Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Troi Cefn ar DdibyniaethSampl

A U-Turn From Addiction

DYDD 2 O 3

Un o’r rhesymau mae pobl yn aros yn sownd i ddibyniaeth ydy, maen nhw’n seilio patrymau eu meddwl ar gelwydd. Celwydd enfawr yw dy fod yn gallu trwsio y cnawd gyda’r cnawd. Ond mae Paul yn dweud wrthon ni yn 2 Corinthiaid 10, dŷn ni ddim yn ymladd yn ôl y cnawd. Fedrith y cnawd ddim trwsio y cnawd. Allet ti drio delio ag e felly, a falle’n llwyddiannus am beth amser. Ond, fedri di ddim trwsio problem pechod gyda dy gnawd pechadurus fel adferiad. Beth sydd raid i ti ei wneud yw mynd yn gyntaf, ac yn bennaf, at Air Duw. Ei wirionedd e sy’n dy ollwng yn rhydd. Ei wirionedd e sy’n torri drwodd a’th ollwng yn rhydd. Ei wirionedd e sy’n datrys y celwyddau sydd wedi dy ddal mewn carchar o ddioddef sy’n dy ddal mewn pechod a’i ganlyniadau.



Mae chwilio i ryddhau dy hun o afael pechod drwy dy ymdrechion dy hun fel dy nain yn trio golchi dillad gyda bwrdd sgwrio. Byddai’n cymryd dyddiau i’w wneud, ac eto, fyddai’r dillad ddim yn hollol lân, er gwaetha’r ymdrech. Byddai’r dillad yn treulio a dy nain wedi blino’n lân, mewn poen, ac yn rhwystredig. Mae Duw wedi darparu ateb i’n pechod, gan olchi drwy’r iachawdwriaeth a geir drwy ei Fab. Mae aberth Iesu’n rhoi mynediad i ni i bŵer yr Ysbryd o’n mewn. Mae’r Ysbryd yn ein galluogi i ddirnad a derbyn y gwirionedd (Ioan 16: 7-11). Yn Ioan 8 mae’r Ysbryd yn ein helpu i wneud beth ddwedodd Iesu wrthon ni i’w wneud, sef “daliwch afael yn yr hyn dw i wedi'i ddangos i chi.” Mae’n dweud wrthon ni i ddal ati - aros. Mae’n rhaid i ti gydymffurfio ac nid cymryd golwg arno yn unig.



Pa mor llwyddiannus fu dy ymdrechion cnawdol i oresgyn dy gaethiwed? Oes yna ddull gwell? Pa mor llwyddiannus fu eich ymdrechion cnawdol i oresgyn eich caethiwed? Beth yw dull gwell?


Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

A U-Turn From Addiction

Pan na fydd dy fywyd yn uniaethu â Gair Duw, rwyt yn siŵr o brofi canlyniadau poenus. Mae llawer wedi stryglo gyda’u bywydau, colli swyddi, a pherthnasoedd, ac yn cael eu hunain yn teimlo’n bell oddi wrth Dduw oherwydd e...

More

Hoffem ddiolch i The Urban Alternative (Tony Evans) am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://tonyevans.org/

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd