Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Blwyddyn Newydd: Dechrau NewyddSampl

New Year: A Fresh Start

DYDD 1 O 5

Byw gyda Chalon Newydd


Un o'r datblygiadau meddygol modern mwyaf rhyfeddol yw trawsblaniadau organau. Yn fwy penodol, dw i’n rhyfeddu at y gallu i drawsblannu calon o un corff dynol i’r llall. Mae'r syniad y gallai rhywun gael tynnu ei galon afiach o'i gorff a chalon iach wedi'i thrawsblannu o gorff rhywun arall yn anhygoel i mi. Mae'n enghraifft o rywun yn derbyn calon newydd sy'n eu galluogi i fyw.


Er mor drawiadol yw hyn, nid dyma'r math mwyaf rhyfeddol o "drawsblaniad calon." Nid oes unrhyw sicrwydd y bydd rhywun yn wahanol wrth dderbyn trawsblaniad calon gorfforol. Os oedden nhw’n gas, hunanol, a balch pan oedd yr hen galon ganddyn nhw, mae'n debyg y bydden nhw’n gas, hunanol, a balch ar ôl cael eu calon newydd. Ydyn, maen nhw’n fyw ond falle na fydd eu bywydau ddim gwahanol.


Mae Duw, fodd bynnag, wedi addo rhoi calon newydd i ni a fydd yn trawsnewid ein bywyd. Trwy'r proffwyd Eseciel, mae Duw yn dweud y bydd yn rhoi trawsblaniad calon inni. Bydd yn rhoi i ni galon newydd, a fydd yn well. Fydd hi ddim yn cael ei chaledu gan bechod. Bydd yn lân oddi wrth holl fudreddi ein pechod a'r pethau dŷn ni’n eu gosod yn eilunod yn ein bywyd. Bydd gynnon ni galon sy'n hollol wahanol i'r un oedd gynnon ni o’r blaen, a fydd e ddim yn caniatáu inni aros yn fyw yn unig. Eto i gyd, bydd yn ein galluogi i brofi bywyd wedi'i drawsnewid.


Mae'n ddiddorol nodi'r gost sy'n gysylltiedig â thrawsblaniad calon. Pan fydd calon gorfforol yn cael ei thrawsblannu, mae'n golygu bod rhywun wedi marw. Mae calon y rhoddwr ar gael oherwydd bod rhywun wedi cael anafiadau neu afiechyd sydd wedi dirwyn eu bywyd i ben. Bydden nhw’n farw hyd yn oed pe na baen nhw’n rhoi eu calon a’i peidio, ond y ffaith ydy, all trawsblaniad calon ddim digwydd oni bai bod rhywun yn marw.


Mae'r un gost yn gysylltiedig â thrawsblaniad calon ysbrydol. Dim ond oherwydd bod rhywun wedi marw y mae'n bosibl. Dim ond trwy aberth Iesu yn marw ar y groes y gallwn gael calon newydd. Wrth iddo hongian ar y groes, fe gymerodd ein pechod ni arno'i hun a bu farw er mwyn inni gael calon newydd, lân. Am gost uchel, mae calon newydd ar gael i ni.


Wrth i flwyddyn newydd ddechrau, a oes angen calon newydd arnat t? Mae ar gael trwy berthynas ag Iesu. Mae am i ti gael calon sy'n lân ac yn newydd. Mae'r gost wedi'i thalu, ac mae ar gael i ti.


Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

New Year: A Fresh Start

Mae blwyddyn newydd yn gyfystyr â dechrau newydd a dechrau newydd. Mae'n amser i ailosod, adnewyddu, ac ailffocysu ar yr hyn sydd bwysicaf yn dy fywyd. Mae cael y flwyddyn orau erioed yn dechrau trwy wybod dy fod wedi dy...

More

Hoffem ddiolch i International Leadership Institute am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://ILIteam.org

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd