Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Gweddi'r ArglwyddSampl

The Lord's Prayer

DYDD 6 O 8

Pardwn




Cyn mynd ymhellach mae dyledion yma yn golygu pechodau a dyledwyr y rhai sydd wedi gwneud cam yn ein herbyn. Serch hynny, yn union oherwydd ein bod wedi arfer â'r syniad pendant iawn o ennill neu golli arian bob dydd, mae'r syniad o ddyled yn ddefnyddiol i'n dealltwriaeth. Mae pechod yn ddyled.



Mae yna dri pheth pwysig na ddylem eu hanwybyddu yma.



Yn gyntaf, mae’r Beibl yn nodi’n glir bod angen i ni i gyd gael maddeuant llwyr. Mae rhai pobl yn trin y syniad o bechod yn ysgafn iawn, fel pe bai'n fater dibwys y gellir yn hawdd ei lanhau, fel ychydig o lwch ar siaced. Yn anffodus, mae'r darlun Beiblaidd o'n pechod yn ehangach, yn ddyfnach ac yn fwy cyffredinol.




  • Mae pechod yn ehangach nag ydyn ni’n tybio. Rydym yn tueddu i ystyried pechod yn ddim ond y pethau hynny sy'n gwneud penawdau fel chwant aruthrol, llygredd ar raddfa fawr, godineb a llofruddiaeth. Dŷn ni hefyd yn tueddu i ystyried pechodau difrifol fel y pethau hynny nad ydyn ni’n bersonol yn euog ohonyn nhw. Mae diffiniad y Beibl o bechod yn llawer mwy eang ac mae’n cynnwys y pechodau cynnil a phreifat sy’n anaml yn dod i’r amlwg: cenfigen, brad, anonestrwydd, rhagrith, haerllugrwydd, llwfrdra, ac yn y blaen. Mae Iesu yn tynnu sylw at y ffaith fod pechod, nid yn unig yn bodoli yn y weithred, mae'n gorwedd yn y meddwl.

  • Yn yr un modd mae pechod yn ddyfnach nag a dybiwn. Mae'n haint dwys, cronig sydd wedi gweithio ei ffordd i bob agwedd ar fod yn ddynol: corff, meddwl, ysbryd. Hyd yn oed yn fwy cythryblus yw'r ffaith nad rhywbeth sy'n digwydd rhwng dau unigolyn yn unig yw pechod, ond rhyngom ni a Duw hefyd.

  • Mae pechod hefyd yn fwy cyffredinol na dŷn ni’n fodlon ei gyfaddef. Nid Does neb wedi'i eithrio ohono. Mae hyn yn rhywbeth nad yw’r Beibl yn dweud wrthon ni’n unig amdano; y mae yn ei ddangos yng Nghrist. Yn ei fywyd e, fel y gwelir yn yr efengylau, gwelwn o'n blaen safon o berffeithrwydd na all neb ohonom ei gyrraedd.


Yn ail, mae yna bosibilrwydd o faddeuant. Un o’r pethau creulonaf y gall unrhyw system grefydd neu gred ei wneud yw collfarnu pobl o bechod heb ar yr un pryd gyhoeddi maddeuant. Mae gwneud hyn fel meddyg yn dweud wrthot ti fod gen ti salwch difrifol heb gynnig unrhyw iachâd i ti ar yr un pryd. Mae llawenydd Cristnogaeth yn canolbwyntio ar Dduw maddeuant; gydag e y gellir maddau ein dyled. Roedd system yr Hen Destament yn seiliedig ar y syniad o aberthau anifeiliaid a oedd yn dileu pechod y crediniwr. Mae'r Testament Newydd yn esbonio'r realiti dwys bod yr aberthau hynny'n cyfeirio at aberth eithaf Iesu ar y groes. Dim ond os byddwn yn gadael i Dduw eu talu y gellir talu ein dyledion. Gall ein pechodau gael eu dileu; yng Nghrist y gallwn gael ein rhyddhau oddi wrthyn nhw.



Yn drydydd, tra mai'r maddeuant rhad ac am ddim hwn yw'r newyddion gorau oll, mae yna amod arno. Rhaid i'r rhai sy'n cael maddeuant faddau. Mae hyn yn gwneud synnwyr rhesymegol; os rhoddwyd i ni feddyginiaeth maddeuant i iachau ein pechodau, allwn ni ddim ei ddal yn ôl oddi wrth y rhai wnaeth bechodd yn ein herbyn. Mae’r egwyddor hon yn aml yn cael ei chamddeall fel bod rhai pobl yn cymryd yn ganiataol fod maddeuant Duw yn dibynnu arnom ni’n maddau yn gyntaf. Y gwir amdani yw bod Duw yn maddau yn gyntaf o’i wirfodd; ond mae rhagdybiaeth, os ydym wedi cael maddeuant, y dylai ein hymateb naturiol fod i'r maddeuant hwnnw orlifo'n awtomatig i faddeuant eraill. Mae yna gysylltiadau di-dor rhwng cael maddeuant a maddau. Dalia ati!



Nid wyf dan unrhyw gamargraff fod maddeuant yn hawdd. Mae’n hawdd dweud am ryw weithred o angharedigrwydd neu frad ‘ei fod wedi’i faddau’. Y gwir amdani yw bod rhai clwyfau sy'n mynd mor ddwfn y gall iachâd gymryd amser a chymorth gan yr Ysbryd Glân.



Mae’n werth cofio, hefyd, er ein bod ni’n cael maddeuant ar y groes, bod angen inni ddod at Dduw yn barhaus i gael maddeuant. Mae ein perthynas newydd â Duw fel ein rhiant perffaith yn gofyn inni fod yn glir ynglŷn â’r hyn dŷn ni wedi’i wneud o’i le pan fyddwn yn cyfarfod ag e. Mae pechod heb ei gyffesu, a heb fod yn edifar amdano, yn dod yn rhwystr rhyngddo e a ni ac yn niweidio ein perthynas. Fel dŷn ni’n gofyn am fara beunyddiol, felly y dylen ninnau ofyn am faddeuant bob dydd.


Diwrnod 5Diwrnod 7

Am y Cynllun hwn

The Lord's Prayer

Ymunwch â J.John ar astudiaeth wyth diwrnod ar Weddi’r Arglwydd, y ddysgeidiaeth hynod ddwys a chymwynasgar honno a roddwyd gan Iesu ar sut y dylem weddïo.

Hoffem ddiolch i J.JOHN am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://canonjjohn.com

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd