Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Mae Iesu'n fy NgharuSampl

Jesus Loves Me

DYDD 3 O 7

Iesu – Yn Gwbl Dduw ac yn Gwbl ddynol


Mae Iesu’n Gwbl Dduw: “Y Gair oedd yn bod ar y dechrau cyntaf. Roedd y Gair gyda Duw a Duw oedd y Gair”.(Ioan 1:1), Mae Iesu’n gwbl ddynol : “Dylai eich agwedd chi fod yr un fath ag agwedd y Meseia Iesu. Roedd e'n rhannu'r un natur â Duw, heb angen ceisio gwneud ei hun yn gydradd â Duw; ond dewisodd roi ei hun yn llwyr i wasanaethu eraill, a gwneud ei hun yn gaethwas, a dod aton ni fel person dynol - roedd yn amlwg i bawb ei fod yn ddyn. Yna diraddio ei hun fwy fyth, a bod yn ufudd, hyd yn oed i farw - ie, drwy gael ei ddienyddio ar y groes” (Philipiaid 2:5-8).



Dydy cael ein credoau hanfodol ddim gymaint i wneud a “bod yn iawn” gyda Duw, ond “cael ein gwneud yn iawn.” Yn yr un ffordd ac y mae’n rhaid i blwg trydan fod yn ei le yn iawn, i weithio, mae’n rhaid i ti, a fi, rhaid i ti a fi gydnabod gwirioneddau’r bydysawd, fel mae Duw’n eu disgrifio nhw i ni.



Y tro nesaf y bydd rhywun yn dweud, “Pwy sydd i ddweud pwy yw Iesu?” allwn ni ymateb gyda’r gwirionedd syml: “Beth am Iesu? Beth am adael i’w eiriau ei hun ateb y cwestiwn i ni?” Fe wnaeth Iesu bwynt o ateb y cwestiwn yma mewn sawl ffordd gyda llawer o eiriau a gweithredoedd. Un tro, gofynnodd Iesu i’w ddeuddeg ffrind agosaf pwy oedden nhw’n credu oedd e.



Mae’r sgwrs hon wedi’i chofnodi’n llawn yn Efengyl Mathew, pennod 16. Ynddi mae Iesu’n gofyn iddyn nhw, ““Pwy mae pobl yn ei ddweud ydw i?... “Pwy dych chi'n ddweud ydw i?” (adnodau 13-15). Y disgyblion hyn oedd wedi honni mai dyma oedd yr unig ffordd i’r nefoedd a bywyd tragwyddol (Ioan 14, adnod 6). Ro’n nhw hefyd yn gwybod fod gan Iesu’r pŵer i gyflawni gwyrthiau. A ro’n nhw’n gwybod fod miloedd o bobl yn dechrau credu mai Iesu oedd Duw.



Mae’n ddiddorol fod Iesu’n defnyddio’r geiriau “Mab y Dyn” i gyfeirio ato’i hun yn y sgwrs benodol hon. Mae defnydd Iesu o’r teitl “Mab y Dyn” yn pwysleisio ei fod yn gwbl ddynol. #falle bod hynny’n ymddangos yn beth rhyfedd i berson cyffredin ei bwysleisio - Drychwch arnaf i, dw i’n ddynol. Ond os wyt ti wedi bod yn Dduw ers tragwyddoldeb, yn y nefoedd a nawr rwyt ti ar y ddaear fel bod dynol, falle bydden hi’n fwy tebygol iti ddweud, “Edrych arnaf i, dw i’n ddynol!” Dyma oedd hoff ffordd Iesu o gyfeirio at ei hun.



Nôl i’r cwestiwn. Atebodd Pedr, ei ddisgybl, yn gywir. Edrychodd ar Iesu yn ei lygaid a dweud, “Ti ydy'r Meseia, Mab y Duw byw.” (Mathew 16:16).



p>



Pam fod angen i’n hateb fod ar ffurf yr esiampl roddodd Iesu? Pam fod angen i ni gael y gred yma am Iesu’n gywir?


Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Jesus Loves Me

Pe byddai rhywun yn gofyn iti, "Beth sydd angen arna i i fod yn Gristion?" Beth fyddet ti'n ei ddweud? Drwy ddefnyddio'r geiriau syml i'r gân hyfryd, ""Jesus loves me, this I know, for the Bible tells me so”, mae newyddi...

More

Hoffem ddiolch i Baker Publishing am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://bakerbookhouse.com/products/235847

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd