Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Cynllun Duw ar gyfer RhywSampl

God's Design For Sex

DYDD 5 O 15

RHYW A PHOBL SENGL



Y dyddiau hyn mae'n ymddangos fod dynion a merched yn oedi cyn priodi am gymaint o amser ag y gallan nhw. Mae rhai wedi penderfynu am nawr fod, ennill gradd, bod yn sefydlog mewn gyrfa, a gweld y byd yn fwy pwysig na "setlo i lawr" i "drefn bywyd domestig diflas." Mae rhai eraill yn penderfynu peidio priodi o gwbl., gan ddod i'r casgliad fod bywyd sengl yn fwy rhydd, haws, a mwy cynhyrfus na bywyd priodasol.



Ond mae un problem gyda'r persbectif yma o fywyd: mae gan y rhan helaeth o'r oedolion ifanc hyn deimladau rhywiol cryf ac awydd dwfn i brofi bod yn "un cnawd" gyda pherson arall.



Yr ateb i lawer yw cadw rhyw a phriodi ar wahân - gallai hynny olygu cael perthynas rywiol i ryw ysbeidiol ambell i noson, i gyd-fyw. Ond mae gan y dewisiadau hyn un peth yn gyffredin: mae nhw'n chwilio am y cyfle i fodloni angen rhywiol arferol heb ei glymu i briodas, bod yn riant, teulu,, neu ymrwymiad barhaol.



Ond dyw neb sy'n credu mai Gair duw yw'r Beibl ac sy'n ceisio dilyn Iesu Grist yn gallu anwybyddu, ar chwarae bach, bwysigrwydd purdeb neu ddiystyru'r linc yn y Gair rhwng rhyw a phriodi.



Mae'r Beibl yn caniatáu dewis amgen, wrth gwrs: bywyd o ymataliad lwyr oddi wrth rhyw.

Ond mae Paul ac Iesu, fel ei gilydd, yn dangos fod ymataliad lwyr yn rodd prin iawn ac yn cael ei roi i nifer bach o unigolion (Mathew, pennod 19, adnodau 10 i 12, 1 Corinthiaid, pennod 7, adnod 7). I bawb arall ohonom, mae'r sialens o fyw bywyd heb ryw yn safon anod iawn i'w gyrraedd. Dyna pam fod priodi yn ran mor bwysig o gynllun duwiol i unrhyw gredadun arferol (1 Corinthiaid, pennod 7, adnod 2).



Bydd rhai Cristnogion yn teimlo eu bod wedi'u gorfodi i ddod i'r canlyniad fod duw yn eu galw i "fywyd o fod yn sengl". Mewn rhai achosion, efallai fod nhw'n iawn. Ond mae hyn yn gallu bod yn anodd ac yn boenus pan mae rhywun wedi'u ddal rhwng yr argyhoeddiad hyn a gwirionedd angen rhywiol iachus. Os wyt yn gorfod ymladd gormod i atal y teimladau hyn, mae'n hawdd iawn credu fod Duw yn greulon a mympwyol



Efallai nad yw ateb y Gair, yn hawdd i'w gyflawni, ond mae'r un mor glir ag y gallai fod: mae'r rhai hynny sy'n brwydro yn erbyn temtasiynau rhywiol, angen ystyried o ddifrif gan feddwl yn fwriadol iawn yr opsiwn o briodi.



Mae'n rhaid iddyn nhw fyw yn galed mewn dull sy'n gwrthdaro rhagdybiaeth cymdeithasol a darganfod ffyrdd o ddod o hyd i bartneriaid sy'n rhannu eu hargyhoeddiadau a chytuno â'u golwg ar y byd, pa u nai yw hynny yn golygu ymuno â chyfeillach pobl sengl mewn eglwys leol neu mynd i wefan ac edrych ar wasanaeth paru Cristnogol.



Yn fwy pwysig na dim mae angen rhoi y mater i weddi a thrystio Duw i ddarparu ar gyfer eu holl anghenion. Mae'n fater o serio dy olwg ar Grist a phenderfynu cadw boddhad rhywiol ar gyfer priodas.



Am fwy o help, dos i brif wefan Pure Intimacy neu Focus on the Family. Gelli hefyd ffonio'r Adran Gynghori gweinidogaethol am ymgynghoriad rhad ac am ddim ar 855-771-HELP (4357).

Ysgrythur

Diwrnod 4Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

God's Design For Sex

Mae trysoryddion y Trysorlys yn dysgu i adnabod arian ffug drwy adnabod y patrymau cywrain mewn arian go iawn. Yn yr un modd, mae deall pechod toredig rhyw yn dechrau gyda chynllun Duw ar gyfer agosatrwydd rhywiol dilys....

More

Hoffem ddiolch i Focus on the Family am darparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://family.custhelp.com/app/home

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd