle i adnewyddu ein perthynas ag e.


Weithiau mae hi’n demtasiwn i feddwl fod Duw’r Hen Destament jest yn feirniadol ac mai dim ond yn yTestament Newydd dŷn ni’n gweld trugaredd drwy Iesu. Ond y gwir amdani yw, mae Duw wastad wedi mynd ar ôl pobl gyda’i garedigrwydd cyn i ni hyd yn oed feddwl am ei ymlid e. Mae e wastad wedi bod yn ffyddlon i gyflawni ei addewidion. Ac mae e wastad wedi bod yn gyfiawn ac yn drugarog, yn sanctaidd a chariadus, yn benarglwyddiaethol ac yn ddigyfnewid.


Mae cymeriad dwfn yn rhy ddwfn, cyfoethog, a mawr i’w ddisgrifio’n llwyr, ond dŷn ni’n gweld cliwiau iddo drwy’r Beibl cyfan.


Felly, wrth iti feddwl am Dduw, ystyria sut wyt ti’n ffurfio dy syniad ohono. A yw wedi’i sylfaenu ar wirionedd ei Air neu ar boenau blaenorol?


Yn ystod y dyddiau nesaf byddwn yn archwilio ychydig o nodweddion Duw o’r Ysgrythur. Wrth i ni eu darganfod gofynna i Dduw ddatgelu mwy o’i hun i ti. Waeth beth yw dy brofiadau blaenorol gyda Duw, Cristnogion, yr eglwys dylet wybod hyn: Duw’r Bydysawd wnaeth dy greu, sy’n dy garu ac sy’n dy ymlid yn ddiddiwedd.


Gweddïa: Dduw, dw i’n ymwybodol fod fy syniad ohonot ti’n aml yn seiliedig ar wybodaeth anghyflawn. Dangos imi unrhyw gelwyddau amdanat a’u disodli gyda rhai iawn. Datgela mwy o’th hun a’th gymeriad imi heddiw. Yn enw Iesu, Amen.


Sialens: Cwblha’r datganiad hwn: Mae Duw yn _______. Sgwenna gymaint o eiriau af wyt ti’n meddwl amdanyn nhw, ac yna ddod o hyn i adnodau i’w hategu.


Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

God Is _______

Pwy yw Duw? Ma egan bob un ohonom ateb gwahanol, ond sut dŷn ni'n gwybod beth sy'n wir? Dydy e ddim o bwys beth yw eich profiad o Dduw, Cristnogion, neu'r eglwys, mae'n amser darganfod Duw am pwy yw e go iawn - real, pre...

More

Hoffem ddiolch i Life Church am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.life.church/

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd