Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Troi Cefn ar DdibyniaethSampl

A U-Turn From Addiction

DYDD 3 O 3

Pan fyddi di’n caniatáu i’r Ysbryd ddominyddu dy feddyliau gyda gwirioneddau Gair Duw, byddi’n byw’n rhydd. Fel dwedodd Iesu, “Byddwch yn dod i wybod beth sy'n wir, a bydd y gwirionedd hwnnw'n rhoi rhyddid i chi” (Ioan 8:32). Mae’r gair “gwybod” yn cyfeirio at gymaint mwy nac ymwybyddiaeth wybyddol o rywbeth. Mae’n golygu bod yn argyhoeddedig iawn y tu hwnt i unrhyw amheuaeth. Rwyt ti’n gwybod dy fod yn gwybod. Mae’n wir. Mae’n wirionedd sy’n atseinio’n ddwfn o’th mewn. Dyna mae’n ei olygu i wybod y gwirionedd a chael dy ryddhau.



Y math o “wybod” mae Iesu’n dweud bydd yn dy ryddhau yw’r gwybod sy’n wirioneddol yn wybod. Dydy e ddim yn ddyfalu. Dydy e ddim yn obeithio. Dydy e ddim yn arbrofi. Rwyt ti’n gwybod dy fod yn gwybod am dy fod wedi’i brofi fel gwirionedd.



Ond gyda Gair Duw dydyn ni ddim bob amser yn cael profi prawf sydd tu hwnt i amheuaeth cyn cael y ffydd sydd ei angen i weithredu gwaith y gwirionedd. Dyma pam mae ffydd yng Ngair Duw mor hanfodol ac yn gritigol yn y broses o wella o unrhyw ymddygiad caethiwus. Mae’n rhaid i ti’n gyntaf gredu fod Gair Duw’n wirionedd, ac yna cymhwyso ei Air i dy sefyllfa fel gwirionedd, er mwyn iddo adleisio a gwneud ei waith yn dy fywyd. Mae’r gwirionedd yn dy helpu i oresgyn unrhyw beth sy’n dy glymu, ond dim ond pan wyt ti’n ei drin fel gwirionedd. Mae’n rhaid i ti roi dy feddwl, gweithredoedd, calon, ac ewyllys ochr yn ochr o dan ei Air a’i reolaeth dros ba bynnag sefyllfa neu ffordd o feddwl rwyt yn ei wynebu, fel dy fod yn gallu cael dy ollwng yn rhydd.



Beth wyt ti'n ei wybod o Air Duw a fydd yn dy helpu i ddod o hyd i ryddid rhag dibyniaeth?



Dŷn ni’n gobeithio fod y cynllun hwn wedi dy annog. Am fwy o wybodaeth am droi cefn ar bethau yn dy fywyd, cliciayma.


Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

A U-Turn From Addiction

Pan na fydd dy fywyd yn uniaethu â Gair Duw, rwyt yn siŵr o brofi canlyniadau poenus. Mae llawer wedi stryglo gyda’u bywydau, colli swyddi, a pherthnasoedd, ac yn cael eu hunain yn teimlo’n bell oddi wrth Dduw oherwydd e...

More

Hoffem ddiolch i The Urban Alternative (Tony Evans) am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://tonyevans.org/

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd