Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Gweddi'r ArglwyddSampl

The Lord's Prayer

DYDD 8 O 8

Persbectif

Oherwydd eiddot ti yw'r deyrnas, a'r gallu a'r gogoniant am byth. Amen.


Nid yw’r ymadrodd olaf hwn o Weddi’r Arglwydd yn ymddangos yn llawysgrifau cynharaf y Testament Newydd ac er ei fod bron bob amser yn cael ei ddweud mewn eglwysi, mae’r rhan fwyaf o gyfieithiadau modern o’r Beibl yn ei osod fel troednodyn. Yn bersonol, dw i'n dal gafael arno. Un rheswm yw bod gweddïau Iddewig yn nyddiau Iesu yn gyffredinol yn dod i ben gyda rhyw fath o fendith ar Dduw ac mae’n debygol bod Cristnogion cynnar wedi gwneud rhywbeth tebyg. Rheswm arall yw bod y weddi yn dechrau gyda mawl ac mae’n syniad teilwng i’w gorffen ar nodyn tebyg. Ac yn olaf, os caiff y cymal hwn ei hepgor rwyt ti’n cael dy adael mewn sefyllfa anesmwyth iawn lle mae'r peth olaf y byddi di’n ei weddïo yn cyfeirio at 'yr un drwg'. Dw i'n meddwl ei bod yn bwysig atgoffa ein hunain wrth weddïo nad oes gan y diafol y gair olaf yma, fel mewn hanes.



Yr hyn y mae’r ymadrodd olaf hwn yn ei wneud yw ein hannog i gamu’n ôl o’n gweddïau am ddarpariaeth, maddeuant ac amddiffyniad i weld y darlun mawr. Mae'n rhoi ein bodolaeth mewn persbectif. Gadewch i mi dynnu dy sylw at dri pheth.



Y cyntaf yw ein bod yn cael ein hatgoffa y dylai'r deyrnas fod yn flaenoriaeth yn ein bywydau. Dŷn ni i gyd yn wynebu dewisiadau diddiwedd mewn bywyd fel pa swydd i'w chymryd, sut i dreulio ein hamser neu ein harian. Mae'r dewisiadau hyn yn tynnu sylw ac yn gallu dominyddu ein ffordd o feddwl yn hawdd. Yma mae Duw yn dweud codwch eich llygaid i fyny oddi wrth y pryderon hynny sy'n eich poeni chi: y cyflwyniad mawr hwnnw, cyflwr y car, balans banc gwael, neu'r boen honno yn dy ysgwydd ac edrycha i fyny at deyrnas Dduw.



Yr ail yw bod yr ymadrodd hwn yn ein hatgoffa mai pwrpas ein bywydau yw adeiladu teyrnas Dduw a rhoi’r gogoniant iddo. Mae yna boster Rhyfel Byd Cyntaf enwog, yn wir nodweddiadol, lle mae merch fach, yn eistedd ar lin ei thad, yn gofyn iddo, 'Dad, beth wnaethoch CHI yn y Rhyfel Mawr?' Mae mynegiant anghyfforddus y tad yn awgrymu mai'r ateb oedd, ' Ychydig iawn.” Ond gad i ni symud y cwestiwn hwnnw o'r rhyfel a fu i'n fodolaeth bresennol. Rwyt ti'n gweld ei fod yn gwestiwn sydd mewn gwahanol ffurfiau yn aflonyddu ar lawer o bobl ar ôl iddyn nhw ymddeol neu wrth iddyn nhw ddod i ddiwedd eu hoes. ‘Beth wnes i â’r holl oriau roddodd Duw imi? Ar beth wnes i wario fy egni? Beth ydw i wedi’i gyflawni o werth parhaol?’ Y gwir amdani yw mai’r unig nod ar gyfer bodolaeth ddynol sy’n dragwyddol werth chweil yw teyrnas Dduw.



Y trydydd yw ein bod yn cael ein hatgoffa bod angen inni gymryd gafael ar rym Duw yn ein bywydau. Mae Gweddi’r Arglwydd yn ein herio ac yn rhoi pwysau ar ein bywydau. Mae ceisio byw'r weddi hon yn ein nerth ein hunain yn rysáit ar gyfer straen, chwythu plwc a methiant. Ein hunig obaith yw ceisio nerth yr Ysbryd Glân i'n cynorthwyo.



Yn olaf, gadewch i mi wneud sylw ar y gair bach bach hwnnw Amen. Mae dweud Amen yn golygu ymrwymo i'r hyn a ddwedwyd. Mae’n dweud, mewn gwirionedd, gad iddo ddigwydd! Mae fel cau llythyr gyda llofnod, codi dy law i gytuno ar ryw gynnig neu hyd yn oed wasgu'r botwm anfon ar e-bost. Dŷn ni'n dweud wrth Dduw, y cyfan dŷn ni wedi'i weddïo, 'bydded iddo ddigwydd'!



Yn wir, dros y cyfan rwyt wedi’i weddïo yn y weddi gyfan hon, bydded i iti allu dweud yn gyfrinachol ar y diwedd, Amen!



A bydded i Dduw dy ateb!






Diwrnod 7

Am y Cynllun hwn

The Lord's Prayer

Ymunwch â J.John ar astudiaeth wyth diwrnod ar Weddi’r Arglwydd, y ddysgeidiaeth hynod ddwys a chymwynasgar honno a roddwyd gan Iesu ar sut y dylem weddïo.

Hoffem ddiolch i J.JOHN am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://canonjjohn.com

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd