Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

20/20 Gwelwyd. Dewiswyd. Anfonwyd. Gan Christine Caine Sampl

20/20: Seen. Chosen. Sent. By Christine Caine

DYDD 1 O 7

MAE DUW’N DY WELD


“Ond dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho, ‘Paid cymryd sylw o ba mor dal a golygus ydy e. Dw i ddim wedi’i ddewis e. Dydy Duw ddim yn edrych ar bethau'r un fath ag y mae pobl. Mae pobl yn edrych ar y tu allan, ond mae’r ARGLWYDD yn edrych ar sut berson ydy rhywun go iawn’.” -1 Samuel 16:7 beibl.net



Ar daith flynyddoedd yn ôl, es i i gael coffi yn iawn cyn i'n teulu fynd ar awyren. Aeth Nick ymlaen gyda'r merched i'w cael nhw i setlo. Pan ddes yn ôl at y giât, ro’n i newydd ddechrau dros y bont o'r terminws i'r awyren, pan edrychodd un o weithwyr cwmni hedfan arnaf a dweud, “Dydych chi ddim yn dod ymlaen ma'am.”



Mewn cryn syndod wnes i ofyn pam.



“Wel, os oes gennych chi amser i fynd i gael coffi, yna does dim amser gyda chi i fynd ar yr awyren.”



Ces i sioc. Nid oedd yn gwneud synnwyr. Roeddwn i'n gwybod nad oedd hi wedi mynd heibio'r amser i fynd ar yr awyren. “Mae’r drws ar agor ma’am. Os gwelwch yn dda, cymerwch fy nhocyn byrddio a gadewch i mi fynd ymlaen.”



Doedd dim modd ei darbwyllo.



“Ma’am, mae fy ngŵr a’m plant ar yr awyren,” dywedais. “Gadewch i mi fynd ymlaen.”



Doedd dim symud arni.



Dw i'n cofio teimlo mor ddiymadferth, wedi fy synnu cymaint, ac yn teimlo mor ddi-nod. Ddangosodd hi ddim empathi tuag ata i, dim pryder am fy ngwahanu oddi wrth fy nheulu. Roedd hi'n edrych arna i, ond doedd hi ddim yn gweld fi.



Es i ar yr awyren yn y diwedd, ond dydw i erioed wedi anghofio sut y gwnaeth y fenyw honno i mi deimlo. Ac eto, rwy'n ymwybodol iawn o'r amseroedd rydw i wedi ymddwyn yn debycach iddi hi nag rydw i wedi ymddwyn fel Iesu - pan rydw i wedi edrych, ond heb weld. Pa mor hawdd yw hi i ni edrych yn ddifeddwl heibio'r gweinydd yn y bwyty, y triniwr ewinedd yn y salon neu'r clerc yn y siop. Pa mor gyffredin yw hi i ni syllu ar ein ffonau ac anghofio cydnabod yr un sy’n rhoi ein coffi i ni? Sawl gwaith ydyn ni wedi bod yr un i anwybyddu rhywun arall?



Dydy edrych ddim run peth â gweld. Edrychodd y ddynes wrth y giât arna i, ond wnaeth hi ddim gweld fi. Wnaeth hi edrych arna i, ond doedd hi ddim yn gweld nac yn deall fy sefyllfa yn llawn.



Mae Duw eisiau i ni edrych a gweld! Mae am i ni weld pobl eraill drwy ei safbwyntiau - yn enwedig pan ddaw’n fater o weld pobl sy’n croesi ein llwybrau bob dydd.



GWEDDI



O Dad nefol, agor llygaid fy nghalon er mwyn imi weld pobl a pheidio ag anghofio neb eto. Helpa fi i wneud i bobl o'm cwmpas deimlo eu bod yn cael eu gweld, eu hadnabod, eu clywed, eu hurddas a'u bod yn cael eu gwerthfawrogi. Defnyddia’r astudiaeth hon i ddangos i mi sut y gallaf dyfu i weld eraill yn gliriach nag erioed o'r blaen, i'w gweld fel yr wyt ti’n eu gweld. Yn enw Iesu, Amen.



Addaswyd o 20/20: Seen.Chosen.Sent gan Christine Caine. Hawlfraint © 2019 gan Christine Caine. Ailargraffwyd gyda chaniatâd Lifeway Women. Cedwir pob hawl.


Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

20/20: Seen. Chosen. Sent. By Christine Caine

Fedri di ddychmygu teimlo cael dy weld cymaint gan Dduw fel na elli di helpu ond gweld eraill? Elli di ddychmygu dy fywyd cyffredin bob dydd, yn cael effaith dragwyddol sylweddol? Bydd y defosiwn 7 diwrnod hwn gan Christ...

More

Hoffem ddiolch i Christine Caine - A21 Propel CCM am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://www.christinecaine.com/2020study

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd