Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Darganfod dy ffordd nôl at DduwSampl

Finding Your Way Back To God

DYDD 3 O 5

Fedra i ddim gwneud hyn ar ben fy Hun

Does dim ots ble ydyn ni ar ein taith o ffeindio ein ffordd yn ôl at Dduw, mae gan bob un ohonom bethau'n ein bywyd dŷn ni i gyd yn dal gafael ynddyn nhw. I rai mae e'n weithgaredd gudd nad yw neb arall yn gwybod amdano. I eraill, mae'n hollol amlwg beth dŷn ni'n dal i redeg ar ei ôl.


Beth yw e i ti? Beth wyt ti angen gollwng afael arno? Anaml iawn y bydd Duw yn rhoi rywbeth newydd yn dy fywyd nes dy fod wedi gollwng gafael ar rywbeth hen a thoredig.


Dyna pam mai'r cam nesaf o ddeffro i edifarhau yw deffro i help. Mae'r trydydd deffro hwn yn ein symud gam mawr yn agosach at Dduw achos dŷn ni'n sylweddoli na allwn ei wneud ar ben ein hunain. Beth sy'n digwydd nesaf?

Dŷn ni'n gwneud galwad. Dŷn ni'n cael sgwrs. Dŷn ni'n ymuno â grŵp cefnogi. Dŷn ni sleifio i mewn i gefn yr eglwys. Dŷn ni'n syrthio ar ein gliniau ac yn gweiddi, "Dduw, os wyt ti'n bodoli...!"


Mae troi i ffwrdd o ddewisiadau dinistriol a chwilio am help yn rhan o edifeirwch. Mae edifarhau fel mynd adre i ble wnest ti ddod a ble rwyt yn perthyn. Mae mynd adre am dderbyn maddeuant a derbyn sicrwydd o fywyd ar ôl y bywyd hwn, ond mae hefyd am ffeindio ystyr newydd a chyfeiriad i fywyd na ellir ei ffeindio'n unlle arall. Mae ynglŷn â chael perthynas â Duw. Mae ynglŷn ag ailgyfeirio dy fywyd a dychwelyd i'r lle wnest ti ddod ohono a ble rwyt yn perthyn. Pan fyddi di'n edifarhau, mae Duw'n dy newid. Rwyt yn wahanol. Mae'r Beibl yn dweud fod ysbryd Duw'n dod i fyw o'th fewn, a chanlyniad hynny yw trawsnewidiad adnabyddadwy ac sy'n dal ati.


Cofia, nad yw edifarhau yn fater o deimlo'n ddrwg. I ddweud y gwir, mae'r Beibl yn dweud fod edifeirwch go iawn yn arwain at "amseroedd adfywiol" ddaw oddi wrth yr Arglwydd. Dechrau eto ydy edifarhau a chyfaddef, "Dw i angen help." Mae'r alwad hon i droi i ffwrdd o'n pechod , a dychwelyd adref at Dduw, ar gyfer pawb.


Dyma'r dydd, efallai, y byddi di'n mynd adref. Coda o ble rwyt ti a thyrd adref i ble rwyt yn perthyn. Dydy'r penderfyniadau gwael rwyt wedi'u gwneud yn y gorffennol ddim o bwys. Mae Duw'n dweud wrthyt, "Beth bynnag rwyt ti wedi'i wneud, sut bynnag wyt ti nawr, dydy e ddim o bwys. Tyrd adre."


Beth wyt ti angen edifarhau amdano heddiw? Sut allai edifarhau dy arwain i amseroedd adfywiol" efo Duw?


Ysgrythur

Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Finding Your Way Back To God

Wyt ti'n chwilio am fwy allan o fywyd? Dymuniad mwy sydd mewn gwirionedd yn awchu am ddychwelyd at Dduw — ble bynnag mae dy berthynas â Duw yn awr. Dŷn ni i gyd yn profi cerrig milltir — neu ddeffroadau — wrth i ni ganfo...

More

Hoffem ddiolch i WaterBrook Multnomah Publishing Group am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.goodthingsbook.com/catalog.php?work=235828

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd