Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Dechrau perthynas gydag IesuSampl

Beginning A Relationship With Jesus

DYDD 6 O 7

Pwy yw Duw?



Bydd deall rhai pethau allweddol am Dduw yn dy helpu wrth i ti ddechrau ei ddilyn. Gad i ni siarad am bedair elfen o'i gymeriad:



Mae Duw yn dragwyddol



Mae Duw yn defnyddio pob gair posib i ddisgrifio ei fod tu allan i amser: bythol, tragwyddol, am byth, yn bod, wedi bod a i ddod. Mae Duw yn dragwyddol. Dydy trgawyddol ddim yn golygu amser wirioneddol hir. Mae'n golygu "di-amser." Mae'n golygu tu allan i ddimensiwn amser.



Mae Duw yn berthynol



Mae'r Beibl yn dangos mewn sawl man fod Duw yn bodoli fel tri person gyda'i gilydd mewn undod perffaith. Mae hyn yn cael ei adnabod fel Trindod. Yn hytrach na bod yn Dduw ar ffurf unigol, mae Duw'r Beibl yn Dduw y Tad, Dduw y Mab (Iesu Grist), a Duw yr Ysbryd Glân. Mae yma dri person gwahanol, ond maen nhw'n byw mewn undod perffaith.



Mae Duw yn berffaith



Does dim yn ddiffygiol am Dduw a does dim angen unrhyw welliant. Does dim ar goll o ran - ei gymeriad, purdeb, gwybodaeth, grym, neu allu. Yn enwedig wrth gymharu â ni, mae Duw yn foesol berffaith. Mae'r Beibl yn dweud, "Golau ydy Duw; does dim tywyllwch o gwbl ynddo" (1 Ioan 1:5).



Duw yn "holl"



Mae Duw yn hollbresennol, mae e'n hollalluog, ac mae e'n hollwybodus. Mae'n gallu bod ymhobman ar yr un pryd. Mae ganddo rym dros bopeth ac mae e'n gwybod popeth.



Felly, pam fod yn hyn bwysig?



Mae deall tragwyddoldeb Duw yn rhoi gobaith imi. O wybod ei fod yn berthynol gallaf ddechrau sgwrs ag e. O wybod ei fod yn berffaith dw i'n gallu ymddiried yn Nuw, hyd yn oed pan dw i ddim yn deall. Ac o wybod ei fod yn holl mae'n golygu mai ef sy'n dal y grym, dyw e ddim wedi ein gadael yn unig, ac y bydd popeth sy'n ddrwg yn cael ei drechu.



Felly, pwy yw Duw? Fe yw'r un a'th wnaeth di, Fe yw'r un sy'n dy garu tu hwnt i bob amgyffred, a fe yw'r un sy'n rhoi ei Fab ei hun, Iesu Grist, i farw, fel ei fod yn gallu cael perthynas dragwyddol â ti.



Mae adnabod Duw yn newid ein safbwynt o bobl - dŷn ni'n dechrau eu gweld fel eneidiau tragwyddol, nid cyrff dros dro.



Mae adnabod Duw yn ein helpu i ddygymod ag anawsterau mewn ffordd wahanol. Mae adnabod Duw yn golygu nad ydyn ni'n gorfod teimlo fod bywyd allan o reoaleth, Mae Duw yn ein gwreiddio mewn gostyngeiddrwydd a phwrpas. Mae adnabod Duw yn ein helpu i wneud synnwyr o bethau.


Diwrnod 5Diwrnod 7

Am y Cynllun hwn

Beginning A Relationship With Jesus

Ai dim ond megis dechrau mewn ffydd yn yr Iesu wyt ti? Wyt ti eisiau gwybod mwy am Gristnogaeth ond ddim yn siŵr beth -neu sut - i ofyn? Felly dechreua yma. Wedi'i gymryd o'r llyfr, "Start Here" gan David Dwight a Nicole...

More

Hoffem ddiolch i David Dwight, Nicole Unice, a David C cook am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://www.dccpromo.com/start_here/

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd