Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

'The End of Me" gan Kyle IdelmanSampl

The End Of Me By Kyle Idleman

DYDD 1 O 7

Annwyl Fi

Annwyl Fi,
Dw i wedi dy adnabod am amser hir. Clywais unwaith bod yna "ffrind go iawn yn fwy ffyddlon na brawd", ac, ie, ni yw'r rhain, ond dw i'n amau mai dyna oedd neges y ddihareb. Dw i wedi bod yn agos at nifer fawr o bobl, ond ti a fi? Mae gynnon ni ymlyniad go arbennig.


Wrth edrych nôl, mae'n deg i ddweud dy fod wedi dy drin yn eithaf da. I ddweud y gwir dw i wedi dy roi di pob dim arall. Ti'n cytuno?


Wrth i ni dyfu i fyny wnes i drio gwneud yn siŵr dy fod ar y blaen. Fe wnes i'n siŵr mai ti gafodd y fisged fwyaf ar y plât, y safle parcio gorau, y gadair fwyaf cyfforddus ym mhob ystafell wrth gyrraedd.


Yn yr ysgol, sylwais ar y pethau bychain roeddet yn eu hoffi, ac fe es ar eu hôl nhw. Rwyt wedi caru sylw erioed, felly fe wnes i bopeth o fewn fy ngallu i wneud yn siŵr dy fod yn ei gael. Rwyt yn dal i fwynhau'r prif sylw, felly dw i wedi symud er mwyn iti barhau i'w gael. Nawr fod y rhyngrwyd gynnon ni, mae mwy o arfau gen i, a dw i ddim ond yn postio'r lluniau sy'n dy ddangos ar dy orau. Byddai rhywun yn meddwl dy fod yn byw'r bywyd gorau posib. Wyt ti wedi gweld y sylwadau mae pobl yn eu postio amdanat ti? Pan rwyt wedi stryglo neu gael amser caled dw i wedi trio cadw hynny'n gyfrinach rhyngot ti a fi. Dw i wedi trio dy gadw'n hapus.


Wrth gwrs, roedd hi'n dipyn haws dy gadw'n hapus pan oeddet ti'n blentyn bach. Roedd strancio am ychydig yn ddigon. Yna, wrth i ni dyfu i fyn y, roedd rhaid imi fod fymryn bach yn fwy gofalus. Roeddet eisiau ennill bob tro a chael dy ffordd - gan edrych yn ddiniwed a diymhongar. Mae hynny'n anodd, heb sôn am flinedig!


Fel mater o ffaith, dwyt ti ddim fel taset ti'n poeni fawr ddim am bethau fel biliau a chanlyniadau a beth sy'n digwydd yfory. Dw i wedi dweud mwy o eiriau llym ar dy ran i rai pobl, a wnest ti ddim fy rhybuddio am y llanast. Ddwedes ti na allwn i wneud dim i gymryd beth ddwedes i nôl.


Dw i'n dy garu di. Fi. Ond fedra i ddim byw drosot ti. Wnes ti wastad fynnu, os baswn i'n dy gadw di'n hapus, faswn i'n hapus - mor syml â hynny. Ond ti'n gwybod beth? Dydy hi ddim mor syml â hynny. dydy hi erioed wedi bod.


Fi. Dw i wedi gadael i ti reoli a gwneud y penderfyniadau, ond mae'n amlwg nad oes modd dy drystio. Rwyt ti'n mynnu dy fod yn gwybod pa ffordd i fynd bob tro, ond mae wastad yn arwain i unlle. Dw i wedi edrych ar rai opsiynau eraill, a dw i wedi penderfynu dechrau taith ar lwybr gwahanol. Mae'n gul ac anodd a does dim llawer yn ei ddewis, ond mae'n arwain i fywyd go iawn a llawn. Fodd bynnag, a does yna'm ffordd hawdd o ddweud hyn, fedraf i ddim dilyn y llwybr yma os ddoi di hefyd.


Felly, Fi, dyma dy ddiwedd


Yn gywir,
Fi


Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

The End Of Me By Kyle Idleman

O'i gymryd o ddilyniant Kyle Idelman i "Not A Fan" fe'th wahoddir i ddod o hyd i ddod o hyd i bwynt na allet ti fynd yn is, gan mai wedyn yn unig y gelli di gofleidio sut mae Iesu'n dy drawsnewid.

Hoffem ddiolch i Kyle Idelman a David Cook am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.dccpromo.com/the_end_of_me/

Cynlluniau Tebyg

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd