Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Mae Iesu'n fy NgharuSampl

Jesus Loves Me

DYDD 7 O 7

Am fod y Beibl yn dweud hynny wrtho i


Fel Cristnogion, dŷn ni wedi dewis y Beibl fel y safon ddigyfnewid ar gyfer popeth dŷn ni’n ei wneud am fod Iesu wedi. Mae’n rhaid i ni ddarllen ac ufuddhau i Air Duw, er mwyn adnabod ein hunaniaeth yng Nghrist. Honnodd Iesu fod pob gair o’r Ysgrythur wedi’i selio yn y bydysawd. - gymaint mwy na’r blaned dŷn ni’n cerdded arni. “Bydd y nefoedd a'r ddaear yn diflannu cyn i'r manylyn lleia o'r Gyfraith golli ei rym” (Luc 16:17).



Mae Gair Duw, hefyd, yn darparu dygnwch i ni, anogaeth, a gobaith wrth i ni ddilyn Iesu mewn byd toredig. Wrth i ti ddilyn Iesu a chaniatáu Gair Duw i’th ail-siapio, byd yn dy ailadeiladu fel dy fod yn gallu gweithredu ym mhob dimensiwn: dy berthnasedd, dy feddyliau, dy arferion, a dy ddewisiadau.



Mewn byd sy’n ysgwyd, symud, peryglus, ac ansefydlog, mae Duw eisiau dy wneud yn sefydlog. Hyd yn oed yn fwy na hynny, mae gan dduw weithredoedd da i ti eu gwneud. Mae Duw eisiau dy wneud yn ffrwythlon. Mae e eisiau dy wneud yn olau yn y tywyllwch. Mae Duw yn mynd i'th ddefnyddio yn dy amgylcheddau ac yn dy fywyd. Bydd yn gwneud hyn wrth i ti ymostwng i Air Duw a chaniatáu iddo dy goethi a’th wella.



Mae pob un ohonom ni yn waith ar y gweill. Pan fyddi’n dod o hyd i ran arall o’th fywyd ble nad wyt ti, na Duw, eisiau iti fod, paid digalonni. Pan fyddi’n dod o hyd i bechod newydd yn dy galon, neu’n dod o hyd i stwff hyll yn dy fywyd, paid digalonni. Mae pob prosiect adfer yn waith ar y gweill, ac mae holl ddilynwyr Iesu hefyd yn waith ar y gweill.



Mae Gair Duw, hefyd, fel map. Dyma beth dw i wedi’i sylwi gyda mapiau. Pa un ai os wyt ti’n defnyddio mapiau neu ap, rwyt yn trystio’r bobl sydd wedi rhoi’r map, neu ap hwnnw, at ei gilydd, A dyna fel y mae hi gyda Gair Duw. Mae yna gyfnodau pan dw i eisiau mynd i’r dde, ond mae Gair Duw’n dweud wrtho am i fynd i’r chwith. Gelli drystio Duw ym mhob sefyllfa.



Mae Cristnogaeth a’r hanfodion wnaethon ni edrych arnyn nhw o Jesus Loves Me yn gwneud yr holl wahaniaeth yn ein bywyd presennol a’r byd. Wrth i Dduw adnewyddu dy feddwl, drwy dy ufudd-dod a thrwy bŵer yr Ysbryd Glân, byddi’n dechrau o le dy wir gynllun a phrofi'r cyflawniad a'r pwrpas y mae Duw wedi'i gynllunio ar dy gyfer.






Oes gen ti arferiad sefydlog neu gyson o ddarllen Gair Duw? Gwna’r ymrwymiad yna heddiw.


Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

Jesus Loves Me

Pe byddai rhywun yn gofyn iti, "Beth sydd angen arna i i fod yn Gristion?" Beth fyddet ti'n ei ddweud? Drwy ddefnyddio'r geiriau syml i'r gân hyfryd, ""Jesus loves me, this I know, for the Bible tells me so”, mae newyddi...

More

Hoffem ddiolch i Baker Publishing am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://bakerbookhouse.com/products/235847

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd