Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Dechrau perthynas gydag IesuSampl

Beginning A Relationship With Jesus

DYDD 2 O 7

"Cwestiynau"



Mae pobl sydd â'r ddawn i drafod perthynas pobl â'i gilydd, yn amlach na pheidio, yn gofyn y cwestiynau gorau. Pwy well na Duw ar gyfer hyn.



Cymer olwg ar rai o gwestiynau dyfnaf Duw:



Ble wyt ti? (Genesis 3:8-9)



Reit ar ddechrau'r Beibl, dangosodd Duw yr elfen hon o'i gymeriad trwy ei berthynas gydag Adda ac Efa - perthynas dryloyw ac ymddiriedaeth ddyddiol.

Yn Genesis 3, dŷn ni'n darllen am Adda ac Efa yn troi oddi wrth Dduw, gan ddewis i fyw ar wahân iddo. Pan chwalodd y berthynas chwiliodd Duw am Adda ac Efa. Nid chwilio er mwyn cosbi neu godi cywilydd, ond i adfer y berthynas rhynddynt.



Pan fyddi'n teimlo Duw yn cyffroi o'th fewn, rwyt tithau'n un mae e'n chwilio amdano fel dy fod yn gallu ei adnabod a byw mewn perthynas ag e.



Beth dych chi eisiau? (Ioan : 1:35-39)



Yn Ioan 1 dŷn ni'n gweld Iesu yn gofyn i ddynion chwilfrydig gwestiwn fel un Duw, "Beth dych chi eisiau?" (Ioan 1:38)



Anwybyddodd y dynion ei gwestiwn gan newid y pwnc a gofyn i Iesu, "Ble wyt ti'n aros?" Yn lle dweud yn union ble mae'n ateb drwy ddweud, “Dewch i weld.” (Ioan 1:39). Yn hytrach nag ateb, mae'n rhoi gwahoddiad iddyn nhw.



Yn aml, ein tuedd yw dweud wrth Dduw, "Dw i eisiau rhywbeth gennyt ti", tra mae Duw yn dweud, "Dw i eisiau bod gyda ti."

Pwy dych chi'n ddweud ydw i? (Mathew 16:13-15)



Dyma ble mae Cristnogaeth yn dechrau. Dy ateb i'r cwestiwn ywdy ddechrau di yma, oherwydd dyma ble rwyt ti'n glir am yr hyn rwyt yn feddwl o'r Iesu. Yn ffodus mae cofnod o'r hyn ddwedodd Iesu am ei hun i'w weld yn y Beibl, gan gynnwys Ioan 10:36, Ioan 11:25, Ioan 10:11, ac Ioan 8:58.



Dim ond rhai o ddatganiadau Iesu am ei hun sydd yma - sut y byddai'n ateb cwestiynau am ei hunaniaeth. Ond dydy Iesu ddim yn stopio; gan ei fod yn ateb yn fwy personol.



Wyt ti'n credu hyn? (Ioan11:25-26)



Mae Iesu bob amser yn gwneud popeth yn bersonol. Gofynnodd i'w ddisgyblion, “Ond beth amdanoch chi? - Pwy dych chi'n ddweud ydw i?” ac mae'n gofyn i Martha yn Ioan 25-26, "Wyt ti'n credu hyn?”



Mae Iesu'n gofyn yr un cwestiwn i ni hefyd ac mae ateb y cwestiynau hyn yn rhan o fod mewn perthynas gyda Duw, o ddod o hyd i Dduw a darganfod y gwirionedd. Ac mae dod o hyd i'r gwirionedd yn dechrau gyda Iesu Grist.

Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

Beginning A Relationship With Jesus

Ai dim ond megis dechrau mewn ffydd yn yr Iesu wyt ti? Wyt ti eisiau gwybod mwy am Gristnogaeth ond ddim yn siŵr beth -neu sut - i ofyn? Felly dechreua yma. Wedi'i gymryd o'r llyfr, "Start Here" gan David Dwight a Nicole...

More

Hoffem ddiolch i David Dwight, Nicole Unice, a David C cook am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://www.dccpromo.com/start_here/

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd