Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Gweddi'r ArglwyddSampl

The Lord's Prayer

DYDD 7 O 8

Amddiffyniad


Cadw ni rhag syrthio pan fyddwn ni'n cael ein profi, ac achub ni o afael y drwg.’


Mae’r Beibl yn cymryd yn ganiataol ein bod ni mewn brwydr yn erbyn drygioni a bod hon yn frwydr sydd nid yn unig yn golygu ein bod ni’n gwrthsefyll rhyw fath o egwyddorion haniaethol drygioni, ond hefyd drygioni mewn ffurf bersonol. Ychydig iawn o bobl, oni bai eu bod yn grefyddol, yn cymryd o ddifri, y syniad o ryw bŵer drwg maleisus, deallus sy'n gweithredu yn y byd heddiw. O ystyried y dystiolaeth dros ddrygioni yn y byd heddiw, mae hyn braidd yn syndod i mi. Mae’n debyg bod sawl rheswm am y gwrthodiad hwn: mae drygioni’n aml yn cael ei wawdio (meddyliwch am y cartŵn o’r diafol coch gyda phicfforch neu’n cael ei gam-drin fel gydag achosion trasig o fwrw allan sy’n mynd o chwith, neu’r datganiadau braidd yn druenus hynny fel ‘y diafol wnaeth imi wneud!'.



Mewn gwirionedd, gadewch i ni ddechrau gyda'r ymadrodd chwilfrydig hwnnw, yr un drwg. Roedd gan fersiynau hŷn y Beibl o Weddi’r Arglwydd y syniad inni gael ein ‘gwared rhag drwg’ fel pe bai’n rhyw fath o gyflwr athronyddol haniaethol. Mae cytundeb cyffredinol, fodd bynnag, mai’r hyn y mae Iesu’n sôn amdano yma yw ymwared oddi wrth un drwg. Nawr mae yna lawer o faterion yma a dw i am dy gyfeirio at fy llyfr ar Weddi'r Arglwydd i gael sylw manylach. Serch hynny, mae’n ymddangos, i fod yn unrhyw fath o ‘Gristion beiblaidd’ cyson fod yn rhaid inni gredu ym mhresenoldeb rhyw endid ysbrydol drwg yn y byd, sy’n anfeidrol israddol i Dduw, ond serch hynny yn gallu ei wrthwynebu ac sy’n wrthwynebydd maleisus a phwerus i gredinwyr. Yn wir, fel y mae'r byd, mae'n aml yn haws credu mewn bodolaeth diafol na chredu mewn Duw da.



Yma, mae’r un drwg yn cael ei grybwyll fel cyfrwng temtasiwn. Mae angen ymdrin â hyn yn ofalus hefyd. Un perygl yw ein bod ni’n dychmygu mai Duw ei hun sy’n gwneud y demtasiwn a’n bod ni, yng Ngweddi’r Arglwydd, yn gofyn i Dduw ‘dynnu nôl’. Efallai mai'r ffordd orau o edrych ar y cymal hwn yw gwahaniaethu rhwng profi a temtasiwn. Mae profi, boed yn gorfforol neu'n ysbrydol, yn beth da. Mae pasio prawf yn rhywbeth sy’n galonogol ac yn caniatáu inni sylweddoli ein bod wedi tyfu. Serch hynny, os gall Duw ddefnyddio prawf i wneud inni dyfu, gall y diafol ei droi'n demtasiwn i'n torri.



Gall fod yn ddefnyddiol meddwl bod yr hyn y mae’r darn hwn yn sôn amdano yn rhywbeth y gellir ei ddisgrifio fel temtasiwn a phrawf. O safbwynt Duw, yr hyn dŷn ni’n ei gael yw prawf i ddangos ansawdd ein ffydd; os byddwn yn pasio'r prawf gallwn gael ein calonogi gan yr arwydd hwn o'n twf ysbrydol. Ond os tybiwn fodolaeth y diafol, fe welir yr un prawf o bersbectif gwahanol; os methwn ni, mae wedi taro ergyd yn erbyn ein ffydd Gristnogol.



Felly beth ydyn ni'n gweddïo yma? Yn syml iawn, dŷn ni'n gweddïo y byddwn ni, yn wyneb temtasiwn neu brawf, yn fuddugoliaeth ac nid yn cwympo. Dŷn ni'n gweddïo ar i Dduw ein helpu ni i wrthsefyll heriau'r un drwg. Gad i mi gynnig tri awgrym yma.



Yn gyntaf, dylem gydnabod bod profion a themtasiynau bob dydd, ym mhob ffordd, yn dod tuag atom. Mae angen i ni fod yn barod.



Yn ail, dydyn ni ddim yn wynebu'r un drwg yn ddiamddiffyn. Mae Duw wedi rhoi'r Ysbryd Glân i'w blant i'w helpu. Mae'n weithred o ffolineb anhygoel ceisio delio â rhyw fath o demtasiwn difrifol heb droi at yr un y mae Duw wedi ei roi i'w blant i'w hamddiffyn.



Yn drydydd, mae’n dacteg glasurol o’r ‘un drwg’ pan fyddwn ni’n cwympo - a ninnau i gyd yn cwympo rywbryd neu’i gilydd - yn trio gwneud inni gredu ein bod ni, gyda’r methiant hwn, wedi gorffen yn barhaol gyda Duw. A dweud y gwir, os ydyn ni’n wir yn blant i Dduw, yna er bod ein methiant i basio’r prawf yn destun galar i’n Tad nefol, nid yw’n achos iddo ein gwrthod ni. Dydy ein methiant i basio'r prawf ddim yn dinistrio natur ein perthynas â'n Tad nefol - dŷn ni’n parhau i fod yn blant iddo - ond mae'n niweidio ansawdd ein perthynas.


Diwrnod 6Diwrnod 8

Am y Cynllun hwn

The Lord's Prayer

Ymunwch â J.John ar astudiaeth wyth diwrnod ar Weddi’r Arglwydd, y ddysgeidiaeth hynod ddwys a chymwynasgar honno a roddwyd gan Iesu ar sut y dylem weddïo.

Hoffem ddiolch i J.JOHN am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://canonjjohn.com

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd