Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Darganfod dy ffordd nôl at DduwSampl

Finding Your Way Back To God

DYDD 1 O 5

Mae'n rhaid bod Mwy

Wyt ti fyth yn teimlo dy fod yn mynd ar ôl rywbeth mewn bywyd fydd byth yn dy fodloni? Tala sylw i'r teimlad yna. Mae e gan Dduw.

Dŷn ni ddim yn siarad am y camddefnydd o sylweddau, er mae yfed a chaethiwed i bethau eraill yn ffyrdd o fynd ar ôl rywbeth ofer. Ond dŷn ni wedi adnabod nifer o "bobl dda sy'n mynychu'r eglwys" sy'n eistedd mewn gwasanaeth bob wythnos-sy'n teimlo'n bell oddi wrth Dduw. Mae nhw'n "llwyddiannus" neu "gyfiawn" yn allanol, ond mae Duw ar goll o'u tu mewn. Mae nhw'n cadw'n brysur gydag arferion crefyddol a gwaith, ysgol, neu deulu, ond dydy hynny ddim yn ddigon. Mae nhw'n hiraethu am deimlo Duw yn eu bywydau go iawn.


Yr hiraeth hwnnw yw'r cam o ddeffro ysbrydol cyntaf i bawb ohonom sy'n canfod eu ffordd yn ôl at dduw. "Mae'n rhaid bod mwy."


Pan wyt ti'n hiraethu am gariad dwfn sy'n bodloni, Pan rwyt eisiau rhoi dy hun i rywbeth fydd yn gwneud gwahaniaeth, neu pan fyddi'n chwilio am atebion i gwestiynau mwyaf anodd bywyd, rwyt yn chwilio am Dduw. Mae gen ti ddau opsiwn: fedri di ddal ati i chwilio dy hun i lenwi'r hiraeth yma, neu fedri di edrych at yr un sy'n rhoi'r hiraeth hwnnw i ti, yn y lle cyntaf.


Mae ein hiraeth am gariad go iawn yn mynd yn ôl i ddechreuadau dynoliaeth. Bwriad Duw oed ein bod i brofi cariad yn uniongyrchol ganddo e a thrwy eraill roedden ni â pherthynas da â nhw, mewn ffordd iach. Mae'r hyn dŷn ni'n hiraethu amdano, nid yn unig gan Dduw, ond Duw yw e. Cariad yw e ac mae e'n mynd ar ein hôl gyda chariad.


Dŷn ni wedi clywed bod unrhyw ddyn sy'n cnocio ar ddrws puteindy, mewn gwirionedd, yn chwilio am Dduw. Os wyt ti'n cnocio ar ddrws ryw ymddygiad neu berthynas hunan-ddinistriol, mae'n bosib dy fod wedi cyrraedd at bwynt pwysig ar dy daith yn ôl at Dduw. Pam? Oherwydd bydd y siomedigaeth rwyt yn ei deimlo mewn eilyddion rhad yn gwneud i ti feddwl ble y gelli di ddod o hyd i gariad go iawn. A wnei di agor dy hun i adael i Dduw lenwi dy hiraeth am garu a chael dy garu?


Beth mae dy weithgareddau'r wythnos hon yn awgrymu beth fydd yn dy fodloni?


Ysgrythur

Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Finding Your Way Back To God

Wyt ti'n chwilio am fwy allan o fywyd? Dymuniad mwy sydd mewn gwirionedd yn awchu am ddychwelyd at Dduw — ble bynnag mae dy berthynas â Duw yn awr. Dŷn ni i gyd yn profi cerrig milltir — neu ddeffroadau — wrth i ni ganfo...

More

Hoffem ddiolch i WaterBrook Multnomah Publishing Group am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.goodthingsbook.com/catalog.php?work=235828

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd