Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Gwrando ar DduwSampl

Listening To God

DYDD 2 O 7

Ga i dy sylw di, plîs?

Mae yna glywed, ac mae yna wrando.
Clywed yw'r gallu i ddeall synau neu wybodaeth.

Gwrando yw talu sylw iddyn nhw.


Mae darlleniadau heddiw yn Jeremeia yn drasig o drist ond dydyn nhw ddim yn anghyffredin. Mae 'r adroddiadau hyn fel baneri coch yn ein rhybuddio o'r peryglon o'n blaen pan dŷn ni ddim yn rhoi ein holl sylw i Dduw gyda'n holl galon, meddwl, a nerth. Pam? Wel, os nad ydyn ni'n talu sylw i Dduw a'i ffyrdd, dŷn ni'n mynd i'r cyfeiriad anghywir - yn mynd yn ôl, yn lle ymlaen. Yn rhy aml o lawer, mae'r llwybrau anghywir hyn yn mynd â ni i leoedd tywyll a dinistriol.


Y tramgwyddwr sy'n tynnu sylw fel arfer yw'r peth atyniadol diniwed hwnnw fel amserlen lawn, magu plant, chwilio am fwy o rywbeth, neu hyd yn oed teclyn electronig gyda llu o bethau annisgwyl hwyliog!


Hyd y gwn i, mae gan fy mhlant i glyw perffaith, ond yn llawer iawn rhy aml mae eu clyw'n gallu bod yn oddefol! Weithiau, yr unig beth fydd yn denu eu sylw yw fy nghod cyfrinachol: hufen iâ. Ar amrantiad maen nhw'n effro ac yn ateb, "Waw, go iawn mam?" Yna, dw i'n cyfaddef, "Na, o'n i mond eisiau eich sylw!"


Os dw i'n onest, dw i hefyd yn gallu bod yn wrandäwr goddefol, fel fy ffôn clyfar yn lle fy nheulu. "Mmm, beth oedd hynny eto, cariad?"


Hawdd iawn yw chwerthin ar y camau gwag hyn, ond dydy hyn ddim yn iawn mewn gwirionedd. Dydy e ddim yn anrhydeddu pobl. Ac o ran anwybyddu Duw, mae'n ei danbrisio, yn drasig, ac yn hollol wrthryfelgar.


Os dŷn ni'n mynd i ddilyn ein Tad Nefol yn gyfan gwbl, dŷn ni'n angen talu sylw i'w negeseuon! Cofia, mae ei ei gyfathrebu dwyfol mewn sawl fformat: ei Air, cyngor cyd-gredwr, cynllun Beibl, breuddwyd neu weledigaeth, sibrwd, neu dwysbigo'r meddwl. Ydy, mae dull cyfathrebu Duw yn helaeth oherwydd ei fod yn Dduw MAWR ac yn arbenigwr cyfathrebu sy'n dymuno cysylltu'n barhaus â ti!


Gofynna i'r Tad:Beth sy'n fy rhwystro rhag talu sylw i ti?


Awgrym ar gyfer cân addoliad: "First" gan Lauren Daigle


Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

Listening To God

Mae Amy Groeschel wedi sgwennu'r Cynllun Beibl saith diwrnod hwn, yn y gobaith y bydd yn cael ei gymryd fel petai'n union o galon y Tad, i un ti. Ei gweddi yw y bydd yn dy ddysgu i osgoi r gweddi gwrthgyferbyniol ac yn d...

More

Diolch i LifeChurch.tv am greu y cynllun yma. Am fwy o wybodaeth, ewch i: www.lifechurch.tv

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd