Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Mae Iesu'n fy NgharuSampl

Jesus Loves Me

DYDD 1 O 7

Pam ddylwn i ddarllen hwn?


Dwedodd Iesu, “Dw i wedi dod i roi bywyd i bobl, a hwnnw'n fywyd ar ei orau” (Ioan10:10).
Daeth Iesu i anadlu bywyd i mewn i’n heneidiau Daeth i anadlu bywyd tragwyddol i mewn i ni fel ein bod yn gallu bod gyda Duw yn y nefoedd, ar ôl i ni adael y ddaear hon. Daeth i anadlu bywyd i mewn i bawb fydd yn credu a derbyn ei rodd rhad ac am ddim o Iachawdwriaeth.



Ble bynnag yr ydyn ni’n farw yn ein camgymeriadau, mae Iesu yno i anadlu bywyd yn l i mewn i ni. Mae’r ddynoliaeth gyfan - o bab bynnag gred a chefndir - yn y pen draw, yn hiraethu am y perthynas mae Iesu’n ei gynnig. Er mwyn ein hachub o anrhefn pechod daeth Iesu i ganol y ddynoliaeth.



Fel Cristnogion, dyma’r Iesu dŷn ni’n credu ynddo - nid dim ond person da o’r enw Iesu neu syniad o’r enw Iesu, nag hyd yn oed athro ysbrydoledig o’r enw Iesu. Dŷn ni’n credu’n Iesu sy’n dduw mewn corff dynol, y Meseia bu farw ar y groes dros ein pechodau’r byd, ac atgyfododd.



Tra bod y rhan helaeth o Gristnogion yn deall y gwirioneddau hyn, fy ngobaith yw helpu i ateb y cwestiwn, Beth ydw i’n ei gredu fel Cristion? Gan ein bod yn byw mewn byd ble mae llawer o bobl yn diffinio Cristnogaeth ar sail eu barn eu hunain, dŷn ni angen deall fod y credoau Cristnogol angenrheidiol yn wirioneddau na ellir eu newid. Ar y termau hyn dŷn ni’n derbyn maddeuant a bywyd Iesu. Cafodd t termau hyn eu dweud ymlaen llaw gan Dduw, nid dynoliaeth. Dŷn nhw ddim yn newid ac mae modd i bawb ohonom eu deall.



Mae gan bob tŷ cadarn, seiliau cadarn na fedrwn eu gweld, sy’n cynnal pwysau’r strwythur. Mae'r astudiaeth hon yn gosod credoau sylfaenol o'r fath ar gyfer ein ffydd Gristnogol. Colla un o'r credoau hanfodol hyn a bydd dy ffydd yn ysigo neu hyd yn oed yn syrthio.



Yn fwy cadarnhaol, gosoda’r dysgeidiaethau Cristnogol hanfodol hyn wrth wraidd dy ffydd, a byddi’n gallu gweld Duw yn adeiladu bywyd o sefydlogrwydd a chrefftwaith. Mae Gair Duw’n diffinio’r credoau sylfaenol hyn. Mae’r astudiaeth hyn yn dy helpu i astudio seiliau’r hyn rwyt yn ei gredu fel Cristion - fel dy fod yn gallu adeiladu bywyd o ffydd wych. Dŷn ni’n tyfu drwy gredu beth mae Duw’n ei ddweud yn ei Air, ac yna ufuddhau iddo. Boed i ni gyrraedd diwedd yr amser â’n gilydd gyda mwy o gariad yng Nghrist, yn fwy hyderus o’r hyn dŷn ni’n ei gredu, ac wedi’n cryfhau fwy i ufuddhau i’n Duw da.

\




Sut wyt ti’n ateb y cwestiwn: Beth ydw i’n ei gredu fel Cristion?”


Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Jesus Loves Me

Pe byddai rhywun yn gofyn iti, "Beth sydd angen arna i i fod yn Gristion?" Beth fyddet ti'n ei ddweud? Drwy ddefnyddio'r geiriau syml i'r gân hyfryd, ""Jesus loves me, this I know, for the Bible tells me so”, mae newyddi...

More

Hoffem ddiolch i Baker Publishing am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://bakerbookhouse.com/products/235847

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd