Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Darganfod dy ffordd nôl at DduwSampl

Finding Your Way Back To God

DYDD 5 O 5

Nawr dyma beth yw byw!

Mae breuddwyd gan Dduw ar gyfer y byd hwn, ac rwyt wedi dy wahodd i fod yn rhan ohono. Mae e'n freuddwyd anorchfygol mae Duw wedi'i gael ers tragwyddoldeb. Mae e'n freuddwyd ar gyfer dy fywyd, dy gymuned, ar holl fyd.


Breuddwyd Duw yw i ti fy pob eiliad o dy fodolaeth gyda'r hyder ei fod yn ddiwyro'n ei gariad angerddol tuag atat ti. Ei freuddwyd yw, y byddi, o ddewis, yn mentro caru eraill am ei fod e wedi mentro popeth i dy garu di.


Dyna pam fod y deffroad olaf ar y daith yn ôl at Dduw yw'r deffro9ad i fywyd. Pan fyddwn yn deffro go iawn i'e bywyd mae Duw'n ei gynnig gartref gydag e, dŷn ni'n gallu gweld y posibiliadau ar gyfer ein dyfodol. yn hollol wahanol. Dŷn ni'n dweud gyda syndod, "Nawr dyma beth yw byw!" ond dŷn ni'n sylweddoli fod "byw" yn golygu rywbeth hollol wahanol nawr. Mae e'n golygu, byw bywyd sy'n well, llawnach ac ystyriol nac erioed o'r blaen.


Bydd dy daith gydol bywyd newydd yn daith na fydd rhaid i ti ei theithio ar dy ben dy hun, fyth. Does dim rhaid i ti fyw ar wahân i dy Dad nefol fyth eto. Os byddi'n gweld dy fod yn llithro i hunan fodlonrwydd ac yn chwilio am rywbeth gwahanol, yn meddwl fod yr atebion i gyd rwyt eu hangen ar gyfer dy hun... ti'n gwybod beth ddylet ti ei wneud.


Tyrd yn ôl i'r bywyd go iawn! Rwyt ti'n adnabod y ffordd, a gartref mae dy le di.


Bydd yn barod am fywyd yn y blynyddoedd sydd o'th flaen am y math o fywyd sy'n wahanol, o unrhyw beth na allet fyth ei ddychmygu pan wnes ti droi nôl ar y diwrnod ofynnais ti i'r Tad am help. Mae'r deffroad i fywyd yn dod gyda dylanwadau annisgwyl a chyfleoedd. Sut all hyn fod? Y rheswm yw, mae Crist yn byw o'th mewn, ac mae hynny'n newid bron popeth. Nawr, byddi'n gallu dod â gobaith ble roedd digalondid. Nawr, rwyt yn gallu dangos y ffordd i garcharorion tuag at ryddid. Nawr, rwyt yn gallu bod yn olau mewn tywyllwch.


A dyna beth yw bywyd!


Tyrd o hyd i dy le yng nghymuned ddiolchgar meibion a merched eraill y Tad. Cysyllta, dysga a gweithia ochr yn ochr â nhw i wneud gwahaniaeth ar gyfer daioni mewn priosasau, cartrefi, ysgolion, lleoedd gwaith, a chymunedau.


Gad i ni ddal ati i helpu eraill i ffeindio'i ffordd yn ôl at Dduw. Dyna ble mae'r dathliad go iawn yn disgwyl.


Wrth i ti edrych yn ôl ar y defosiwn pum diwrnod hwn, pa "ddeffroad" wyt ti'n uniaethu ag ef fwyaf? Beth wyt ti'n ei feddwl yw'r cam nesaf mae Duw'n dy ato?


Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Finding Your Way Back To God

Wyt ti'n chwilio am fwy allan o fywyd? Dymuniad mwy sydd mewn gwirionedd yn awchu am ddychwelyd at Dduw — ble bynnag mae dy berthynas â Duw yn awr. Dŷn ni i gyd yn profi cerrig milltir — neu ddeffroadau — wrth i ni ganfo...

More

Hoffem ddiolch i WaterBrook Multnomah Publishing Group am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.goodthingsbook.com/catalog.php?work=235828

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd