Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Dechrau perthynas gydag IesuSampl

Beginning A Relationship With Jesus

DYDD 4 O 7

"Y Cynnig"



Un o noweddion rhyfeddol y ffydd Gristnogol yw fod perthynas gyda Iesu yn ddewis bob tro, a byth yn orfodaeth.



Ryw dro dyma ddyn yn rhedeg at Iesu a holi beth oedd rhaid "iddo" ei wneud i etifeddu bywyd tragwydddol (Marc 10:17-22). Fel gwnaeth Iesu dro ar ôl tro, trodd Iesu y sgwrs fel bod y dyn yn gweld yn glir ei hun.



Wnaeth Iesu ddim gofyn cwestiwn i'r dyn, dim ond rhestru gorchmynion Iddewig, ac ymyrrodd y dyn ifanc a dweud, "Athro, dw i wedi cadw'r rheolau yma i gyd!" Ond mae'r hyn sy'n digwydd nesaf yn hynod ddiddorol. Mae Marc 10:21 yn dweud, "Roedd Iesu wedi hoffi'r dyn yn fawr."



Edrychodd arno. Wnaeth e ddim pregethu. Wnaeth e ddim pwyntio bys. Yn hytrach, edrychodd i fyw llygaid y dyn ifanc a rhoi ei sylw'n gyfangwbl i'r person hwn, gan ei wahodd i feithrin perthynas.



Carodd Iesu. Wrth edrych arno tyfodd y cariad. Nid oherwydd bod y dyn ifanc wedi cadw'n gaeth at y rheolau, neu ei weithredoedd anhygoel, Roedd Iesu yn ei garu am yr hyn ydoedd.



Mae'n amlwg fod y dyn yn hoff iawn o'r syniad o Iesu ac am wneud dewis da. Ond pan wnaeth Iesu gynnig perthynas, fe wnaeth hynny yng nghyd-destun ymrwymiad: "...dos, a gwertha dy eiddo i gyd a rho'r arian i bobl dlawd. Wedyn cei drysor yn y nefoedd. Yna tyrd, dilyn fi.” (Mathew 19:21).



Pan edrychodd Iesu a charu'r dyn, gwyddai'n union beth oedd raid iddo'i wneud i weld sut un oedd y dyn go iawn. Drwy roi pwyslais ar feddiannau'r dyn, seth Iesu at wraidd beth oedd o bwys i'r unigolyn hwn.



Felly edrychodd iesu arno a'i garu, gan osod o'i flaen y dewis i gael perthynas. Ond cerdded i ffwrdd wnaeth y dyn. Dyma fawredd Duw gan mai e sy'n dal yr holl rym yn y berthynas sydd ganddo gyda bob un ohonom, ond er mawr syndod, mae'n rhoi'r ryddid i ni dderbyn neu ei wrthod.



Weithiau mae pobl yn dweud: "Os yw Duw eisiau perthynas gyda phob un ohonom ni pam na wnaeth o ddim trefnu ymlaen llaw i hyn ddigwydd? Ond does dim posib trefnu cariad ymlaen llaw. Pe baem yn cael ein gorfodsi i dderbyn Iesu a throi'n Gristnogion - byddai hyn yn mynd yn erbyn craidd Cristnogaeth - bod cynnig Iesu wedi'i selio war gariad, y ffurf puraf o gariad.

Ysgrythur

Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

Beginning A Relationship With Jesus

Ai dim ond megis dechrau mewn ffydd yn yr Iesu wyt ti? Wyt ti eisiau gwybod mwy am Gristnogaeth ond ddim yn siŵr beth -neu sut - i ofyn? Felly dechreua yma. Wedi'i gymryd o'r llyfr, "Start Here" gan David Dwight a Nicole...

More

Hoffem ddiolch i David Dwight, Nicole Unice, a David C cook am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://www.dccpromo.com/start_here/

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd