Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Gwrando ar DduwSampl

Listening To God

DYDD 1 O 7

Clywed Llais Duw

Fel Job, Dw i eisiau trysori (awchu am) eiriau ac arweiniad Duw fwy na fy mwyd bob dydd. Wyt ti ddim? Fel beth ddysgodd Eseia, dw i eisiau clywed y llais o tu cefn imi'n dangos y ffordd y dylwn i gerdded.

Ond. sut ydw i'n clywed ei lais? Ac ydy e, mewn gwirionedd, yn dal i siarad? Cwyd dy galon; mae Duw'n gyfathrebwr! Fe oedd yr un greodd y rhodd o gyfathrebu. Mae hynny'n golygu ei fod e'n siarad, a mae gynnon ni'r gallu i'w glywed. - a hyd yn oed ymateb i'w lais. Os yw Duw'n siarad, dylen ni wneud popeth o fewn ein gallu i adnabod ei lais a gwrando! Y weithred o wrando yw'r hyn sydd ei angen mor daer, ond sydd yn aml yn brin iawn, ar gyfer gwir gyfathrebu.


I ddechrau gad i ni edrych ar rai o'r ffyrdd y bydd Duw'n siarad â ni.


Mae Duw'n siarad trwy ei Air. Mae Duw eisoes wedi datgelu llawer o’i ewyllys a'i gynllun ar ein cyfer trwy ei Air. Mae treulio amser yn darllen ei Air yn un o'r ffyrdd cryfaf i glywed yn uniongyrchol ganddo.


Mae Duw'n siarad trwy ei Sibrydion. Yn aml, bydd yn siarad yn dyner i'n heneidiau, rhoi breuddwydion i ni, gweledigaethau, a/neu ein cyfarwyddo drwy ein sefyllfaoedd. Bydd hefyd yn cyfeirio ein meddyliau at ei gynlluniau.


Mae Duw'n siarad drwy ei bobl.Ar brydiau bydd Duw'n datgan yr hyn sydd ar ei galon drwy Gristnogion eraill. Fe all fod mewn ffurf anogaeth, cywiro, neu arweiniad.


Fy ngweddi yw y bydd y cynllun byr, saith diwrnod hwn, yn uniongyrchol o galon cariadus ein Tad yn dy ddysgu i anwybyddu'r bloeddio gwrthwynebus, dy ddeffro i ffocysu ar ei lais, a swyno dy galon yn llawn.


Gofynna i'r Tad:Beth sydd raid i mi wneud i fod yn well gwrandäwr?


Awgrym ar gyfer cân addoliad: "Yield my Heart" gan Kim Walker-Smith.


Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Listening To God

Mae Amy Groeschel wedi sgwennu'r Cynllun Beibl saith diwrnod hwn, yn y gobaith y bydd yn cael ei gymryd fel petai'n union o galon y Tad, i un ti. Ei gweddi yw y bydd yn dy ddysgu i osgoi r gweddi gwrthgyferbyniol ac yn d...

More

Diolch i LifeChurch.tv am greu y cynllun yma. Am fwy o wybodaeth, ewch i: www.lifechurch.tv

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd