Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Rheolaeth Amser DwyfolSampl

Divine Time Management

DYDD 4 O 6

Caru Duw gyda'th Amser



Mae Duw’n dad da ac mae e’n rhoi canllawiau clir i ni yn ei rodd o’r Beibl. Ond dydy e ddim eisiau rhoi llyfr i’n harwain mewn bywyd, ein cosbi os ydyn ni’n gwneud llanast o bethau, ac yna ein gwêl pan fyddwn yn cyrraedd y nefoedd. Mae gan Dduw awydd dwfn i fod ar y daith gyda ni bob cam o'r ffordd. Dyna pam mai un o’n blaenoriaethau mwyaf gyda’n hamser yw caru Duw.



Fel mae Mathew 22:37-38 (beibl.net) yn dweud: “Atebodd Iesu: ‘Rwyt i garu'r Arglwydd dy Dduw â'th holl galon, ac â'th holl enaid a'th holl feddwl. Dyma'r gorchymyn cyntaf a'r pwysica’.”


Felly sut olwg sydd ar garu Duw gyda’n hamser, go iawn? Mae yna lawer o ffyrdd. Ond dyma rai allweddol: Addoli, Y Gair, Gweddi.



Pan fyddwn ni’n cymryd amser i addoliun ai mewn cynulleidfa, yn y capel, neu ar ben ein hunain drwy wrando ar gerddoriaeth mawl wrth fynd am dro, dŷn ni’n atgoffa ein hunain o bwy yw Duw a phwy ydyn ni mewn perthynas ag e. Dŷn ni’n cofio ei bŵer aruthrol ac yn cael ein hatgoffa o gymaint mae e’n ein caru. Mae’r meithrin hwn o barch a chariad yn bendithio ein calonnau ni a chalon Duw.



Fel mae’n dweud yn Salm 27:4 (beibl.net): “Gofynnais i'r ARGLWYDD am un peth - dyma beth dw i wir eisiau: Dw i eisiau aros yn nhŷ'r ARGLWYDD am weddill fy mywyd; i ryfeddu ar haelioni'r ARGLWYDD, a myfyrio yn ei deml.”



Gallwn hefyd ddangos ein cariad tuag at Dduw drwy dreulio amser yn ei Air. Pan dŷn ni’n darllen y Beibl, dŷn ni’n ennill dealltwriaeth ddyfnach o bwy yw Duw a hefyd beth mae e eisiau gynnon ni. Mae’n bwysig ein bod yn gwybod beth mae Duw ei eisiau gynnon ni oherwydd rhan o’r ffordd dŷn ni’n dangos ein cariad i Dduw yw drwy ufuddhau iddo.



Fel mae 1 Ioan 5:2-3 (beibl.net) yn dweud: “Dŷn ni'n gwybod ein bod yn caru plant Duw os ydyn ni'n caru Duw ac yn gwneud beth mae'n ei ddweud. 3 Mae caru Duw yn golygu bod yn ufudd iddo, a dydy hynny ddim yn anodd,”



A dyma’r drydedd ffordd dŷn ni’n gallu caru Duw gyda’n hamser ydy drwy gymryd amser i weddïo: Mae gweddi yn un o fy hoff weithredoedd, felly dw i’n gweddïo mewn llawer o wahanol ffyrdd. Er enghraifft, yn y bore dw i’n cofnodi fy meddyliau i siarad drwyddyn nhw gyda Duw beth sydd ar fy meddwl, yr hyn sy’n fy mhoeni, a beth i wneud nesaf. Dw i hefyd hefo rhestr weddi o bobl dw i’n gweddïo drostyn nhw. Ac yn olaf, drwy’r dydd, dw i’n siarad â Duw am bopeth, o sut y dylwn i wynebu sefyllfa anodd yn y gwaith, i'w foli e am rywbeth sydd wedi mynd yn dda.



Pan dy ni’n caru Duw gyda’n hamser, dŷn ni’n profi synnwyr mwy o gariad e mewn ymateb.


Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

Divine Time Management

Gall rheoli amser traddodiadol achosi straen pan mai'r nod yw cael bywyd "dan reolaeth" drwy ein cryfder a'n hunanddisgyblaeth ein hunain. Ond mae’r Beibl yn dweud wrthon ni ein bod ni’n cael heddwch a gorffwys pan dŷn n...

More

Hoffem ddiolch i Elizabeth Grace Saunders am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://www.divinetimebook.com/

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd