Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Troi Cefn ar DdibyniaethSampl

A U-Turn From Addiction

DYDD 1 O 3

Mae llawer o blant Duw’n garcharorion ysbrydol. Maen nhw wedi’u dal mewn rhyw drap cylchynol maen nhw wedi methu dianc ohono. Pa un ai os yw’n alcoholiaeth, materoliaeth, chwerwder, cenfigen, trachwant, hunan dosturi, pornograffi, cyffuriau, hapchwarae, cabledd, cyfryngau cymdeithasol, diffyg hunan-barch, gwylltineb, drwgdeimlad - mae dibyniaeth ar batrymau emosiynol neu gemegol yn cyfyngu llawer gormod o bobl heddiw.



Y term Beiblaidd am yr hyn dŷn ni’n ei adnabod fel dibyniaeth yw, castell. Mae dibyniaeth, neu’n fwy cywir - castell ysbrydol - yn batrwm sydd wedi gwreiddio'n ddwfn o feddyliau a gweithredoedd negyddol sy'n cael eu llosgi i'n meddyliau. Dŷn ni’n credu ac yn gweithredu fel pe bae ein sefyllfa yn ddigyfnewid, er ei bod yn erbyn ewyllys Duw. Daw pechod yn gaeth feistr sy'n rheoli ein meddyliau, ein penderfyniadau a'n gweithredoedd.



Y cam cyntaf tuag at droi cefn ar ddibyniaeth yw eisiau bod yn rhydd. Byddai Iesu’n gofyn i bobl os oedden nhw eisiau gwella (Ioan 5:6). Os oes rhywun yn gaeth, ac am aros yn gaeth, does dim all neb ei wneud i’w cael i symud yn y cyfeiriad cywir. Mae rhaid i ryddid o ddibyniaeth ymddygiad ddechrau o’r tu mewn. Os wyt ti’n ffeindio dy hun wedi dy gaethiwo gan ddibyniaeth a’th ddylanwadu gan batrymau negyddol y meddwl, mae’n gallu teimlo fel dy fod yn cael dy fygu gan niwl sydd wedi dallu dy feddwl.



Mae’n amser iti ddewis cyfeiriad newydd tuag at ryddid. Mae rhyddid yn dechrau gyda dewis troi oddi ar dy lwybr presennol, a mynd i gyfeiriad gwahanol.



Wyt ti’n barod i ddweud hwyl fawr i’th ddibyniaeth, a gadael i Iesu dy ollwng yn rhydd?


Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

A U-Turn From Addiction

Pan na fydd dy fywyd yn uniaethu â Gair Duw, rwyt yn siŵr o brofi canlyniadau poenus. Mae llawer wedi stryglo gyda’u bywydau, colli swyddi, a pherthnasoedd, ac yn cael eu hunain yn teimlo’n bell oddi wrth Dduw oherwydd e...

More

Hoffem ddiolch i The Urban Alternative (Tony Evans) am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://tonyevans.org/

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd