Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

'The End of Me" gan Kyle IdelmanSampl

The End Of Me By Kyle Idleman

DYDD 5 O 7

Yn Ddilys i gael ein Derbyn

Fel dynoliaeth dŷn ni’n stryglo gyda dilysrwydd am ein bod ni’n ofni cael ein gwrthod. Dŷn ni eisiau i’r byd ein gweld ar ein gorau glas gan fod pobl yn fwy tebygol i’n derbyn, a falle ein hedmygu ni.

Falle nad oes raid i ni drio mor galed i guddio ein beiau. Falle bydd pobl yn ein hoffi am bwy ydyn ni. Mae’n bosib y byddan nhw’n fwy tebygol o nesu atom ni o wybod beth yw rhai o’n methiannau a rhai o’r pethau dŷn ni’n stryglo â nhw. Fe allen nhw ddweud, “Dw i fel yna hefyd. Mae gen i’r un problemau. Dw i’n falch o wybod bod dau ohonon ni.”

Ond, mae yna risg wnawn ni ddim ei gymryd. Ofn yw gelyn amlygrwydd. Dŷn ni ddim yn hoffi ein b, beiau a dŷn ni ddim yn disgwyl y bydd eraill ychwaith. Felly, dŷn ni’n gweithio’n galed i guddio’r gwirionedd.

“Pur o Galon”… Ydy hynny ddim yn rhywbeth i feddwl amdano? Mae’n golygu dy fod yn byw bywyd o fendith pan fyddi di’n stopio poeni am yr arwyddion a’r hysbysu gwastraffus a’r ymdrech a ddefnyddir i geisio argyhoeddi pobl dy fod yn rhywbeth gwahanol i’r hyn wyt ti. Pan mae’r tu mewn a thu allan yn cyfateb i’w gilydd, rwyt ti’n bur o galon ac rwyt ti ble mae e eisiau i ti fod.

Mae dod i’r pen yn golygu nad ydw i’n poeni am berfformio i eraill ddim mwy. Bellach does gen i ddim diddordeb mewn ffugio achos dw i’n gwybod fod Duw yn chwilio am yr hyn ydw i go iawn.

Pan fyddwn yn plygu i ddweud diolch mewn bwyty, pa mor ddidwyll ydy’n calonnau ni? Ydyn ni’n meddwl am Dduw ac fel mae e wedi darparu’r pryd i ni, neu oes yna ran ohonom yn meddwl am sut mae eraill yn edrych arnom ni?

Pan fyddwn yn gwirfoddoli ar gyfer rhyw broject yn yr eglwys, faint o’r galon sydd yna i blesio Duw, a faint sydd yna ar gyfer y rheiny sy’n gwylio, a’u hargraff nhw ohonom ni?

Ydyn ni’n meddwl am bwy sy’n gwylio wrth i’r plât casgliad fynd heibio?

Pan fyddwn yn sefyll i weddi’n gyhoeddus, a yw’r geiriau ar gyfer Duw, neu ar gyfer y rheiny sy’n gwrando?

Mae dod i’r pen yn golygu fy mod wedi rhoi heibio cymeradwyaeth a sylw dyn, a’r gwacter mae’n ei adael ar ei ôl. Yn lle hynny, dw i eisiau plesio Dw - dw i’n cael fy ngwobr ganddo fe, yn hytrach na phobl. Pan fyddwn yn cau theatr gyhoeddus, cau’r cyrtens, diffodd y goleuadau, a chwarae i gynulleidfa o un, gan beidio poeni am adolygiadau beirniaid nac unrhyw un arall, dyna pryd fyddwn yn dod i’r pen a phrofi bendith Duw.


Diwrnod 4Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

The End Of Me By Kyle Idleman

O'i gymryd o ddilyniant Kyle Idelman i "Not A Fan" fe'th wahoddir i ddod o hyd i ddod o hyd i bwynt na allet ti fynd yn is, gan mai wedyn yn unig y gelli di gofleidio sut mae Iesu'n dy drawsnewid.

Hoffem ddiolch i Kyle Idelman a David Cook am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.dccpromo.com/the_end_of_me/

Cynlluniau Tebyg

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd