Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Gwrando ar DduwSampl

Listening To God

DYDD 7 O 7

Dod i adanbod y Bugail Da


"Fi ydy'r bugail da. Dw i'n nabod fy nefaid fy hun ac maen nhw'n fy nabod i –" Ioan, pennod 10. adnod 14 beibl.net

Hoffwn i ofyn dau gwestiwn i ti eu hystyried.


Sut brofiad ydy siarad ag e?


Cymer ennyd i geisio disgrifio'r profiadau yma.


Yr hyn dw i'n cyfeirio ato yma, yw'r pwnc o weddi. Dw i'n credu bod y rhan fwyaf o bobl yn gor-feddwl y gair, "gweddi." Dŷn ni'n ei gor-ysbrydoli. Ti'n gweld, mae Duw yn gwybod mai dyn syml wyt ti. eto dŷn ni'n ceisio creu argraff arno gyda gweddïo "da." Ac yna mae rywbeth yn tynnu ein sylw a dŷn ni'n rhoi fyny tan y tro nesaf y byddwn yn rhoi "tro" arni. Wrth wneud hyn dŷn ni wedi colli'r holl bwynt o beth ddylai gweddi fod.

Yn syml, yr hyn yw gweddi yw, sut dŷn ni'n cysylltu â Duw. Dyma sut dŷn ni'n uniaethu ag e. Felly, sut mae e eisiau i ni ddod ato mewn gweddi|? Wel, ti'n gweld, ei ddymuniad mwyaf yw cael in calon, ein meddwl a'n cryfder llwyr wrth i ni ddarllen yn Deuteronomium, pennod 6, adnod 5.


I ddechrau, mae e eisiau i ni ei fwynhau - i ffocysu arno e ac nid ar dy "weddi."


Fe ddylen ni bob amser ddod ato fe yn union fel dŷn ni, gan roi ein hunain anobeithiol, annheilwng, ond eto wedi ein caru'n gyfan gwbl, i'n Tad gogoneddus holl-bwerus, holl-gynhaliol, ond cwbl dosturiol. Pan wnawn ni hyn, dŷn ni'n dod o hyd i gwpan sy'n gorlifo o'i nerth, ei adferiad, ei ddoethineb, ei heddwch, ei gyfiawnder a'i lawenydd. Yn ei bresenoldeb mae'r bywyd toreithiog. Ef yw'r Dŵr Byw a Bara Bywyd.


Pan fyddwn ni'n gweddïo fe ddylen ni, nid yn unig, siarad ond gwrando hefyd. Ceisia wrando a dilyn ei lwybrau da. Tyrd yn llawenhau, tyrd yn chwareus, tyrd yn flinedig, tyrd yn amau neu ofni. Tyrd ato yng nghanol dyffryn cysgod marwolaeth. Agosâ ato a gwrando ar ei eiriau cysurus o fywyd a gobaith.


Ac felly, dylen ni ddod ato yn barhaol - pan wyt wedi diflasu ac ym mhob sefyllfa arall. Wrth i ni wneud down i adnabod ein bugail. Ie, ei adnabod go iawn.

I mi, mae fy amser tawel yn teimlo fel cael paned gyda fy ffrindiau agosaf. Mae e'n hyfryd. Yn gyfnod braf does bosib. Fel mae Paul E. Miller yn dysgu'n ei lyfr A Praying Life,"Fedri di ddim dod i adnabod Duw yn chwit-chwat. Dwyt ti ddim yn creu agosatrwydd, rwyt ti i wneud lle iddo."


Dw i'n gweddïo fod y saith diwrnod diwethaf 'ma wedi dyfnhau dy ddealltwriaeth o beth ydy hi i wrando ar Dduw. Dydy e ddim mor gymhleth ag yr ydym yn aml yn dychmygu ei fod Mae e mor syml â chau ein clustiau i gelwydd, agor ein calonnau, tawelu, a gadael i'n Bugail Da siarad â ni.


Dw i'n gweddïo bod gen ti ddealltwriaeth ddyfnach o beth yw gwrnado ar Dduw, ac am ddod i adnabod ein Bugail Da.


Dweda wrth y Tad: Heddiw, dw i'n mynd i dy geisio di gyda'm holl galon, enaid a nerth. Fe wna i ddechrau nawr, gyda'r fi go iawn, gan ddod o flaen y Ti go iawn. Dw i eisiau adnabod a gwrnado arnat ti, fwy a mwy bob dydd.


Awgrym heddiw ar gyfer cân addoliad: "Touch the Sky" gan Hillsong United



Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

Listening To God

Mae Amy Groeschel wedi sgwennu'r Cynllun Beibl saith diwrnod hwn, yn y gobaith y bydd yn cael ei gymryd fel petai'n union o galon y Tad, i un ti. Ei gweddi yw y bydd yn dy ddysgu i osgoi r gweddi gwrthgyferbyniol ac yn d...

More

Diolch i LifeChurch.tv am greu y cynllun yma. Am fwy o wybodaeth, ewch i: www.lifechurch.tv

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd