Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Rheolaeth Amser DwyfolSampl

Divine Time Management

DYDD 6 O 6

Gofalu am dy hun gyda’th Amser



I fod â’r gallu i garu eraill yn dda dŷn ni angen yr amser i garu ein hunain yn dda hefyd. Mae hynny’n gofyn am, nid yn unig hunanofal corfforol, ond hefyd ysbrydol, emosiynol, a meddyliol. Pan dŷn anrhydeddu ein hunain gydag ein hamser, mae gynnon ni fwy o allu i arddangos ffrwythau’r Ysbryd yn ein bywydau. Pan dŷn ni ddim yn gofalu am ein hunain gyda’n hamser, gall arddangos ffrwythau’r Ysbryd fod yn fwy o strygl.



Ond dyma'r ffrwyth mae'r Ysbryd Glân yn ei dyfu yn ein bywydau ni: cariad, llawenydd, heddwch dwfn, amynedd, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, addfwynder a hunanreolaeth. Does dim cyfraith yn erbyn pethau felly. ~Galatiaid 5:22-23 (beibl.net)



Mae hunanofal da ddim angen newidiadau dramatig. Gall ymwneud â rhoi ar waith rhai arferion syml ac aros yn gyfarwydd gyda dy anghenion.



Er enghraifft, gyda hunanofal ysbrydol, rwyt yn gallu ymrwymo i ddarllen y Beibl bob dydd a gweddïo. Mae’n well gen i gael fy amser tawel yn gynnar y bore, ond falle fod amser gwahanol yn gweithio’n well i ti. Cofia aros yn ymwybodol o unrhyw amser ychwanegol rwyt ti angen gyda Duw. Er enghraifft, pan dw i’n mynd drwy rywbeth heriol, dw i’n tueddu i gymryd mwy o amser i gadw cofnod.



Gyda hunan-ofal corfforol, mae cysgu, bwyta, ac ymarfer corff yw piler lles. Mae bod ag amser gwely cyson, bwyta bwydydd iachus, a chymryd peth amser ar gyfer ymarfer corff, yn gallu gwneud byd o wahaniaeth gyda’th les. I ddechrau, rho dro ar rywbeth syml fel larwm “amser gwely” ar dy ffôn. Yna, anela at ymlacio tuag at gael digon o gwsg.



Gyda hunan-ofal emosiynol, dŷn ni angen cymryd amser o unrhyw feichiau emosiynol dŷn ni’n eu cario fel ein bod yn gallu rhoi'r rhain i Dduw yn gyson.



”Rhowch y pethau dych chi'n poeni amdanyn nhw iddo fe, achos mae e'n gofalu amdanoch chi.” ~1 Pedr 5:7 (beibl.net).



O’m rhan i, mae lot o ryddhau emosiynol yn digwydd yn ystod fy amser gweddi bob bore. Ond weithiau mae gen i fwy o bethau i ddelio â nhw, a dw i angen treulio amser ychwanegol mewn gweddi, neu siarad â ffrind.



Yn olaf. Gydag ein hunan-ofal meddyliol, dŷn ni angen bod yn ofalus am beth dŷn ni’n feddwl amdano a’i adael yna.



Fel mae Rhufeiniaid 12:2 (beibl.net) yn esbonio, fedrwn i ddim cael dull goddefol i’n meddyliau: “O hyn ymlaen rhaid i chi stopio ymddwyn yr un fath â phobl sydd ddim yn credu. Gadewch i Dduw newid eich bywyd chi'n llwyr drwy chwyldroi eich ffordd o feddwl am bethau. Byddwch yn gwybod wedyn beth mae Duw eisiau, ac yn gweld fod hynny'n dda ac yn ei blesio fe, ac mai dyna'r peth iawn i'w wneud.”



Mae hynny’n golygu dŷn ni angen gwrthod celwyddau a negeseuon negyddol o’r byd a ffocysu ar beth mae Duw’n ei ddweud yng Nghrist. Os daw unrhyw feddyliau i’th feddwl gan wneud i ti deimlo dy fod yn annheilwng, yn annerbyniol, yn ddigariad neu ddim yn ddigon, mae angen i ti frwydro'n ôl â'r gwir o'r Gair fod y cariad tuag atat yn gyfan gwbl a llwyr!



”Meddyliwch mor aruthrol fawr ydy'r cariad mae'r Tad wedi'i ddangos aton ni! Dŷn ni'n cael ein galw'n blant Duw!” ~1 John 3:1a (NIV)



Mae Duw’n dy garu ac mae e eisiau i ti garu dy hun.



Os wnest ti fwynhau’r cynllun darllen hwn, byddi’n siŵr o hoffi
Divine Time Management: The Joy of Trusting God's Loving Plans for You.



Divine Time Management, mae’r llyfr yn cymryd golwg ar sut y gelli di gymryd dull Duw Ganolog i reolaeth amser. Llai o straen a mwy o fendithion/1



Darganfydda fwy am y llyfr a gweld mwy o adnoddau yn http://www.DivineTimeBook.com


Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

Divine Time Management

Gall rheoli amser traddodiadol achosi straen pan mai'r nod yw cael bywyd "dan reolaeth" drwy ein cryfder a'n hunanddisgyblaeth ein hunain. Ond mae’r Beibl yn dweud wrthon ni ein bod ni’n cael heddwch a gorffwys pan dŷn n...

More

Hoffem ddiolch i Elizabeth Grace Saunders am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://www.divinetimebook.com/

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd