Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Pam y Pasg?Sampl

Why Easter?

DYDD 3 O 5

Rhyddid oddi wrth beth?



Talodd Iesu, trwy ei waed ar y groes, y pris i’n rhyddhau ni.



Rhyddid oddi wrth euogrwydd.



Pa un ai os ydyn ni’n teimlo yn euog ai peidio, dŷn ni oll yn euog o flaen Duw oherwydd yr amryw weithiau dŷn ni wedi torri ei ddeddfau mewn meddwl, gair a gweithred. Yn union fel rhywun yn cyflawni trosedd, mae yna gosb am dorri deddf Duw. ‘Marwolaeth ydy'r cyflog mae pechod yn ei dalu’(Rhufeiniaid 6:23).



Canlyniad y pethau drwg dŷn ni’n ei wneud yw marwolaeth ysbrydol - cael ein torri i ffwrdd oddi wrth Dduw yn dragwyddol. Dŷn ni i gyd yn haeddu dioddef y gosb honno. Cafodd y gosb honno ei chymryd gan Iesu ar y groes yn ein lle, fel bod ein heuogrwydd yn gallu cael ei gymryd i ffwrdd.



Rhyddid oddi wrth gaethiwed



Dwedodd Iesu, ‘mae pawb sy'n pechu wedi'i gaethiwo gan bechod.(Ioan 8:34). Bu farw Iesu i’n rhyddhau o’r caethiwed hwnnw. Cafodd pŵer y caethiwed hwnnw ei dorri ar y groes. Er ein bod o brys i’w gilydd yn dal i faglu mae pŵer y caethiwed hwn yn cael ei dorri pan mae Iesu’n ein gollwng yn rhydd.



Rhydd oddi wrth ofn



‘Dwedodd Iesu ei fod yn ‘marw i ddwyn y grym oddi ar yr un sy'n dal grym marwolaeth - hynny ydy, y diafol. Mae Iesu wedi gollwng pobl yn rhydd fel bod dim rhaid iddyn nhw ofni marw bellach’ (Hebreaid 2:14-15).Bellach, does dim rhaid i ni ofni marwolaeth.



Nid marwolaeth yw'r diwedd i'r rhai y mae Iesu wedi'u gollwng yn rhydd. Yn hytrach y porth i'r nefoedd yw, lle byddwn yn rhydd o bresenoldeb pechod hyd yn oed. Pan wnaeth Iesu ein gollwng ni’n rhydd o ofn marwolaeth, fe wnaeth hefyd ein rhyddhau o bob ofn arall.


Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Why Easter?

Beth sydd mor bwysig am y Pasg? Pam fod yna gymaint o ddiddordeb am berson a anwyd 2000 0 flynyddoedd yn ôl? Pam fod cymaint o bobl wedi’u cynhyrfu gan Iesu? Pam fod ei angen e arnom ni? Pam wnaeth e ddod? Pam wnaeth e f...

More

Hoffem ddiolch i Alpha a Nicky Gumbel am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://alpha.org/

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd