Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Cynllun Duw ar gyfer RhywSampl

God's Design For Sex

DYDD 1 O 15

PURDEB



Dydy purdeb ddim yn rhywbeth mae rhywun yn clywed llawer amdano y dyddiau hyn, ond mae wedi bod yn rinwedd Cristnogol pwysig am fwy nag ugain canrif. Mae purdeb, fel arfer, yn cael ei ddiffinio fel ymatal o ryw cyn priodi a ffyddlondeb rhywiol o fewn i briodas.



Mae'n adlewyrchu'r golwg byd-eang Beiblaidd nad oes gennym hawl cynhenid i ryw. Mae'r fraint o undeb rhywiol yn cael ei roi i ni drwy'r seremoni briodasol.



Ond mae purdeb yn mynd tu hwnt i rhwy fel gweithred . Mae'n ran hanfodol bwysig o ffyddlondeb a disgyblaeth Cristnogol. Mae ei oblygiadau yn estyn ar draws sbectrwm cyfan y profiad Cristnogol ac yn cyffwrdd pob rhan o'n bywydau.



Dyna pam roedd yr apostol Paul yn gallu dweud wrth ferched mai drwy eu hymddygiad pur, byddai eu gwŷr yn cael eu hennill i ffydd yng Nghrist. Nid dim ond annog gwragedd Cristnogol i osgoi rhyw tu allan i briodas. Roedd e'n awgrymu bod bywyd o ddisgyblaeth penderfynol gyda ffocws ac ymroddiad yn creu argraff ddofn ar y rheiny sydd hyd yn hyn ddim yn adnabod yr Arglwydd yn bersonol.



Dŷn ni'n aml yn siarad yn yr eglwys am y goblygiadau dinistriol o gael rhyw tu allan i briodas - helyntion gydol bywyd gyda phosibilrwydd o heintiau drwy ryw, beichiogrwydd dieisiau, a ac iselhau rhywbeth roedd Duw wedi'i fwriadu i ni rannu gydag un person arall yn unig.



Ond y gwirionedd mwyaf hanfodol am burdeb yw gallu troi i ffwrdd oddi wrth mynegiant afiach o rywioldeb a rhamantiaeth sydd yn ein galluogi i ffocysu ar Dduw mewn ffordd na fyddai fel arall yn bosibl. Dwedodd Iesu, "Mae'r rhai sydd â chalon bur wedi'u bendithio'n fawr." A pham? "oherwydd byddan nhw'n cael gweld Duw." (Mathew, pennod 5 , adnod 8). Mae anfoesoldeb rhywiol yn ein hatal rhag ffocysu ar yr un sy'n ein caru fwyaf, yr Arglwydd.



Felly, yw'r un sydd flaenaf mewn disgyblaeth ysbrydol. Fel gweddi, ymprydio, astudio, tawelwch, caredigrwydd a rhoi, mae'n rhywbeth mae Duw yn gofyn i ni ei ymarfer, nid fel ein bod yn cael mynd i'r nefoedd ond bydd yn ein trawsnewid ni i greaduriaid nwydd. Nid absenoldeb rhyw anghyfreithlon yw purdeb , ond cydffurfio gweithredol o'n corff, enaid a meddwl i'r ddelwedd o Grist.



Am fwy o help, dos i brif wefan Pure Intimacy neu Focus on the Family. Gelli hefyd ffonio'r Adran Gynghori gweinidogaethol am ymgynghoriad rhad ac am ddim ar 855-771-HELP (4357).

Ysgrythur

Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

God's Design For Sex

Mae trysoryddion y Trysorlys yn dysgu i adnabod arian ffug drwy adnabod y patrymau cywrain mewn arian go iawn. Yn yr un modd, mae deall pechod toredig rhyw yn dechrau gyda chynllun Duw ar gyfer agosatrwydd rhywiol dilys....

More

Hoffem ddiolch i Focus on the Family am darparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://family.custhelp.com/app/home

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd