Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

'The End of Me" gan Kyle IdelmanSampl

The End Of Me By Kyle Idleman

DYDD 6 O 7

Yn anghymwys i gael ei Ddewis

Wyt ti'n cofio stori Paul ar y ffordd i Ddamascus? Mae Duw'n cymryd Saul a'i ail-fowldio fel arweinydd yn y Mudiad Cristnogol, yr efengylydd cyntaf tu allan i'r ffydd Iddewig, a diwinydd mawr cyntaf Cristnogaeth.

Os oedd yna rywun oedd yn anghymwys i fod yn arweinydd oni ddylai wedi bod yn ddyn llofruddiodd credinwyr a threfnu teithiau darganfod a dinistrio eglwysi?

Nid bod angen Paul ar Iesu. Roedd y mudiad yn ennill credinwyr newydd ac yn cynhyrchu arweinwyr. Roedd yna fwriad yn yr alwad hon. Rhaid dod i'r casgliad ei fod yn anfon neges.


Beth oedd y neges oedd e'n ei anfon amdano - a beth mae'n golygu i ti a fi?


Mae'n golygu nad ydyn ni'n anghymwys. Dyna beth sy'n drist, os ydy rhai ohonon ni'n meddwl bod Duw'n edrych arnom ni a gweld bod y dyddiad dod i ben wedi pasio.


Wyt ti ddim yn meddwl fod Pedr wedi teimlo felly? Dyma ddyn wnaeth Iesu ei ddewis ei hun a threulio lot o amser gydag e. Roedd yn rhaid iddo olygu rhywbeth pan wnaeth e ei alw e'n graig - pa ddyn na fydde'n hoffi hynny?


Ond ar ôl iddo wneud yn union beth ddwedodd Iesu y bydde'n ei wneud, ei wadu ar y foment o argyfwng, enciliodd Pedr yn ôl i'w hen fywyd am ei fod yn meddwl ei fod oddi ar y rhestr. Roedd Iesu wedi bwriadu dweud wrtho y bydde fe'n methu. Pam fydde fe'n gwneud hynny? Mwy na thebyg roedd Pedr yn meddwl fod Iesu'n dweud, "Dwyt ti ddim yn mynd i lwyddo wedi'r cyfan. Gwylia fel y byddi di'n methu mewn ychydig oriau."


Aeth Pedr i bysgota, yr unig fywyd arall roedd yn gyfarwydd ag e. Dyna fe. Daeth fy amser a methais yn llwyr.


Allan yn y cwch yn gynnar y bore hwnnw myfyriodd ar chwalfa ei freuddwydion. Roedd Iesu wedi'i gymhwyso, ac roedd hynny'n wyrth. Roedd wedi gwneud ei hun yn anghymwys ac roedd hynny'n drasiedi.


Ac yna gwelodd ffigwr ar y lan. Tu hwnt i bob amgyffred, Iesu oedd yna yn galw arno ac yn dweud bod mwy o waith i'w wneud, a beth oedd yn gwneud allan mewn cwch?


Dw i'n dal i'th ddewis di.


Beth yw'r baich o'r gorffennol rwyt yn ei gario? Godineb? Dos â siarad efo Dafydd. Dweud celwydd? Twyll? Gwyddai Abraham ac Isaac ychydig am hynny. Gorffennol ffiaidd? Dewisodd Duw, Rahab y butain. Materion dicter a thymer? Mae Iago ac Ioan yn ffitio i mewn i gynllun Duw beth bynnag. Beth am gyfres o ddewisiadau perthynas wael? Roedd y ddynes wrth y ffynnon yn gwybod sut brofiad oedd hynny, ac anfonodd Duw neges gydag Iesu yn unig ar ei chyfer hi.


Falle mai heddiw yw dy dro di. Mae neges gan Iesu i ti. Does ganddo ddim i'w wneud â dy gymwysterau. Does ganddo ddim byd i wneud â dod i ben dy dennyn, achos, dyna pryd all Duw dy ddefnyddio orau. Drwy ei ras, a dim byd y gelli di ei gynnig, mae'n dy ddewis di.


Diwrnod 5Diwrnod 7

Am y Cynllun hwn

The End Of Me By Kyle Idleman

O'i gymryd o ddilyniant Kyle Idelman i "Not A Fan" fe'th wahoddir i ddod o hyd i ddod o hyd i bwynt na allet ti fynd yn is, gan mai wedyn yn unig y gelli di gofleidio sut mae Iesu'n dy drawsnewid.

Hoffem ddiolch i Kyle Idelman a David Cook am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.dccpromo.com/the_end_of_me/

Cynlluniau Tebyg

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd