Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

20/20 Gwelwyd. Dewiswyd. Anfonwyd. Gan Christine Caine Sampl

20/20: Seen. Chosen. Sent. By Christine Caine

DYDD 5 O 7

GAD I NI GARU EIN CYMDOGION


Un tro safodd un o'r arbenigwyr yn y Gyfraith ar ei draed i roi prawf ar Iesu. Gofynnodd iddo, “Athro, beth sydd raid i mi ei wneud i gael bywyd tragwyddol?” Atebodd Iesu, “Beth mae Cyfraith Moses yn ei ddweud? Sut wyt ti'n ei deall?” Meddai'r dyn: “ ‘Rwyt i garu'r Arglwydd dy Dduw â'th holl galon, ac â'th holl enaid, â'th holl nerth ac â'th holl feddwl,’ a ‘Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt ti'n dy garu dy hun.’” “Rwyt ti'n iawn!” meddai Iesu. “Gwna hynny a chei di fywyd.” Ond roedd y dyn eisiau cyfiawnhau ei hun, felly gofynnodd i Iesu, “Ond pwy ydy fy nghymydog i?” -Luke 10:25-29 beibl.net



Dameg yw stori'r Samariad Caredig wnaeth Iesu ei dweud am ddyn a oedd yn y lle anghywir ar yr amser anghywir, yr ymosodwyd arno gan lladron, a adawyd yn hanner marw, a gafodd ei daflu i ochr y ffordd a'i adael i farw.



Yn ôl yr hanes, y personau cyntaf a'r ail i ddod ar y dyn oedd pobl grefyddol - offeiriad Iddewig a Lefiad - a oedd yn gwybod Gair Duw ac â swyddi o awdurdod yn y synagog. Aeth y ddau heibio iddo. Yr oedd y trydydd dyn, un nad oedd yn grefyddol, ond yn frodor o Samaria, wedi ei gyffwrdd gan dosturi. Aeth ato.



Roedd y tri ar eu ffordd i rywle arall, ond dim ond un oedd yn fodlon cael ei darfu gydag anhwylustod. Dim ond un roddodd o'i amser a'i adnoddau. Ac roedd yn digwydd bod yn Samariad - dyn o hil a diwylliant o bobl wedi'u dirmygu gan yr Iddewon. Carodd y dyn hwn fel y mae Duw yn ei garu, gan chwalu rhwystr rhag rhagfarn a gwahaniaethu. Carodd ei gymydog fel ef ei hun.



Ar ôl i Iesu ddweud y stori, dwedodd: “Dos dithau a gwna'r un fath.” (Luc 10:37).



Pan ddes i’n ymwybodol o fasnachu mewn pobl am y tro cyntaf, defnyddiodd Duw'r stori hon i’m harwain at fy nyfodol. Pwysleisiodd bwynt i mi: “Aeth ato” (Luc 10:34).



Ro’n i'n ddynes brysur, yn wraig, yn fam i ddau o blant, gyda digon i'w wneud, ond roedd Duw eisiau torri ar draws fy mywyd a fy nghynlluniau at ei ddiben. Roedd Duw eisiau i mi groesi'r ffordd ar gyfer pobl nad oeddwn i erioed wedi cwrdd â nhw a byth yn gwybod eu bod yn bodoli. Roedd am i mi fynd i ddod o hyd i'r dynion, menywod a phlant coll sydd wedi'u dal mewn caethwasiaeth fodern.



Pwy yw dy gymydog?



I mi, mae dioddefwyr masnachu mewn pobl yn gymdogion i mi. Mae'r bobl dw i'n cwrdd â nhw mewn eglwysi yn gymdogion i mi. Y wraig sy'n byw ar draws y stryd yw fy nghymydog. Y person digartref a welaf yw fy nghymydog. Y person sydd angen rhywbeth y gallaf ei ddarparu yw fy nghymydog.



Os ydym am gyrraedd ein byd, yna mae angen inni weld bod pawb yn gymydog i ni. Mae pob person yn deilwng o'n cariad ni waeth beth fo'u credoau, eu gweithredoedd neu eu hagweddau, oherwydd mae Duw yn eu gweld yn gariadus ac yn bosib i'w hachub trwy ei ras.



GWEDDI


Dduw, dw i'n dewis croesi'r ffordd, i helpu fy nghymydog, i'w caru nhw fel dw i'n caru fy hun. Diolch am fy annog bob amser, a fy helpu i gofio, nad ydw i’n rhy brysur ar eu cyfer. Yn enw Iesu dw i’n gweddïo, Amen.



Addaswyd o 20/20: Seen.Chosen.Sent gan Christine Caine. Hawlfraint © 2019 gan Christine Caine. Ailargraffwyd gyda chaniatâd Lifeway Women. Cedwir pob hawl.


Diwrnod 4Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

20/20: Seen. Chosen. Sent. By Christine Caine

Fedri di ddychmygu teimlo cael dy weld cymaint gan Dduw fel na elli di helpu ond gweld eraill? Elli di ddychmygu dy fywyd cyffredin bob dydd, yn cael effaith dragwyddol sylweddol? Bydd y defosiwn 7 diwrnod hwn gan Christ...

More

Hoffem ddiolch i Christine Caine - A21 Propel CCM am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://www.christinecaine.com/2020study

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd