Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Cynllun Duw ar gyfer RhywSampl

God's Design For Sex

DYDD 3 O 15

RHYW A PHRIODAS



Mae rhyw ar gyfer priodas , a phriodas ar gyfer rhyw. Yn gyfan gwbl.



Y rheswm am hyn yw nad dim ond adloniant achlysurol yw rhyw. Nid ffordd bleserus o ddatgan cariad y naill at y llall. Fel trafodwyd yn ein adran flaenorol, "Rhyw a'r Drindod", natur Duw yw e, wedi'i ddatgan yn yr uno o ddau berson yn un cnawd. , adnodau i



Mae'r rhan fwyaf o'r rhai sy'n beirniadu purdeb Cristnogol yn dweud nad oes gan y Beibl "ddim byd" i'w ddweud am ryw tu allan i briodas. Y broblem, yn eu barn nhw, yw does dim byd negatif yn cael ei ddweud i "gondemnio" yr arferiad neu awgrym o "paid". Ond mae'r Beibl yn datgan ei bersbectif ar y mater mewn termau positif.



"Atebodd Iesu nhw, “Ydych chi ddim wedi darllen beth wnaeth Duw ar y dechrau? – ‘Gwnaeth bobl yn wryw ac yn fenyw’Croes a dweud, ‘felly bydd dyn yn gadael ei dad a'i fam ac yn cael ei uno â'i wraig, a bydd y ddau yn dod yn un.” (Mathew, pennod 19, adnodau 4 i , 5 ac yn dyfynnu o Genesis, pennod 1, adnod 27, ac pennod 2, adnod 24).



Mae'r pwynt yma yn amlwg: mae priodas a'r "dau yn dod yn un" yn Genesis 2 - sydd wedi'i selio gan y weithred rywiol - yr un yw'r ddau. Fedri di ddim cael un heb y llall.



Mae hyn yn ffitio i mewn efo rhybudd Paul yn Corinthiaid, pennod 6, adnod 16: "Ydych chi ddim yn sylweddoli fod dyn yn clymu ei hun gyda'r butain wrth gael rhyw gyda hi? “Bydd y ddau yn dod yn un,” Mae'r un cysyniad yng ngeiriau Iesu, "Dim dau berson ar wahân ydyn nhw wedyn, ond uned. Felly ddylai neb wahanu beth mae Duw wedi'i uno.” (Mathew, pennod 19, adnod 6).



Mae hefyd ymhlyg wrth y gorchymyn yn erbyn godineb (Exodus, pennod 20, adnod 14). O ran safbwynt y Beibl. mae godineb yn cynnwys unrhyw weithred rywiol sy'n digwydd tu allan i'r uniad o briodas. Dyna pam mae awdur y llythyr at yr Hebreaid yn dweud "Dylai priodas gael ei barchu gan bawb, a ddylai person priod ddim cysgu gyda neb arall. Bydd Duw yn barnu pawb sy'n anfoesol ac yn cael rhyw y tu allan i briodas." (Hebreaid, pennod 13, adnod 4).



Mae'n hanfodol i ychwanegu fod Duw eisiau i ni gadw rhyw ar gyfer priodas, nid am ei fod yn "ddrwg" neu "budr" ond am ei fod mor unigryw, a hyfryd. Mae rhyw yn ddirgelwch sanctaidd. Mae'n gyfrwng pwerus sy'n siapio ac effeithio ar y berthynas rhwng gŵr a gwraig, yn fwy na all dim arall ei wneud.



Mae rhyw tu allan i briodas fel cymryd gwin sydd wedi;i gysegru ar gyfer y cymun a'i ddefnyddio mewn parti gwyllt. Dyma pam mae awduron y Gair, mor aml, yn cymharu eilunaddoliaeth i buteindra neu odineb.



Mae e hefyd yn esbonio pam eu bod yn defnyddio purdeb rhywiol a ffyddlondeb rhwng rhai priod fel darlun o berthynas gyda Duw. (fel yn Caniad Solomon, Llyfr Hosea, a phennod 16 o Eseciel).



I aileirio'r hen gân fod rhyw a phriodas yn mynd efo'i gilydd fel "ceffyl a chert!". A dylai'r rheswm am hyn fod yn hollol eglur, nid yn unig o bersbectif ysbrydol, ond hefyd o farn hollol gymdeithasol. Mae priodas yn golygu ymrwymiad cyhoeddus i adeiladu perthynas gref a pharhaol.

i

Mae'r berthynas hon yna, nid yn unig i fod yn sylfaen ar gyfer magu plant, ond hefyd yn garreg sylfaen ar gyfer adeiladu sefydlogrwydd cymdeithasol. Dyma yw cyfraniad y cwpwl i sefydlogrwydd y gymuned ddynol ehangach. Dyna pam mae rhyw, sydd â'r potensial i greu bywyd newydd, i fod yn benodol ar gyfer uniad priodasol.



Am fwy o help, dos i brif wefan Pure Intimacy neu Focus on the Family. Gelli hefyd ffonio'r Adran Gynghori gweinidogaethol am ymgynghoriad rhad ac am ddim ar 855-771-HELP (4357).

Ysgrythur

Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

God's Design For Sex

Mae trysoryddion y Trysorlys yn dysgu i adnabod arian ffug drwy adnabod y patrymau cywrain mewn arian go iawn. Yn yr un modd, mae deall pechod toredig rhyw yn dechrau gyda chynllun Duw ar gyfer agosatrwydd rhywiol dilys....

More

Hoffem ddiolch i Focus on the Family am darparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://family.custhelp.com/app/home

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd